Yn ôl

1 Cronicl

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

1 CRONICL 13

Dafydd eisiau symud yr Arch

(2 Samuel 6:1-11)

1 Dyma Dafydd yn gofyn am gyngor ei swyddogion milwrol (gan gynnwys capteiniaid yr unedau o fil ac o gant). 2 Dwedodd wrth y gynulleidfa gyfan, “Os mai dyna dych chi eisiau, ac os ydy'r ARGLWYDD ein Duw yn cytuno, gadewch i ni anfon at bawb ym mhob rhan o Israel, ac at yr offeiriaid a'r Lefiaid yn eu trefi, i'w gwahodd nhw ddod i ymuno gyda ni. 3 Gadewch i ni symud Arch ein Duw yn ôl yma. Wnaethon ni ddim gofyn am ei arweiniad o gwbl pan oedd Saul yn frenin.” 4 A dyma'r gynulleidfa'n cytuno. Roedd pawb yn teimlo mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud. 5 Felly dyma Dafydd yn galw pobl Israel i gyd at ei gilydd – o afon Shichor yn yr Aifft i Lebo-chamath, er mwyn symud Arch Duw yno o Ciriath-iearîm. 6 Dyma Dafydd a phobl Israel i gyd yn mynd i Baäla (sef Ciriath-iearîm) yn Jwda, i nôl Arch Duw. Roedd yr enw ‛Arch Duw‛ yn cyfeirio at yr ARGLWYDD sy'n eistedd ar ei orsedd uwchben y cerwbiaid.

7 Dyma nhw'n gosod yr Arch ar gert newydd, a'i symud hi o dŷ Abinadab, gydag Wssa ac Achïo yn arwain y cert. 8 Roedd Dafydd a phobl Israel i gyd yn dathlu'n llawn hwyl o flaen Duw, ac yn canu i gyfeiliant telynau a nablau, tambwrinau, symbalau ac utgyrn. 9 Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Cidon, dyma'r ychen yn baglu, a dyma Wssa yn estyn ei law i afael yn yr Arch. 10 Roedd yr ARGLWYDD wedi digio gydag Wssa, a dyma fe'n ei daro'n farw am estyn ei law a chyffwrdd yr Arch. Bu farw yn y fan a'r lle o flaen Duw. 11 Roedd Dafydd wedi gwylltio fod yr ARGLWYDD wedi ymosod ar Wssa; a dyma fe'n galw'r lle yn Perets-Wssa (sef ‛y ffrwydriad yn erbyn Wssa‛). Dyna ydy enw'r lle hyd heddiw. 12 Roedd Duw wedi codi ofn ar Dafydd y diwrnod hwnnw. “Sut all Arch Duw ddod ata i?” meddai. 13 Felly wnaeth Dafydd ddim mynd â'r Arch adre i Ddinas Dafydd. Aeth â hi i dŷ Obed-edom, dyn o Gath. 14 Arhosodd Arch yr ARGLWYDD yn y tŷ gyda theulu Obed-edom am dri mis. A dyma'r ARGLWYDD yn bendithio teulu Obed-edom a phopeth oedd ganddo.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity