Yn ôl

1 Samuel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

1 SAMUEL 12

Araith olaf Samuel

1 Dyma Samuel yn dweud wrth bobl Israel: “Edrychwch, dw i wedi gwneud popeth dych chi wedi'i ofyn, ac wedi rhoi brenin i chi. 2 O hyn ymlaen, y brenin fydd yn eich arwain chi. Dw i'n hen ŵr a'm gwallt yn wyn, ond mae fy meibion i gyda chi. Dw i wedi'ch arwain chi ers pan oeddwn i'n ifanc. 3 Dyma fi. Dewch, cyhuddwch fi o flaen yr ARGLWYDD a'r un mae e wedi'i eneinio'n frenin. Ydw i wedi cymryd ych rhywun? Ydw i wedi cymryd asyn rhywun? Ydw i wedi twyllo unrhyw un? Ydw i wedi gwneud i unrhyw un ddioddef? Ydw i wedi derbyn breib gan unrhyw un i gau fy llygaid i ryw ddrwg? Dwedwch wrtho i. Gwna i dalu'r cwbl yn ôl.” 4 Ond dyma nhw'n ateb, “Na, ti ddim wedi'n twyllo ni, na gwneud i ni ddioddef, na chymryd dim gan unrhyw un.” 5 Yna dyma Samuel yn dweud, “Yma heddiw mae'r ARGLWYDD yn dyst, a'r brenin ddewisodd e, eich bod chi wedi cael hyd i ddim byd o gwbl yn fy erbyn i.” “Ydy, mae e'n dyst,” medden nhw.

6 Yna dyma Samuel yn mynd ymlaen i ddweud wrth y bobl. “Yr ARGLWYDD wnaeth ddewis Moses ac Aaron, ac arwain eich hynafiaid chi allan o wlad yr Aifft. 7 Safwch mewn trefn o flaen yr ARGLWYDD i mi roi siars i chi, a'ch atgoffa mor deg mae'r ARGLWYDD wedi'ch trin chi a'ch hynafiaid bob amser.

8 “Aeth Jacob i lawr i'r Aifft. Ond ar ôl hynny, dyma'ch hynafiaid yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help, am fod yr Eifftiaid yn eu cam-drin nhw. Anfonodd yr ARGLWYDD Moses ac Aaron i'w harwain nhw allan o'r Aifft i'r lle yma. 9 Ond dyma nhw'n anghofio'r ARGLWYDD eu Duw. Felly dyma Duw yn gadael i Sisera,Croes capten byddin Chatsor, a'r Philistiaid,Croes a brenin MoabCroes eu cam-drin nhw. Daeth y rhain i ryfela yn eu herbyn nhw. 10 Ond dyma nhw'n gweiddi ar yr ARGLWYDD eto, a dweud: ‘Ein bai ni ydy hyn. Dŷn ni wedi troi cefn arnat ti ARGLWYDD ac wedi mynd i addoli eilunod Baal a delwau o'r dduwies Ashtart. Plîs achub ni nawr o afael ein gelynion a byddwn ni'n dy addoli di.’ 11 Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon Gideon,Croes Barac,Croes JeffthaCroes a fi, Samuel, i'ch achub chi oddi wrth y gelynion o'ch cwmpas, fel eich bod chi'n saff.

12 “Ond yna pan welsoch chi fod Nachash, brenin Ammon, yn mynd i ymosod arnoch chi, dyma chi'n dweud wrtho i, ‘Na! Dŷn ni eisiau brenin’ – pan oedd yr ARGLWYDD eich Duw i fod yn frenin arnoch chi! 13 Dyma chi! Dyma'r brenin dych chi wedi'i ddewis – yr un wnaethoch chi ofyn amdano. Ydy, mae'r ARGLWYDD wedi rhoi brenin i chi! 14 Os gwnewch chi barchu'r ARGLWYDD a'i addoli e, gwrando arno a pheidio gwrthryfela yn ei erbyn, ac os gwnewch chi a'ch brenin ddilyn yr ARGLWYDD eich Duw, bydd popeth yn iawn. 15 Ond os wnewch chi ddim gwrando, a gwrthod bod yn ufudd, yna bydd yr ARGLWYDD yn eich cosbi chi a'r brenin.

16 “Nawr safwch yma i weld rhywbeth anhygoel fydd yr ARGLWYDD yn ei wneud o flaen eich llygaid chi. 17 Y tymor sych Ref ydy hi ynte? Dw i'n mynd i weddïo ar Dduw, a gofyn iddo anfon glaw a tharanau! Byddwch chi'n sylweddoli wedyn peth mor ddrwg yng ngolwg Duw oedd i chi ofyn am frenin.” 18 Yna dyma Samuel yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. A'r diwrnod hwnnw dyma'r ARGLWYDD yn anfon glaw a tharanau. Roedd gan y bobl i gyd ofn yr ARGLWYDD a Samuel wedyn. 19 Ac medden nhw wrtho, “Gweddïa ar yr ARGLWYDD dy Dduw droson ni, rhag i ni farw. Dŷn ni wedi gwneud mwy o ddrwg nag erioed drwy ofyn am frenin.”

20 Dyma Samuel yn ateb y bobl, “Peidiwch bod ofn. Mae'n wir eich bod chi wedi gwneud yr holl bethau drwg yma. Ond nawr, peidiwch troi cefn ar yr ARGLWYDD. Addolwch e â'ch holl galon. 21 Peidiwch â'i adael a mynd ar ôl rhyw ddelwau diwerth. All y rheiny ddim helpu nac achub neb. Dŷn nhw'n dda i ddim! 22 Yr ARGLWYDD wnaeth ddewis eich gwneud chi'n bobl iddo fe'i hun, felly fydd e ddim yn troi cefn arnoch chi. Mae e eisiau cadw ei enw da. 23 Ac o'm rhan i fy hun, fyddwn i byth yn meiddio pechu yn erbyn yr ARGLWYDD drwy beidio gweddïo drosoch chi. Bydda i'n eich dysgu chi i fyw yn y ffordd iawn: 24 Cofiwch barchu'r ARGLWYDD, a'i addoli o ddifri â'ch holl galon. Meddyliwch am yr holl bethau mawr mae'r ARGLWYDD wedi'u gwneud i chi! 25 Ond os byddwch chi'n mynnu dal ati i wneud drwg, bydd hi ar ben arnoch chi a'ch brenin.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity