Yn ôl

1 Cronicl

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

1 CRONICL 14

Dylanwad Dafydd yn tyfu

(2 Samuel 5:11-16)

1 Dyma Huram, brenin Tyrus, yn anfon negeswyr at Dafydd. Anfonodd seiri coed a seiri maen gyda nhw, a choed cedrwydd, i adeiladu palas i Dafydd. 2 Roedd Dafydd yn gweld mai'r ARGLWYDD oedd wedi'i wneud yn frenin ar Israel ac wedi gwneud i'w deyrnas lwyddo'n fawr, er mwyn ei bobl Israel.

3 Yn Jerwsalem dyma Dafydd yn cymryd mwy o wragedd, ac yn cael mwy o blant eto. 4 Dyma enwau'r plant gafodd e yn Jerwsalem: Shammwa, Shofaf, Nathan, Solomon, 5 Ifchar, Elishwa, Elpelet, 6 Noga, Neffeg, Jaffîa, 7 Elishama, Beëliada ac Eliffelet.

Ennill brwydr yn erbyn y Philistiaid

(2 Samuel 5:17-25)

8 Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi cael ei eneinio'n frenin ar Israel i gyd, dyma'u byddin gyfan yn mynd allan i chwilio amdano. Clywodd Dafydd am hyn, ac aeth allan i ymladd yn eu herbyn nhw. 9 Roedd byddin y Philistiaid wedi dod ac ymosod ar Ddyffryn Reffaïm. Ref

10 Dyma Dafydd yn gofyn i Dduw, “Ddylwn i fynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid? Fyddi di'n gwneud i mi ennill?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, achos bydda i'n eu rhoi nhw i ti.”

11 Felly aeth i Baal-peratsîm a'u trechu nhw yno. Dwedodd Dafydd, “Mae Duw wedi gwneud i mi dorri drwy fy ngelynion fel llifogydd o ddŵr.” A dyna pam wnaeth e alw'r lle hwnnw yn Baal-peratsîm. Ref 12 Roedd y Philistiaid wedi gadael eu heilun-dduwiau ar ôl, a dyma Dafydd yn gorchymyn iddyn nhw gael eu llosgi.

13 Dyma'r Philistiaid yn ymosod eto ar y dyffryn. 14 A dyma Dafydd yn mynd i ofyn eto i Dduw beth i'w wneud. Y tro yma cafodd yr ateb, “Paid ymosod arnyn nhw o'r tu blaen. Dos rownd y tu cefn iddyn nhw ac ymosod o gyfeiriad y coed balsam. 15 Pan fyddi'n clywed sŵn cyffro yn y coed, ymosod ar unwaith. Dyna'r arwydd fod Duw yn mynd o dy flaen di i daro byddin y Philistiaid.” 16 Felly dyma Dafydd yn gwneud fel roedd Duw wedi dweud wrtho, a dyma nhw'n taro byddin y Philistiaid yr holl ffordd o Gibeon i gyrion Geser.

17 Roedd Dafydd yn enwog ym mhobman; roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud i'r gwledydd i gyd ei ofni.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity