Yn ôl

1 Samuel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

1 SAMUEL 22

Dafydd yn Ogof Adwlam

1 Felly dyma Dafydd yn dianc o Gath a mynd i Ogof Adwlam. Ref Pan glywodd ei frodyr a'i deulu ei fod yno dyma nhw'n mynd ato. 2 Roedd pawb oedd mewn helynt yn ymuno gydag e hefyd, a'r rhai oedd mewn dyled neu'n chwerw am rywbeth. Roedd tua 400 ohonyn nhw i gyd, a Dafydd yn eu harwain nhw.

3 Aeth Dafydd ymlaen o'r fan honno i Mitspe yn Moab. Gofynnodd i frenin Moab, “Plîs wnei di adael i dad a mam aros yma, nes bydda i'n gwybod be mae Duw am ei wneud i mi?” 4 Felly aeth â nhw i aros at frenin Moab, a buon nhw'n aros gydag e yr holl amser roedd Dafydd yn ei gaer. 5 Yna dyma Gad, y proffwyd, yn rhybuddio Dafydd, “Paid aros yn ei gaer. Dos yn ôl i wlad Jwda.” Felly dyma Dafydd yn mynd i Goedwig Chereth.

Saul yn lladd offeiriaid Nob

6 Clywodd Saul fod Dafydd a'r dynion oedd gydag e wedi cael eu gweld. Roedd Saul yn Gibea yn eistedd o dan y goeden tamarisg Ref ar ben y bryn, gyda'i waywffon yn ei law a'i swyddogion o'i gwmpas. 7 A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch, bobl Benjamin. Ydy mab Jesse'n mynd i roi tir a gwinllannoedd i chi? Ydy e'n mynd i'ch gwneud chi'n gapteiniaid ac yn swyddogion yn ei fyddin? 8 Pam dych chi'n cynllwynio yn fy erbyn i? Pam wnaeth neb ddweud wrtho i fod fy mab fy hun wedi gwneud cytundeb gyda mab Jesse? Doedd neb yn cydymdeimlo hefo fi. Doedd neb yn fodlon dweud wrtho i fod fy mab i fy hun yn helpu gwas i mi i baratoi i ymosod arna i. Dyna sut mae hi!”

9 Yna dyma Doeg (y dyn o Edom oedd yn un o swyddogion Saul) yn dweud, “Gwnes i weld mab Jesse yn Nob. Roedd wedi mynd at yr offeiriad Achimelech fab Achitwf. 10 Gweddïodd hwnnw am arweiniad yr ARGLWYDD iddo, ac yna rhoi bwyd iddo. Rhoddodd gleddyf Goliath y Philistiad iddo hefyd.” 11 Felly dyma Saul yn anfon am Achimelech fab Achitwf, ac offeiriaid eraill Nob, a dyma nhw i gyd yn dod at y brenin. 12 “Gwranda di, fab Achitwf,” meddai Saul wrtho. A dyma fe'n ateb, “Ie, syr?” 13 Ac meddai Saul, “Pam wyt ti a mab Jesse wedi cynllwynio yn fy erbyn i? Rhoist ti fara a chleddyf iddo. Wedyn gweddïo am arweiniad Duw iddo, i wrthryfela yn fy erbyn i! Mae e wrthi heddiw yn paratoi i ymosod arna i!” 14 Ond dyma Achimelech yn ateb y brenin, “Pwy o dy holl weision di sy'n fwy ffyddlon i ti na Dafydd? Dy fab-yng-nghyfraith di ydy e! Capten dy warchodlu di! Mae e'n uchel ei barch gan bawb yn dy balas. 15 Ai dyna oedd y tro cyntaf i mi weddïo am arweiniad Duw iddo? Wrth gwrs ddim! Ddylai'r brenin ddim fy nghyhuddo i, na neb arall o'm teulu, o wneud dim o'i le. Doeddwn i'n gwybod dim byd o gwbl am y peth.”

16 Ond dyma'r brenin yn ateb, “Rhaid i ti farw Achimelech! Ti a dy deulu i gyd!” 17 Yna dyma fe'n dweud wrth y milwyr o'i gwmpas, “Daliwch yr offeiriaid a lladdwch nhw, achos maen nhw ar ochr Dafydd! Roedden nhw'n gwybod ei fod e'n dianc, ond wnaethon nhw ddim dweud wrtho i.” Ond doedd y milwyr ddim yn fodlon ymosod ar offeiriaid yr ARGLWYDD. 18 Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Doeg, “Ti! Ymosod di arnyn nhw a'u lladd nhw.” A dyma Doeg, oedd o wlad Edom, yn mynd allan a'u taro nhw. Y diwrnod hwnnw lladdodd Doeg wyth deg pump o offeiriaid oedd yn gwisgo effod o liain. 19 Wedyn aeth i ymosod ar dref Nob, lle roedd yr offeiriaid yn byw, a lladd pawb yno hefyd – dynion a merched, plant a babis bach, a hyd yn oed y gwartheg, yr asynnod a'r defaid.

20 Ond dyma un o feibion Achimelech yn llwyddo i ddianc, sef Abiathar. Aeth at Dafydd 21 a dweud wrtho fod Saul wedi lladd offeiriaid yr ARGLWYDD. 22 “Pan welais i Doeg y diwrnod hwnnw,”Croes meddai Dafydd, “ron ni'n gwybod y byddai'n siŵr o ddweud wrth Saul. Arna i mae'r bai fod dy deulu di i gyd wedi cael eu lladd. 23 Aros di gyda mi. Paid bod ag ofn. Mae'r un sydd eisiau fy lladd i yn mynd i fod eisiau dy ladd di hefyd. Ond byddi'n saff yma hefo fi.” Ref

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity