1 CORINTHIAID 3
Ynglŷn â rhaniadau yn yr eglwys
1 Pan oeddwn i acw, frodyr a chwiorydd, roedd hi'n amhosib siarad â chi fel Cristnogion aeddfed. Ref Roedd rhaid i mi siarad â chi fel petaech chi heb dderbyn yr Ysbryd! – yn fabis bach yn eich dealltwriaeth o'r bywyd Cristnogol.
2 Roedd rhaid i mi eich bwydo chi â llaeth, am eich bod chi ddim yn barod i gymryd bwyd solet! Ac mae'n amlwg eich bod chi'n dal ddim yn barod!
3 Dych chi'n dal i ymddwyn fel pobl sydd heb dderbyn yr Ysbryd. Mae'r holl genfigennu a'r ffraeo sy'n mynd ymlaen yn warthus. Dych chi'n ymddwyn fel petaech chi ddim yn Gristnogion o gwbl.
4 Pan mae un yn dweud, “Dw i'n dilyn Paul,” ac un arall, “Dw i'n dilyn Apolos,” dych chi'n ymddwyn yn union fel pawb arall!
5 Pwy ydy Apolos? Pwy ydy Paul? Dim ond gweision! Trwon ni y daethoch chi i gredu, ond dim ond gwneud ein gwaith oedden ni – gwneud beth oedd Duw wedi'i ddweud wrthon ni.
6 Fi blannodd yr had, wedyn daeth Apolos i'w ddyfrio.Croes Ond Duw wnaeth iddo dyfu, dim ni!
7 Dydy'r plannwr a'r dyfriwr ddim yn bwysig. Dim ond Duw, sy'n rhoi'r tyfiant.
8 Mae'r plannwr a'r dyfriwr eisiau'r un peth. A bydd y ddau'n cael eu talu am eu gwaith eu hunain.
9 Dŷn ni'n gweithio fel tîm i Dduw, a chi ydy'r maes mae Duw wedi'i roi i ni weithio ynddo. Neu, os mynnwch chi, dych chi fel adeilad –
10 fi gafodd y fraint a'r cyfrifoldeb o osod y sylfaen (fel adeiladwr profiadol), ac mae rhywun arall yn codi'r adeilad ar y sylfaen. Ond rhaid bod yn ofalus wrth adeiladu,
11 am mai dim ond un sylfaen sy'n gwneud y tro i adeiladu arni, sef Iesu y Meseia.
12 Mae'n bosib adeiladu ar y sylfaen gydag aur, arian, a gemau gwerthfawr, neu gyda choed, gwair a gwellt
13 – bydd safon gwaith pawb yn amlwg ar Ddydd y farn. Tân fydd yn profi ansawdd y gwaith sydd wedi'i wneud.
14 Os bydd yr adeilad yn dal i sefyll, bydd yr adeiladwr yn cael ei wobrwyo.
15 Ond os bydd gwaith rhywun yn cael ei ddinistrio, bydd y person hwnnw'n profi colled fawr. Bydd pobl felly yn cael eu hachub – ond dim ond o drwch blewyn y byddan nhw'n llwyddo i ddianc o'r fflamau!
16 Ydych chi ddim yn sylweddoli mai chi gyda'ch gilydd ydy teml Dduw, a bod Ysbryd Duw yn aros yn y deml yna?
17 Bydd Duw yn dinistrio unrhyw un sy'n dinistrio'i deml e. Mae teml Dduw yn gysegredig. A chi ydy'r deml honno!
18 Mae'n bryd i chi stopio twyllo'ch hunain! Os ydych chi wir yn meddwl eich bod chi'n ddoeth, rhaid i chi fod yn ‛dwp‛ yng ngolwg y byd i fod yn ddoeth go iawn!
19 Mae clyfrwch y byd yn dwp yng ngolwg Duw. Yr ysgrifau sanctaidd sy'n dweud: “Mae Duw'n gwneud i glyfrwch pobl eu baglu nhw”Croes
20 a hefyd, “Mae'r Arglwydd yn gwybod fod rhesymu clyfar pobl yn wastraff amser.”Croes
21 Felly, peidiwch brolio am ddynion! Mae'r cwbl yn eiddo i chi –
22 Paul, Apolos, Pedr, Ref y byd, bywyd, marwolaeth, y presennol, y dyfodol – chi biau nhw i gyd!
23 A dych chi'n eiddo i'r Meseia, a'r Meseia i Dduw.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity