Yn ôl

1 Corinthiaid

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

1 CORINTHIAID 8

Cig wedi'i aberthu i dduwiau paganaidd

1 I droi at eich cwestiwn am gig wedi'i aberthu i eilun-dduwiau paganaidd: “Mae pawb yn gwybod y ffeithiau ac yn gallu dewis drostyn nhw eu hunain” meddech chi. Ond mae dweud ein bod ni'n gwybod yn hybu balchder; mae cariad, ar y llaw arall, yn adeiladu. 2 Os ydy rhywun yn meddwl eu bod yn gwybod y cwbl, dŷn nhw'n gwybod dim byd mewn gwirionedd. 3 Ond mae Duw yn gwybod pwy sy'n ei garu, ac mae'n gofalu amdanyn nhw.

4 Felly, ydy hi'n iawn i ni fwyta cig sydd wedi'i aberthu i dduwiau paganaidd? Dŷn ni'n cytuno – “Dydy eilun yn ddim byd mewn gwirionedd. Does dim ond un Duw go iawn.” 5 Hyd yn oed os oes rhai sy'n cael eu galw'n ‛dduwiau‛ yn y nefoedd ac ar y ddaear (ac oes, mae gan bobl lawer o ‛dduwiau‛ ac ‛arglwyddi‛ eraill), 6 dŷn ni'n gwybod mai dim ond un Duw go iawn sydd, sef y Tad. Fe ydy'r un greodd bopeth ac iddo fe dŷn ni'n byw. A does gynnon ni ond un Arglwydd, sef Iesu y Meseia, yr un y daeth popeth i fod drwyddo, a'r un sy'n rhoi bywyd i ni.

7 Ond dydy pawb ddim mor siŵr. Mae eilun-dduwiau wedi bod yn gymaint rhan o fywydau rhai pobl, pan maen nhw'n bwyta'r cig allan nhw ddim peidio meddwl am y ffaith ei fod wedi'i aberthu i ryw dduw paganaidd. Mae eu cydwybod nhw'n cael ei niweidio am ei bod hi'n gydwybod wan. 8 “Dydy bwyd ddim yn effeithio ar ein perthynas ni â Duw” meddech chi; digon gwir – dŷn ni ddim gwaeth o fwyta, na dim gwell chwaith. 9 Ond dylech chi fod yn ofalus nad ydych chi a'ch “hawl i ddewis” yn achosi i'r rhai sy'n ansicr faglu.

10 Dyma allai ddigwydd: Mae rhywun sydd â chydwybod wan yn dy weld di yn bwyta mewn teml eilunod. Rwyt ti'n gwybod y ffeithiau – does dim i boeni amdano. Ond onid oes peryg wedyn i'r person welodd di deimlo'n hyderus, a bwyta cig sydd wedi'i aberthu i eilun-dduwiau? 11 Felly bydd y crediniwr sy'n ansicr yn gweithredu'n groes i'w gydwybod ac yn cael ei ddinistrio am dy fod di'n “gwybod yn well” – ie, brawd neu chwaer y buodd y Meseia farw trostyn nhw! 12 Wrth wneud i Gristion arall weithredu'n groes i'w gydwybod fel hyn, rwyt ti'n pechu yn erbyn y Meseia. 13 Felly, os ydy beth dw i'n ei fwyta yn achosi i Gristion arall faglu, wna i byth fwyta cig eto – does gen i ddim eisiau achosi iddyn nhw syrthio.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity