Yn ôl

1 Samuel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

1 SAMUEL 6

Y Philistiaid yn rhoi'r Arch yn ôl

1 Roedd Arch yr ARGLWYDD wedi bod yng ngwlad y Philistiaid am saith mis. 2 A dyma'r Philistiaid yn galw'r offeiriaid a'r rhai oedd yn dewino a gofyn iddyn nhw, “Be wnawn ni gydag Arch yr ARGLWYDD? Dwedwch wrthon ni sut ddylen ni ei hanfon yn ôl i'w lle ei hun.” 3 Dyma nhw'n ateb, “Os ydych chi am anfon Arch Duw Israel yn ôl, peidiwch gwneud hynny heb anfon rhywbeth hefo hi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon offrwm i gyfaddef bai gyda hi. Fel yna cewch eich iacháu a chewch wybod pam wnaeth e'ch cosbi chi.” 4 “Ond beth ddylen ni ei anfon fel offrwm i gyfaddef ein bai?” medden nhw. Atebodd yr offeiriaid, “Mae pump llywodraethwr gan y Philistiaid, a dych chi a nhw wedi'ch taro gan yr un afiechyd. Felly gwnewch bump model aur o'r chwyddau a phump model o'r llygod 5 sy'n difa'r wlad, fel teyrnged i Dduw Israel. Falle y bydd e'n stopio'ch cosbi chi, a'ch duwiau a'ch gwlad. 6 Pam dylech chi fod yn ystyfnig fel y Pharo a phobl yr Aifft?Croes Gwnaeth Duw ffyliaid ohonyn nhw, ac roedd rhaid iddyn nhw adael i bobl Israel fynd! 7 Felly, gwnewch wagen newydd sbon a gosod dwy fuwch sy'n magu lloi ac erioed wedi bod mewn harnais i'w thynnu. Cymerwch y lloi oddi arnyn nhw a'u rhoi yn y cwt. 8 Yna rhowch Arch Duw ar y wagen, a rhowch y pethau aur sy'n offrwm i gyfaddef bai mewn bocs wrth ei hochr. Yna gyrrwch y wagen i ffwrdd 9 a gwylio. Os bydd hi'n mynd adre i gyfeiriad tref Beth-shemesh, Ref byddwn yn gwybod mai Duw Israel wnaeth anfon yr haint ofnadwy yma arnon ni. Ond os na fydd hi'n mynd y ffordd honno, yna byddwn yn gwybod mai nid fe wnaeth ein taro ni, ac mai cyd-ddigwyddiad oedd y cwbl.”

10 A dyna wnaeth y Philistiaid. Dyma nhw'n cymryd dwy fuwch oedd yn magu lloi a'u clymu wrth wagen, a rhoi eu lloi mewn cwt. 11 Yna dyma nhw'n rhoi Arch Duw ar y wagen, a'r bocs gyda'r llygod aur a'r modelau o'r chwyddau ynddo. 12 A dyma'r gwartheg yn mynd yn syth i gyfeiriad Beth-shemesh. Roedden nhw'n brefu wrth fynd, ond wnaethon nhw ddim troi oddi ar y ffordd o gwbl. Cerddodd llywodraethwyr y Philistiaid ar eu holau, nes cyrraedd cyrion Beth-shemesh.

13 Roedd pobl Beth-shemesh yn casglu'r cynhaeaf gwenith Ref yn y dyffryn. Pan welon nhw'r Arch roedden nhw wrth eu boddau. 14 Daeth y wagen i stop wrth ymyl carreg fawr yng nghae Josua, un o ddynion Beth-shemesh. Dyma nhw'n torri'r wagen yn goed tân ac aberthu'r ddwy fuwch a'u llosgi'n offrwm i Dduw. 15 Yna daeth Lefiaid yno i godi'r Arch i lawr, a'r bocs oedd yn dal y modelau aur, a'u gosod nhw ar y garreg fawr. A'r diwrnod hwnnw dyma bobl Beth-shemesh yn cyflwyno offrymau i'w llosgi'n llwyr ac aberthau i'r ARGLWYDD. 16 Arhosodd pump llywodraethwr y Philistiaid i wylio beth oedd yn digwydd, cyn mynd yn ôl i Ecron yr un diwrnod.

17 Roedd y chwyddau aur roddodd y Philistiaid i fod yn offrwm i gyfaddef eu bai i'r ARGLWYDD: un dros dref Ashdod, un dros Gasa, un dros Ashcelon, un dros Gath ac un dros Ecron. 18 Yna roedd yna lygoden aur ar gyfer pob un o drefi caerog llywodraethwyr y Philistiaid, a'r pentrefi gwledig o'u cwmpas hefyd.

Mae'r garreg fawr y cafodd Arch Duw ei gosod arni yn dal yna yng nghae Josua hyd heddiw.

Symud yr Arch i Ciriath-iearîm

19 Ond dyma rai o bobl Beth-shemesh yn cael eu taro gan yr ARGLWYDD, am eu bod nhw wedi edrych i mewn i Arch Duw. Buodd saith deg Ref ohonyn nhw farw, ac roedd pobl Beth-shemesh yn galaru'n fawr am fod Duw wedi'u taro nhw mor galed. 20 “Pwy sy'n gallu sefyll o flaen yr ARGLWYDD, y Duw sanctaidd yma?” medden nhw. “At bwy ddylai'r Arch fynd o'r fan yma?” 21 Felly dyma nhw'n anfon neges i Ciriath-iearîm, “Mae'r Philistiaid wedi anfon Arch yr ARGLWYDD yn ôl. Dewch i lawr i'w chymryd hi.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity