Yn ôl

1 Cronicl

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

1 CRONICL 20

Dafydd yn concro Rabba

(2 Samuel 12:26-31)

1 Yn y gwanwyn, sef yr adeg pan fyddai brenhinoedd yn arfer mynd i ryfela, dyma Joab yn arwain ei fyddin i ryfel a dinistrio gwlad yr Ammoniaid. Dyma fe'n gwarchae ar Rabba tra oedd Dafydd yn dal yn Jerwsalem, a dyma Joab yn concro Rabba a'i dinistrio. 2 Dyma Dafydd yn cymryd coron eu brenin nhw a'i rhoi ar ei ben ei hun. Roedd y goron wedi'i gwneud o dri deg cilogram o aur, ac roedd gem werthfawr arni. Casglodd Dafydd lot fawr o ysbail o'r ddinas hefyd. 3 Symudodd y bobl allan, a'u gorfodi nhw i weithio iddo gyda llifau, ceibiau a bwyeill. Gwnaeth Dafydd yr un peth gyda phob un o drefi'r Ammoniaid. Yna aeth yn ôl i Jerwsalem gyda'i fyddin gyfan.

Brwydrau rhwng Israel a'r Philistiaid

(2 Samuel 21:15-22)

4 Beth amser wedyn roedd brwydr arall yn erbyn y Philistiaid, yn Geser. Y tro hwnnw dyma Sibechai o Chwsha yn lladd Sipai, un o ddisgynyddion y Reffaiaid. Roedd y Philistiaid wedi'u trechu'n llwyr.

5 Mewn brwydr arall eto yn erbyn y Philistiaid, dyma Elchanan fab Jair yn lladd Lachmi, brawd Goliath o Gath (yr un oedd â gwaywffon gyda choes iddi oedd fel trawst ffrâm gwehydd!)

6 Yna roedd brwydr arall eto yn Gath. Y tro yma roedd cawr o ddyn gyda chwe bys ar ei ddwylo a'i draed – dau ddeg pedwar o fysedd i gyd. (Roedd hwn hefyd yn un o ddisgynyddion y Reffaiaid.) 7 Roedd yn gwneud hwyl am ben Israel, a dyma Jonathan, mab Shamma Ref brawd Dafydd, yn ei ladd e. 8 Roedd y rhain yn ddisgynyddion i'r Reffaiaid o Gath, a Dafydd a'i filwyr wnaeth ladd pob un.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity