Yn ôl

1 Cronicl

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

1 CRONICL 16

Dafydd yn arwain yr addoliad

(2 Samuel 6:17-22)

1 Dyma nhw'n dod ag Arch Duw a'i gosod yn y babell roedd Dafydd wedi'i chodi iddi. Yna dyma nhw'n cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i ofyn am fendith Duw. 2 Ar ôl cyflwyno'r offrymau yma, dyma Dafydd yn bendithio'r bobl yn enw'r ARGLWYDD. 3 Yna dyma fe'n rhannu bwyd i bawb yn Israel – dynion a merched. Cafodd pawb dorth o fara, teisen datys a theisen rhesin. 4 Yna dyma fe'n penodi rhai o'r Lefiaid i arwain yr addoliad o flaen Arch yr ARGLWYDD, i ailadrodd yr hanes wrth ganu a moli'r ARGLWYDD, Duw Israel. 5 Asaff oedd y pennaeth, a Sechareia yn ei helpu. Roedd Jeiel, Shemiramoth, Iechiel, Matitheia, Eliab, Benaia, Obed-Edom, a Jeiel yn canu nablau a thelynau gwahanol, ac Asaff yn taro'r symbalau; 6 a'r offeiriaid, Benaia a Iachsiel yn canu utgyrn yn rheolaidd o flaen Arch Ymrwymiad Duw.

7 Ar y diwrnod hwnnw rhoddodd Dafydd i Asaff a'i gyfeillion, y gân hon o ddiolch:

Salm o ddiolch

(Salm 105:1-15; Salm 96:1-13; Salm 106:1,47-48)

8 Diolchwch i'r ARGLWYDD, a galw ar ei enw!

Dwedwch wrth bawb beth mae wedi'i wneud.

9 Canwch iddo, a defnyddio cerddoriaeth i'w foli!

Dwedwch am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.

10 Broliwch ei enw sanctaidd!

Boed i bawb sy'n ceisio'r ARGLWYDD ddathlu.

11 Dewch at yr ARGLWYDD, profwch ei nerth;

ceisiwch ei gwmni bob amser.

12 Cofiwch y pethau rhyfeddol a wnaeth –

ei wyrthiau, a'r cwbl mae wedi ei ddyfarnu!

13 Ie, chi blant ei was Israel;

plant Jacob mae wedi'u dewis.

14 Yr ARGLWYDD ein Duw ni ydy e;

yr un sy'n barnu'r ddaear gyfan.

15 Cofiwch ei ymrwymiad bob amser,

a'i addewid am fil o genedlaethau –

16 yr ymrwymiad wnaeth e i Abraham,

a'r addewid wnaeth e ar lw i Isaac.

17 Yna ei gadarnhau yn rheol i Jacob –

ymrwymiad i Israel oedd i bara am byth!

18 “Dw i'n rhoi gwlad Canaan i chi” meddai,

“yn etifeddiaeth i chi ei meddiannu.”

19 Dim ond criw bach ohonoch chi oedd –

rhyw lond dwrn yn byw yno dros dro,

20 ac yn crwydro o un wlad i'r llall,

ac o un deyrnas i'r llall.

21 Wnaeth e ddim gadael i neb eu gormesu nhw;

roedd wedi rhybuddio brenhinoedd amdanyn nhw:

22 “Peidiwch cyffwrdd fy mhobl sbesial Ref i;

peidiwch gwneud niwed i'm proffwydi.”

23 Y ddaear gyfan, canwch i'r ARGLWYDD!

a dweud bob dydd sut mae e'n achub.

24 Dwedwch wrth y cenhedloedd mor wych ydy e;

wrth yr holl bobloedd am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.

25 Mae'r ARGLWYDD yn Dduw mawr, ac yn haeddu ei foli!

Mae'n haeddu ei barchu fwy na'r ‛duwiau‛ eraill i gyd.

26 Eilunod diwerth ydy duwiau'r holl bobloedd,

ond yr ARGLWYDD wnaeth greu'r nefoedd!

27 Mae ei ysblander a'i urddas yn amlwg;

mae cryfder a llawenydd yn ei bresenoldeb.

28 Dewch bobl y cenhedloedd! Cyhoeddwch!

Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy'r ARGLWYDD!

29 Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da!

Dewch o'i flaen i gyflwyno rhodd iddo!

Plygwch i addoli'r ARGLWYDD

sydd mor hardd yn ei gysegr!

30 Crynwch o'i flaen, bawb drwy'r byd!

Mae'r ddaear yn saff, does dim modd ei symud.

31 Boed i'r nefoedd a'r ddaear ddathlu'n llawen!

Dwedwch ymysg y cenhedloedd,

“Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu!”

32 Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi!

Boed i'r caeau a'u cnydau ddathlu!

33 Bydd holl goed y goedwig yn siffrwd yn llawen

o flaen yr ARGLWYDD, am ei fod e'n dod –

mae'n dod i roi trefn ar y ddaear!

34 Diolchwch i'r ARGLWYDD!

Mae e mor dda aton ni;

Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.

35 Dwedwch, “Achub ni, O Dduw yr achubwr!

Casgla ni ac achub ni o blith y cenhedloedd!

Wedyn byddwn ni'n diolch i ti, y Duw sanctaidd,

ac yn brolio'r cwbl wyt ti wedi'i wneud.”

36 Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel,

o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb!

A dyma'r bobl i gyd yn dweud, “Amen! Haleliwia!”

Dafydd yn penodi rhai i arwain yr addoliad

37 Dyma Dafydd yn penodi Asaff a'i frodyr i arwain yr addoliad o flaen Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD, ac i wneud popeth oedd angen ei wneud bob dydd. 38 Gyda nhw roedd Obed-Edom a'i chwe deg wyth o frodyr. Obed-edom, mab Iedwthwn, a Chosa oedd yn gofalu am y giatiau. 39 (Roedd wedi gadael Sadoc yr offeiriad, a'r offeiriaid eraill, i wasanaethu o flaen tabernacl yr ARGLWYDD wrth yr allor leol yn Gibeon. 40 Roedden nhw i losgi offrymau i'r ARGLWYDD ar allor yr aberthau. Roedden nhw i wneud hyn bob bore a gyda'r nos fel mae'n dweud yn y gyfraith oedd yr ARGLWYDD wedi'i rhoi i Israel.) 41 Yno gyda nhw roedd Heman, Iedwthwn ac eraill. Roedd y rhain wedi'u dewis wrth eu henwau i ddiolch i'r ARGLWYDD (Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!) 42 Heman a Iedwthwn oedd yn gofalu am yr utgyrn a'r symbalau a'r offerynnau cerdd eraill oedd yn cael eu defnyddio i foli Duw. A meibion Iedwthwn oedd yn gwarchod y fynedfa.

43 Yna dyma'r bobl i gyd yn mynd adre, ac aeth Dafydd yn ôl i fendithio ei deulu ei hun.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity