Yn ôl

1 Corinthiaid

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Pennod 13

1 Os dw i'n siarad ieithoedd dieithr neu hyd yn oed iaith angylion, heb gariad dw i'n ddim byd ond jar metel swnllyd neu symbal yn diasbedain. 2 Efallai fod gen i'r ddawn i broffwydo, a'r gallu i blymio'r dirgelion dyfnaf — neu'r wybodaeth i esbonio popeth! Efallai fod gen i ddigon o ffydd i ‘symud mynyddoedd’Croes — ond heb gariad dw i'n dda i ddim. 3 Efallai mod i'n fodlon rhannu'r cwbl sydd gen i gyda'r tlodion, neu hyd yn oed yn fodlon marw dros y ffydd Ref — ond heb gariad, dw i'n ennill dim. 4 Mae cariad yn amyneddgar. Mae cariad yn garedig. Dydy cariad ddim yn cenfigennu, ddim yn brolio'i hun, nac yn llawn ohono'i hun. 5 Dydy cariad ddim yn gwneud pethau anweddus, nag yn mynnu ei ffordd ei hun drwy'r adeg. Dydy e ddim yn digio a phwdu, ac mae'n fodlon anghofio pan mae rhywun wedi gwneud cam. 6 Dydy cariad ddim yn mwynhau gweld drygioni — beth sy'n ei wneud e'n llawen ydy'r gwir. 7 Mae cariad bob amser yn amddiffyn; mae bob amser yn credu; bob amser yn gobeithio; bob amser yn dal ati. 8 Fydd cariad byth yn chwalu. Bydd proffwydoliaethau'n dod i ben; y tafodau sy'n siarad ieithoedd dieithr yn tewi; a fydd dim angen geiriau o wybodaeth. 9 Wedi'r cwbl, ychydig dyn ni'n ei wybod a dydy'n proffwydo ni ddim yn dweud popeth chwaith. 10 Pan fydd beth sy'n gyflawn ac yn berffaith yn dod yn derfynol, bydd y doniau sydd ond yn rhoi rhyw gipolwg bach i ni yn cael eu hysgubo o'r neilltu. 11 Pan oeddwn i'n blentyn, roeddwn i'n siarad iaith plentyn, yn meddwl fel plentyn, a deall plentyn oedd gen i. Ond ers i mi dyfu'n oedolyn dw i wedi stopio ymddwyn fel plentyn. 12 A dyna sut mae hi — dyn ni ond yn gweld adlewyrchiad ar hyn o bryd (fel edrych mewn drych metel); ond byddwn yn dod wyneb yn wynebCroes maes o law. Ychydig iawn dyn ni'n ei wybod ar hyn o bryd; ond bydda i'n cael gwybod y cwbl bryd hynny, yn union fel y mae Duw yn gwybod y cwbl amdana i. 13 Ar hyn o bryd mae gynnoch chi dri peth sy'n aros: ffydd, gobaith a chariad. Ond y mwya ohonyn nhw ydy cariad.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity