|
|
“Os dych chi am fwynhau bywyd a gweld dyddiau da,
rhaid i chi reoli'ch tafod.
Dweud dim byd cas am neb,
a stopio twyllo.
11 Trowch gefn ar ddrygioni a gwneud daioni;
gwnewch eich gorau i gael perthynas dda gyda phawb.
12 Mae'r Arglwydd yn gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn
ac yn gwrando'n astud ar eu gweddïau nhw;
ond mae e yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni.”Croes
13 Does neb yn gallu gwneud niwed go iawn i chi os dych chi'n frwd i wneud daioni. 14 Hyd yn oed os bydd rhaid i chi ddioddef am wneud beth sy'n iawn, cewch eich bendithio'n fawr gan Dduw.“Peidiwch eu hofni nhw a pheidiwch poeni.”Croes
15 Addolwch y Meseia â'ch holl galon, a'i gydnabod e'n Arglwydd ar eich bywydau. Byddwch barod bob amser i roi ateb i bwy bynnag sy'n gofyn i chi esbonio beth ydy'r gobaith sydd gynnoch chi. 16 Ond byddwch yn garedig wrth wneud hynny, a dangos y parch fyddai Duw am i chi ei ddangos atyn nhw. Peidiwch gwneud dim fydd gynnoch chi gywilydd ohono. Wedyn bydd y rhai hynny sy'n siarad yn eich erbyn chi yn cael eu cywilyddio am eich bod chi'n byw bywydau mor dda fel Cristnogion. 17 Os oes rhaid dioddef o gwbl, mae'n well dioddef am wneud pethau da na chael eich cosbi gan Dduw am wneud pethau drwg. 18 Roedd y Meseia wedi dioddef drwy farw dros bechodau un waith ac am byth, er mwyn dod â chi at Dduw. Ie, yr un wnaeth bopeth yn iawn yn marw dros y rhai wnaeth bopeth o'i le! Cafodd ei ladd yn gorfforol, ond daeth yr Ysbryd ag e yn ôl yn fyw. 19 Ac yn nerth yr un Ysbryd aeth i gyhoeddi ei fuddugoliaeth i'r ysbrydion yn eu cyrchfan. 20 Roedd rhai yn anufudd ers talwm, pan oedd Duw yn disgwyl yn amyneddgar, a Noa yn adeiladu'r llong fawr, sef yr arch. A chriw bach o bobl gafodd eu hachub rhag boddi yn y dŵr (wyth i fod yn fanwl gywir).Croes 21 Ac mae bedydd, sy'n cyfateb i hynny, yn eich achub chi. Dim bod y ddefod ei hun yn gwneud rhywun yn lân, ond bod rhywun yn onest ac yn ddidwyll yn ymrwymo i ddilyn Duw. Mae dŵr y bedydd yn achub am fod Iesu, y Meseia, wedi'i godi yn ôl yn fyw. 22 Ac mae e bellach yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw yn y nefoedd,Croes gyda'r angylion a'r awdurdodau a'r pwerau ysbrydol i gyd yn plygu iddo.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity