Yn ôl

1 Pedr

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

1 PEDR 2

1 Felly, rhaid i chi gael gwared â phopeth drwg o'ch bywydau – pob twyll, balchder dauwynebog, cenfigennu wrth eraill ac enllibio pobl. 2 Yn lle gadael i bethau felly eich rheoli chi dylech chi fod yn crefu am y llaeth ysbrydol pur fydd yn gwneud i chi dyfu yn eich ffydd. 3 Gan eich bod chi eisoes wedi cael blas ar mor dda ydy'r Arglwydd,Croes dylech fod yr un fath â babi bach newydd ei eni sydd eisiau dim byd arall ond llaeth ei fam.

Y garreg sylfaen fyw a'r bobl sydd wedi'u dewis

4 Mae'r Arglwydd fel carreg sylfaen, ond un sy'n fyw. Dyma'r garreg gafodd ei gwrthod gan bobl, ond roedd wedi'i dewis gan Dduw ac yn werthfawr iawn yn ei olwg. Felly wrth i chi glosio at yr Arglwydd 5 dych chi fel cerrig sy'n fyw ac yn anadlu, ac mae Duw yn eich defnyddio chi i adeiladu ei ‛deml‛ ysbrydol. A chi hefyd ydy'r offeiriaid sydd wedi cael eich dewis i gyflwyno aberthau ysbrydol i Dduw. Aberthau sy'n dderbyniol o achos beth wnaeth Iesu Grist. 6 Dyma pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn:

“Edrychwch! Dw i'n gosod yn Jerwsalem

garreg sylfaen werthfawr sydd wedi'i dewis gen i.

Fydd y sawl sy'n credu ynddo byth yn cael ei siomi.”Croes

7 Ydy, mae'r garreg yma'n werthfawr yn eich golwg chi sy'n credu. Ond i'r rhai sy'n gwrthod credu:

“Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr

wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen,”Croes

8 Hon hefyd ydy'r

“garreg sy'n baglu pobl

a chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio.”Croes

Y rhai sy'n gwrthod gwneud beth mae Duw'n ei ddweud sy'n baglu. Dyna'n union oedd wedi'i drefnu ar eu cyfer nhw.

9 Ond dych chi'n bobl sydd wedi'ch dewis yn offeiriaid i wasanaethu'r Brenin, yn genedl sanctaidd, yn bobl sy'n perthyn i Dduw. Eich lle chi ydy dangos i eraill mor wych ydy Duw, yr Un alwodd chi allan o'r tywyllwch i mewn i'w olau bendigedig.Croes

10 Ar un adeg doeddech chi'n neb o bwys,

ond bellach chi ydy pobl Dduw.

Ar un adeg doeddech chi ddim wedi profi trugaredd Duw,

ond bellach dych wedi profi ei drugaredd.Croes

11 Ffrindiau annwyl, dim y byd yma ydy'ch cartref chi. Dych chi fel pobl ddieithr yma.Croes Felly dw i'n apelio arnoch chi i wrthod gwneud beth mae'r chwantau naturiol am i chi ei wneud. Maen nhw'n brwydro yn erbyn beth sydd orau i ni. 12 Dylech chi fyw bywydau da. Wedyn fydd pobl sydd ddim yn credu ddim yn gallu'ch cyhuddo chi o wneud drwg. Yn lle gwneud hynny byddan nhw'n gweld y pethau da dych chi'n eu gwneud ac yn dod i gredu. Byddan nhw'n canmol Duw ar y diwrnod hwnnw pan fydd yn dod atyn nhw.

Ymostwng i lywodraethwyr a meistri

13 Dylech chi ddangos parch at bobl eraill, yn union fel y gwnaeth yr Arglwydd ei hun. Mae hyn yn cynnwys yr ymerawdwr sy'n teyrnasu dros y cwbl, 14 a'r llywodraethwyr sydd wedi'u penodi ganddo i gosbi pobl sy'n gwneud drwg ac i ganmol y rhai sy'n gwneud da. 15 (Mae Duw eisiau i chi wneud daioni i gau cegau'r bobl ffôl sy'n deall dim.) 16 Dych chi'n rhydd, ond peidiwch defnyddio'ch rhyddid fel esgus i wneud drygioni. Dylech chi, sydd ddim ond yn gwasanaethu Duw, 17 ddangos parch at bawb, caru eich cyd-Gristnogion, ofni Duw a pharchu'r ymerawdwr.

18 Dylech chi sy'n gaethweision barchu eich meistri – nid dim ond os ydyn nhw'n feistri da a charedig, ond hyd yn oed os ydyn nhw'n greulon. 19 Mae'n plesio Duw pan dych chi'n penderfynu bod yn barod i ddioddef hyd yn oed pan dych chi'n cael eich cam-drin. 20 Does dim rheswm i ganmol rhywun am fodloni cael ei gosbi os ydy e wedi gwneud drwg. Ond os ydych chi'n fodlon dioddef er eich bod chi wedi gwneud y peth iawn, mae hynny'n plesio Duw. 21 Dyna mae Duw wedi'ch galw chi i'w wneud. A'r esiampl i chi ei dilyn ydy'r Meseia yn dioddef yn eich lle chi:

22 “Wnaeth e ddim pechu,

a wnaeth e ddim twyllo neb.”Croes

23 Wnaeth e ddim ateb yn ôl pan oedd pobl yn ei regi a'i sarhau e; wnaeth e ddim bygwth unrhyw un pan oedd e'n dioddef. Yn lle hynny, gadawodd y mater yn nwylo Duw sydd bob amser yn barnu'n deg. 24 Cariodd ein pechodauCroes ni yn ei gorff ar y pren, er mwyn i ni, a'n pechodau wedi mynd, allu byw i wneud beth sy'n iawn. Dych chi wedi cael eich iacháu am ei fod e wedi'i glwyfo!Croes 25 Roeddech chi'n arfer bod fel defaid wedi mynd ar goll,Croes ond dych chi bellach wedi dod yn ôl at y Bugail sy'n gofalu amdanoch chi.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity