Yn ôl

1 Samuel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

1 SAMUEL 26

Dafydd yn arbed bywyd Saul eto

1 Dyma bobl Siff yn mynd i Gibea i weld Saul eto,Croes a dweud wrtho fod Dafydd yn cuddio ar Fryn Hachila wrth ymyl Jeshimon. Ref 2 Felly, aeth Saul i lawr i anialwch Siff, gyda thair mil o filwyr gorau Israel, i chwilio am Dafydd. 3 Dyma Saul yn codi gwersyll wrth y ffordd fawr ar Fryn Hachila wrth ymyl Jeshimon. Roedd Dafydd yn aros allan yn yr anialwch, a chlywodd fod Saul wedi dod ar ei ôl. 4 Felly dyma fe'n anfon ysbiwyr i wneud yn berffaith siŵr fod Saul yno.

5 Dyma Dafydd yn mynd draw i'r lle roedd Saul a'i filwyr yn gwersylla. Gwelodd ble roedd Saul ac Abner fab Ner (capten ei fyddin) yn cysgu. Roedd Saul yn y canol, a'i filwyr wedi gwersylla o'i gwmpas. 6 Yna gofynnodd Dafydd i Achimelech yr Hethiad, ac i frawd Joab, sef Abishai fab Serwia, Ref “Pwy ddaw i lawr gyda mi i wersyll Saul?” A dyma Abishai yn ateb, “Dof i hefo ti.” 7 Felly ar ôl iddi nosi, dyma Dafydd ac Abishai yn mynd i ganol y milwyr. A dyna lle roedd Saul yn cysgu. Roedd ei waywffon wedi'i gwthio i'r ddaear wrth ei ben, ac roedd Abner a'r milwyr yn gorwedd o'i gwmpas. 8 “Mae Duw wedi rhoi dy elyn yn dy afael di heddiw,” meddai Abishai wrth Dafydd. “Gad i mi ei drywanu a'i hoelio i'r ddaear gyda'r waywffon. Un ergyd sydd ei angen.” 9 Ond dyma Dafydd yn ei ateb, “Na, paid â'i ladd! Alli di ddim gwneud niwed i'r un mae'r ARGLWYDD wedi'i eneinio'n frenin a bod yn ddieuog! 10 Yr ARGLWYDD ei hun fydd yn ei daro. Naill ai bydd ei amser yn dod, a bydd e'n marw, neu bydd e'n mynd i ryfel ac yn cael ei ladd. 11 Duw am helpo rhag i mi wneud niwed i'r un mae'r ARGLWYDD wedi'i eneinio'n frenin! Tyrd, cymer y waywffon sydd wrth ei ben, a'i botel ddŵr, a gad i ni fynd o ma.” 12 Felly dyma Dafydd yn cymryd y waywffon a'r botel ddŵr oedd wrth ben Saul, a dianc heb i neb weld na chlywed dim, na hyd yn oed troi yn ei gwsg. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud iddyn nhw i gyd gysgu'n drwm.

13 Aeth Dafydd yn ôl i'r ochr draw a sefyll ar gopa'r mynydd, yn ddigon pell oddi wrth wersyll Saul. 14 Yna dyma fe'n gweiddi ar y fyddin ac ar Abner fab Ner. “Wyt ti ddim am ateb, Abner?” meddai. “Pwy sydd galw ar y brenin?” meddai Abner. 15 “Wel! Ti ddim llawer o ddyn!” meddai Dafydd. “Rôn i'n meddwl mai ti oedd pennaeth byddin Israel! Pam wnest ti ddim gwarchod dy feistr? Daeth un o'm milwyr draw acw i'w ladd e – dy feistr di, ie, dy frenin di! 16 Wnest ti ddim job dda iawn. Dych chi i gyd yn haeddu marw am beidio amddiffyn eich meistr, yr un wnaeth yr ARGLWYDD ei eneinio'n frenin. Dos i edrych ble mae gwaywffon y brenin, a'r botel ddŵr oedd wrth ei ben!”

17 Dyma Saul yn nabod llais Dafydd. “Ai ti sydd yna Dafydd, machgen i?” meddai. A dyma Dafydd yn ateb, “Ie, fy meistr y brenin, fi sydd yma. 18 Pam wyt ti wedi dod ar fy ôl i, syr? Be dw i wedi'i wneud? Pa ddrwg wnes i? 19 Gad i'm meistr y brenin wrando ar beth sydd gan dy was i'w ddweud. Os mai'r ARGLWYDD sydd wedi dy annog di i wneud hyn, dylai gael ei offrwm. Ond os mai pobl feidrol wnaeth, byddan nhw'n cael eu melltithio ganddo! Maen nhw wedi fy ngyrru i allan o dir yr ARGLWYDD ei hun, fel petaen nhw'n dweud, ‘Dos i addoli duwiau eraill!’ 20 Paid gadael i mi farw mewn gwlad arall, yn bell oddi wrth yr ARGLWYDD! Mae brenin Israel yn chwilio am chwannen! Mae fel rhywun sy'n hela petris yn y bryniau!”

21 Yna dyma Saul yn ateb, “Dw i ar fai. Tyrd yn ôl Dafydd, machgen i. Wna i ddim niwed i ti eto. Ti wedi arbed fy mywyd i heddiw. Dw i wedi bod yn wirion ac wedi gwneud camgymeriad mawr!” 22 Atebodd Dafydd, “Dyma waywffon y brenin. Gad i un o'r bechgyn ddod draw i'w nôl hi. 23 Mae'r ARGLWYDD yn talu i ddyn am fod yn onest ac yn ffyddlon. Rhoddodd gyfle i mi dy ladd di heddiw, ond doeddwn i ddim yn fodlon gwneud niwed i'r dyn mae'r ARGLWYDD wedi'i eneinio'n frenin. 24 Fel gwnes i arbed dy fywyd di, boed i'r ARGLWYDD arbed fy mywyd i a'm hachub o bob helynt.” 25 A dyma Saul yn ei ateb, “Bendith arnat ti Dafydd, machgen i. Does dim amheuaeth dy fod ti'n mynd i lwyddo.”

Felly aeth Dafydd i ffwrdd a dyma Saul yn mynd yn ôl adre.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity