Yn ôl

1 Brenhinoedd

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

1 BRENHINOEDD 4

Swyddogion Solomon

1 Roedd Solomon yn frenin ar Israel gyfan.

2 Dyma'i swyddogion:
  • Asareia fab Sadoc oedd yr offeiriad.
  • 3 Elichoreff ac Achïa, meibion Shisha, oedd ei ysgrifenyddion.
  • Jehosaffat fab Achilwd oedd y cofnodydd swyddogol.
  • 4 Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth y fyddin,
  • a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid.
  • 5 Asareia fab Nathan oedd pennaeth swyddogion y rhanbarthau;
  • yna Sabwd fab Nathan yn offeiriad ac yn gynghorwr y brenin.
  • 6 Achishar oedd yn rhedeg y palas a gofalu am holl eiddo'r brenin,
  • ac Adoniram fab Afda oedd swyddog y gweithlu gorfodol.

7 Yna roedd gan Solomon ddeuddeg swyddog rhanbarthol dros wahanol ardaloedd yn Israel. Roedden nhw'n gyfrifol am ddarparu bwyd i'r brenin a'i lys – pob un yn gyfrifol am un mis y flwyddyn. 8 Dyma'u henwau nhw:
  • Ben-chŵr: ar fryniau Effraim;
  • 9 Ben-decar: yn Macats, Shaalfîm, Beth-shemesh ac Elon-beth-chanan;
  • 10 Ben-chesed: yn Arwboth (roedd ei ardal e'n cynnwys Socho a holl ardal Cheffer);
  • 11 Ben-abinadab: yn Naffath-dor i gyd (roedd e wedi priodi Taffath, merch Solomon);
  • 12 Baana fab Achilwd: yn Taanach, Megido a'r rhan o Beth-shean sydd wrth ymyl Sarethan, o dan Jesreel. Roedd ei ardal yn mynd o Beth-shean hyd at Abel-mechola a'r tu hwnt i Iocmeam;
  • 13 Ben-geber: yn Ramoth-gilead. Roedd ei ardal e'n cynnwys gwersylloedd Jair mab Manasse, yn Gilead, ac ardal Argob yn Bashan oedd yn cynnwys chwe deg o drefi mawr, pob un gyda waliau cadarn a barrau pres ar eu giatiau;
  • 14 Achinadab fab Ido: yn Machanaîm;
  • 15 Achimaäts: yn Nafftali (fe wnaeth briodi Basemath, merch Solomon);
  • 16 Baana fab Chwshai: yn Asher ac yn Aloth;
  • 17 Jehosaffat fab Parŵach: yn Issachar;
  • 18 Shimei fab Ela: yn Benjamin;
  • 19 a Geber fab Wri: yn ardal Gilead (sef y wlad oedd yn perthyn ar un adeg i Sihon brenin yr Amoriaid ac Og brenin Bashan). Fe oedd yr unig swyddog yn y rhanbarth hwnnw i gyd.

20 Roedd poblogaeth fawr yn Jwda ac Israel, roedd pobl fel y tywod ar lan y môr, ond roedd ganddyn nhw ddigon i'w fwyta a'i yfed ac roedden nhw'n hapus.

Llwyddiant Solomon

21 Roedd Solomon yn llywodraethu ar yr holl ardaloedd o afon Ewffrates i wlad y Philistiaid ac i lawr at y ffin gyda'r Aifft. Roedd y teyrnasoedd yma i gyd yn talu trethi iddo, ac yn gwasanaethu Solomon ar hyd ei oes.

22 Dyma beth oedd ei angen ar lys Solomon bob dydd:
  • – tri deg mesur o'r blawd gorau
  • – chwe deg mesur o flawd cyffredin,
  • 23 – deg o loi wedi'u pesgi,
  • – dau ddeg o loi oedd allan ar y borfa,
  • – cant o ddefaid.

Roedd hyn heb sôn am y ceirw, gaseliaid, iyrchod a gwahanol fathau o ffowls. 24 Achos roedd y llys brenhinol mor fawr – roedd yn rheoli'r holl ardaloedd i'r gorllewin o Tiffsa ar lan afon Ewffrates i lawr i Gasa, ac roedd heddwch rhyngddo a'r gwledydd o'i gwmpas. 25 Pan oedd Solomon yn fyw, roedd pawb yn Jwda ac Israel yn teimlo'n saff. Roedd gan bawb, o Dan yn y gogledd i Beersheba Ref yn y de, gartref a thir i allu mwynhau cynnyrch eu gwinwydd a'u coed ffigys. 26 Roedd gan Solomon hefyd stablau i ddal 40,000 o geffylau cerbyd, ac roedd ganddo 12,000 o farchogion.

27 Roedd y swyddogion rhanbarthol yn darparu bwyd ar gyfer y Brenin Solomon a phawb yn ei lys. Roedd pob un yn gyfrifol am fis, ac yn gwneud yn siŵr nad oedd y llys yn brin o ddim. 28 Roedd gan bob un hefyd stablau penodol i fynd â haidd a gwellt iddyn nhw i'w roi i'r ceffylau a'r meirch.

Doethineb Solomon

29 Roedd Duw wedi rhoi doethineb a deall eithriadol i Solomon. Roedd ei wybodaeth yn ddiddiwedd, fel y tywod ar lan y môr. 30 Roedd yn fwy doeth nag unrhyw un o ddynion doeth y dwyrain a'r Aifft. 31 Doedd neb doethach nag e. Roedd yn ddoethach nag Ethan yr Esrachiad, Heman hefyd, a Calcol a Darda, meibion Machol. Roedd yn enwog drwy'r gwledydd o'i gwmpas i gyd. 32 Roedd wedi llunio tair mil o ddiarhebion a chyfansoddi mil a phump o ganeuon. 33 Roedd yn gallu siarad am blanhigion, o'r coed cedrwydd mawr yn Libanus i'r isop sy'n tyfu ar waliau. Roedd hefyd yn gallu sôn am anifeiliaid, adar, ymlusgiaid a phryfed a physgod. 34 Roedd brenhinoedd y gwledydd i gyd yn anfon pobl at Solomon i wrando ar ei ddoethineb.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity