Yn ôl

1 Cronicl

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

1 CRONICL 2

Meibion Israel (sef Jacob)

(Genesis 35:23-26)

1 Dyma feibion Israel: Reuben, Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon. 2 Dan, Joseff, Benjamin, Nafftali, Gad, ac Asher.

Disgynyddion Jwda

3 Meibion Jwda: Er, Onan a Shela. (Cafodd y tri yma eu geni i wraig o Canaan, sef merch Shwa.) Roedd Er, mab hynaf Jwda, yn gwneud pethau oedd ddim yn plesio'r ARGLWYDD, felly dyma'r ARGLWYDD yn ei ladd e. 4 Yna dyma Tamar, merch-yng-nghyfraith Jwda yn cael dau fab iddo – sef Perets a Serach. Felly roedd gan Jwda bump mab i gyd.

5 Meibion Perets: Hesron a Chamŵl.

6 Meibion Serach: Simri, Ethan, Heman, Calcol a Dara – pump i gyd.

7 Mab Carmi: Achar, yr un achosodd helynt i Israel drwy ddwyn beth oedd wedi'i gysegru i Dduw.

8 Mab Ethan: Asareia.

9 Meibion Hesron: Ierachmeël, Ram a Caleb. Ref

O Ram i Dafydd

  • 10 Ram oedd tad Aminadab,
  • Aminadab oedd tad Nachshon, pennaeth llwyth Jwda.
  • 11 Nachshon oedd tad Salma,
  • a Salma oedd tad Boas.
  • 12 Boas oedd tad Obed,
  • ac Obed oedd tad Jesse.

13 Jesse oedd tad Eliab (ei fab hynaf), yna Abinadab, Shamma, Ref 14 Nethanel, Radai, 15 Otsem a Dafydd. 16 A'u chwiorydd nhw oedd Serwia ac Abigail. Roedd gan Serwia dri mab – Abishai, Joab ac Asahel. 17 Cafodd Abigail fab o'r enw Amasa, a'r tad oedd Jether yr Ismaeliad.

Disgynyddion Caleb

18 Cafodd Caleb fab Hesron blant gyda'i wraig Aswba a gyda Ierioth. Ei meibion hi oedd Ieser, Shofaf ac Ardon. 19 Pan fuodd Aswba farw, dyma Caleb yn priodi Effrath, a chafodd hi fab arall iddo, sef Hur. 20 Hur oedd tad Wri, ac Wri oedd tad Betsalel.

21 Dyma Hesron yn cael rhyw gyda merch i Machir (tad Gilead). Roedd e wedi'i phriodi pan oedd yn chwe deg oed. A dyma hi'n cael mab iddo, sef Segwf.

22 Segwf oedd tad Jair, oedd yn berchen dau ddeg tri o bentrefi yn ardal Gilead. 23 (Ond dyma Geshwr a Syria yn dal pentrefi Jair, a tref Cenath hefyd gyda'r chwe deg pentref o'i chwmpas.) Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Machir, tad Gilead.

24 Ar ôl i Hesron farw dyma Caleb ei fab yn cael rhyw gydag Effrath, gweddw ei dad. A dyma hi'n cael mab iddo fe, sef Ashchwr, ddaeth yn dad i Tecoa.

Disgynyddion Ierachmeël

25 Meibion Ierachmeël, mab hynaf Hesron: Ram (yr hynaf), Bwna, Oren, Otsem ac Achïa. 26 Ac roedd gan Ierachmeël wraig arall o'r enw Atara, a hi oedd mam Onam.

27 Meibion Ram (mab hynaf Ierachmeël): Maas, Iamîn ac Ecer.

28 Meibion Onam: Shammai a Iada.

Meibion Shammai: Nadab ac Afishŵr.

29 Gwraig Afishŵr oedd Abihaïl, gafodd ddau blentyn iddo, sef Achban a Molid.

30 Meibion Nadab: Seled ac Apaïm. (Buodd Seled farw heb gael plant.)

31 Mab Apaïm: Ishi.

Mab Ishi: Sheshan.

Mab Sheshan: Achlai.

32 Meibion Iada (brawd Shammai): Jether a Jonathan. (Buodd Jether farw heb gael plant.)

33 Meibion Jonathan: Peleth a Sasa. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ierachmeël.

34 Doedd gan Sheshan ddim meibion, dim ond merched. Roedd ganddo was o'r enw Iarcha oedd yn Eifftiwr. 35 A dyma Sheshan yn rhoi un o'i ferched yn wraig i Iarcha, a dyma hi'n cael mab iddo, sef Attai.
  • 36 Attai oedd tad Nathan,
  • Nathan oedd tad Safad,
  • 37 Safad oedd tad Efflal,
  • Efflal oedd tad Obed,
  • 38 Obed oedd tad Jehw,
  • Jehw oedd tad Asareia,
  • 39 Asareia oedd tad Chelets,
  • Chelets oedd tad Elasa,
  • 40 Elasa oedd tad Sismai,
  • Sismai oedd tad Shalwm,
  • 41 Shalwm oedd tad Iecameia,
  • a Iecameia oedd tad Elishama.

Mwy o ddisgynyddion Caleb

42 Meibion Caleb, brawd Ierachmeël: Mesha (ei fab hynaf), oedd yn dad i Siff, a Maresha (ei ail fab), oedd yn dad i Hebron.

43 Meibion Hebron: Cora, Tapŵach, Recem a Shema.
  • 44 Shema oedd tad Racham, oedd yn dad i Iorceam.
  • Recem oedd tad Shammai.
  • 45 Mab Shammai oedd Maon, oedd yn dad i Beth-tswr.

46 Dyma Effa, partner Ref Caleb, yn geni Charan, Motsa a Gases. Charan oedd tad Gases.

47 Meibion Iahdai: Regem, Jotham, Geshan, Pelet, Effa a Shaäff.

48 Dyma Maacha, partner Caleb, yn geni Shefer a Tirchana. 49 Hi hefyd oedd mam Shaäff oedd yn dad i Madmanna, a Shefa oedd yn dad i Machbena a Gibea. Merch arall Caleb oedd Achsa. 50 Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Caleb.

Meibion Hur, mab hynaf Effrath, gwraig Caleb: Shofal (hynafiad pobl Ciriath-iearîm), 51 Salma (hynafiad pobl Bethlehem), a Chareff (hynafiad pobl Beth-gader).

52 Disgynyddion Shofal, hynafiad Ciriath-iearîm, oedd Haroe a hanner y Menwchoiaid, 53 llwythau Ciriath-iearîm – yr Ithriaid, Pwthiaid, Shwmathiaid, a'r Mishraiaid. (Roedd y Soriaid a'r Eshtaoliaid yn ddisgynyddion i'r grwpiau yma hefyd.)

54 Disgynyddion Salma: pobl Bethlehem, y Netoffathiaid, Atroth-beth-joab, hanner arall y Manachathiaid, y Soriaid, 55 a theuluoedd yr ysgrifenyddion oedd yn byw yn Iabets, sef y Tirathiaid, Shimeathiaid, a'r Swchathiaid. Y rhain ydy'r Ceneaid, sy'n ddisgynyddion i Chamath, tad Beth-rechab.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity