Yn ôl

1 Samuel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

1 SAMUEL 29

Y Philistiaid yn gwrthod help Dafydd

1 Roedd y Philistiaid wedi casglu at ei gilydd yn Affec, a dyma Israel yn codi gwersyll wrth y ffynnon yn Jesreel. 2 Roedd llywodraethwyr y Philistiaid yn archwilio eu hunedau milwrol (unedau o gannoedd a miloedd), ac yn y cefn roedd Dafydd a'i ddynion yn cael eu harchwilio gydag unedau Achish. 3 “Pwy ydy'r Hebreaid yma?” holodd capteiniaid y Philistiaid. “Dafydd ydy e,” meddai Achish wrthyn nhw. “Roedd e'n arfer bod yn was i Saul, brenin Israel. Ond mae e wedi bod gyda mi bellach ers blwyddyn a mwy. Dydy e wedi gwneud dim o'i le o'r diwrnod y daeth e drosodd aton ni.” 4 Ond roedd capteiniaid y Philistiaid yn wyllt hefo Achish, “Anfon y dyn yn ei ôl! Gad iddo fynd yn ôl i ble bynnag roist ti iddo fyw. Paid gadael iddo ddod i ymladd gyda ni, rhag ofn iddo droi yn ein herbyn ni yng nghanol y frwydr. Pa ffordd well fyddai iddo ennill ffafr ei feistr eto na gyda phennau'r dynion yma? 5 Hwn ydy'r Dafydd roedden nhw'n canu amdano wrth ddawnsio,

‘Mae Saul wedi lladd miloedd,

ond Dafydd ddegau o filoedd!’”

6 Felly dyma Achish yn galw Dafydd ato a dweud, “Mor siŵr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, dw i'n gwybod dy fod ti'n ddyn gonest. Byddwn i wrth fy modd yn dy gael di'n mynd allan gyda ni i ymladd. Dwyt ti wedi gwneud dim o'i le o'r diwrnod y dest ti drosodd aton ni. Ond dydy'r arweinwyr eraill ddim yn hapus. 7 Felly, dos yn ôl heb wneud ffws. Paid gwneud dim byd i'w pechu nhw.”

8 “Ond be dw i wedi'i wneud o'i le?” meddai Dafydd. “O'r diwrnod y dois i atat ti hyd heddiw, pa fai wyt ti wedi'i gael yn dy was? Pam ga i ddim dod i ryfela yn erbyn gelynion fy meistr, y brenin?” 9 Atebodd Achish e, “Dw i'n gwybod dy fod ti mor ddibynnol ag angel Duw! Ond mae arweinwyr eraill y Philistiaid wedi dweud na chei di fynd i ryfela gyda nhw. 10 Felly, coda'n gynnar bore fory, ti a gweision dy feistr sydd gyda ti. Gallwch fynd cyn gynted ag y bydd hi'n olau.”

11 Felly dyma Dafydd a'i ddynion yn codi ben bore, a mynd yn ôl i wlad y Philistiaid. Ac aeth y Philistiaid i fyny i Jesreel.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity