Yn ôl

1 Cronicl

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

1 CRONICL 18

Llwyddiant milwrol Dafydd

(2 Samuel 8:1-18)

1 Ar ôl hyn dyma Dafydd yn concro'r Philistiaid, ac yn dwyn rheolaeth Gath a'r pentrefi o'i chwmpas oddi arnyn nhw.

2 Wedyn dyma fe'n concro Moab. A daeth Moab o dan awdurdod Dafydd a thalu trethi iddo.

3 Yna dyma Dafydd yn concro Hadadeser, brenin talaith Soba wrth Chamath. Roedd e ar ei ffordd i geisio cael yr ardal ar lan afon Ewffrates yn ôl o dan ei awdurdod. 4 Ond dyma Dafydd yn dal mil o'i gerbydau rhyfel, saith mil o'i farchogion a dau ddeg mil o'i filwyr traed. Cadwodd gant o'r ceffylau, ond gwneud y gweddill i gyd yn gloff. 5 Daeth Syriaid talaith Damascus i helpu Hadadeser, ond lladdodd byddin Dafydd ddau ddeg dwy fil ohonyn nhw hefyd.

6 Wedyn, dyma Dafydd yn gosod garsiynau o filwyr ar dir Syria yn Damascus. Daethon nhw hefyd o dan ei awdurdod, a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn gwneud i Dafydd ennill pob brwydr ble bynnag roedd e'n mynd. 7 Aeth Dafydd â'r tarianau aur oedd gan swyddogion Hadadeser i Jerwsalem. 8 Cymerodd lot fawr o bres hefyd o Tifchath a Cwn, trefi Hadadeser. (Defnyddiodd Solomon y pres i wneud y basn mawr oedd yn cael ei alw “Y Môr,” a hefyd y pileri ac offer arall o bres.)

9 Pan glywodd Toi, brenin Chamath, fod Dafydd wedi concro Hadadeser, brenin Soba, a'i fyddin i gyd, 10 dyma fe'n anfon ei fab Hadoram ato i geisio telerau heddwch, ac i longyfarch Dafydd ar ei lwyddiant. (Roedd Hadadeser wedi bod yn rhyfela byth a hefyd yn erbyn Toi.) Ac aeth â pob math o gelfi aur ac arian a phres gydag e. 11 A dyma Dafydd yn cysegru'r cwbl i'r ARGLWYDD. Roedd wedi gwneud yr un peth gyda'r holl arian ac aur roedd wedi'i gymryd o'r gwledydd wnaeth e eu concro, sef: Edom, Moab, pobl Ammon, y Philistiaid a'r Amaleciaid. 12 Roedd Abishai fab Serwia wedi lladd un deg wyth mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen.

13 A dyma fe'n gosod garsiynau yn Edom. Daeth Edom i gyd o dan ei awdurdod a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Dafydd ble bynnag roedd yn mynd.

Swyddogion Dafydd

14 Roedd Dafydd yn frenin ar Israel gyfan. Roedd yn trin ei bobl i gyd yn gyfiawn ac yn deg. 15 Joab (mab Serwia Ref ) oedd pennaeth y fyddin. Jehosaffat fab Achilwd oedd cofnodydd y brenin. 16 Sadoc fab Achitwf ac Abimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid. Shafsha oedd ei ysgrifennydd gwladol. 17 Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth gwarchodlu personol y brenin (Cretiaid Ref a Pelethiaid). Ac roedd meibion Dafydd yn brif swyddogion hefyd.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity