Yn ôl

1 Thesaloniaid

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

1 THESALONIAID 3

1 Doeddwn i ddim yn gallu diodde'r disgwyl dim mwy. Dyma ni'n penderfynu anfon Timotheus atoch chi, ac aros ein hunain yn Athen. 2 Mae'n brawd Timotheus yn gweithio gyda ni i rannu'r newyddion da am y Meseia, a byddai e'n gallu cryfhau eich ffydd chi a'ch calonogi chi, 3 rhag i'r treialon dych chi'n mynd drwyddyn nhw eich gwneud chi'n ansicr. Ac eto dych chi'n gwybod yn iawn fod rhaid i ni sy'n credu wynebu treialon o'r fath. 4 Pan oedden ni gyda chi, roedden ni'n dweud dro ar ôl tro y bydden ni'n cael ein herlid. A dyna'n union sydd wedi digwydd, fel y gwyddoch chi'n rhy dda! 5 Dyna pam allwn i ddim dioddef disgwyl mwy. Roedd rhaid i mi anfon Timotheus i weld a oeddech chi'n dal i sefyll yn gadarn. Beth petai'r temtiwr wedi llwyddo i'ch baglu chi rywsut, a bod ein gwaith ni i gyd wedi'i wastraffu?

Adroddiad calonogol Timotheus

6 Ond mae Timotheus newydd gyrraedd yn ôl,Croes ac wedi rhannu'r newyddion da am eich ffydd chi a'ch cariad chi! Mae'n dweud bod gynnoch chi atgofion melys amdanon ni, a bod gynnoch chi gymaint o hiraeth amdanon ni ag sydd gynnon ni amdanoch chi. 7 Felly, ffrindiau annwyl, yng nghanol ein holl drafferthion a'r holl erlid dŷn ni'n ei wynebu, dŷn ni wedi cael ein calonogi'n fawr am fod eich ffydd chi'n dal yn gryf. 8 Mae gwybod eich bod chi'n aros yn ffyddlon i'r Arglwydd wedi'n tanio ni â brwdfrydedd newydd. 9 Sut allwn ni ddiolch digon i Dduw amdanoch chi? Dych chi wedi'n gwneud ni mor hapus! 10 Ddydd a nos, dŷn ni'n gweddïo'n wirioneddol daer y cawn ni gyfle i ddod i'ch gweld chi eto, i ddysgu mwy i chi am sut mae'r rhai sy'n credu i fyw.

11 Dŷn ni'n gweddïo y bydd Duw ein Tad, a'n Harglwydd Iesu Grist, yn ei gwneud hi'n bosib i ni ddod atoch chi'n fuan. 12 A bydded i'r Arglwydd wneud i'ch cariad chi at eich gilydd, ac at bawb arall, dyfu nes ei fod yn gorlifo! – yn union yr un fath â'n cariad ni atoch chi. 13 Dŷn ni eisiau iddo eich gwneud chi'n gryf. Wedyn byddwch yn ddi-fai ac yn sanctaidd o flaen ein Duw a'n Tad pan fydd ein Harglwydd Iesu'n dod yn ôl gyda'i angylion, a gyda'r holl bobl sy'n perthyn iddo.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity