Yn ôl

1 Timotheus

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

1 TIMOTHEUS 4

Rhybuddio Timotheus

1 Ond mae'r Ysbryd Glân yn dweud yn gwbl glir y bydd rhai yn y cyfnod olaf hwn yn troi cefn ar y gwir. Byddan nhw'n gwrando ar ysbrydion sy'n twyllo ac yn credu pethau mae cythreuliaid yn eu dysgu. 2 Pobl ddauwynebog a chelwyddog sy'n dysgu pethau felly. Pobl heb gydwybod, fel petai wedi'i serio gyda haearn poeth. 3 Maen nhw'n rhwystro pobl rhag priodi ac yn gorchymyn iddyn nhw beidio bwyta rhai bwydydd. Ond Duw greodd y bwydydd hynny i'w derbyn yn ddiolchgar gan y rhai sy'n credu ac sy'n gwybod beth ydy'r gwir. 4 Ac mae popeth mae Duw wedi'i greu yn dda! Felly dylen ni dderbyn y cwbl yn ddiolchgar. 5 Mae Duw wedi dweud ei fod yn iawn i'w fwyta a dylen ni ddiolch amdano mewn gweddi.

6 Os gwnei di ddysgu hyn i bawb arall, a bwydo dy hun ar wirioneddau'r ffydd a'r ddysgeidiaeth dda rwyt wedi'i derbyn, byddi di'n was da i Iesu y Meseia. 7 Paid gwastraffu dy amser gyda chwedlau sy'n ddim byd ond coelion gwrachod. Yn lle hynny gwna dy orau glas i fyw fel mae Duw am i ti fyw. 8 Mae ymarfer corff yn beth da, ond mae ymdrechu i fyw fel mae Duw am i ti fyw yn llawer iawn pwysicach – mae'n dda i ti'n y bywyd hwn a'r bywyd sydd i ddod. 9 Ydy, mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir, a dylai pawb gredu'r peth.

10 Dyma'r rheswm pam dŷn ni'n dal ati i weithio'n galed ac ymdrechu. Dŷn ni wedi ymddiried yn y Duw byw, sy'n achub pob math o bobl – pawb sy'n credu. 11 Gwna'n siŵr fod pobl yn gwybod y pethau hyn a dysga nhw. 12 Paid gadael i neb dy ddibrisio am dy fod di'n ifanc. Bydd yn esiampl dda i'r credinwyr yn y ffordd rwyt ti'n siarad, a sut rwyt ti'n byw, yn dy gariad at eraill, dy ffydd a'th fywyd glân. 13 Hyd nes bydda i wedi cyrraedd, canolbwyntia ar ddarllen yr ysgrifau sanctaidd yn gyhoeddus, annog y bobl a'u dysgu nhw. 14 Paid ag esgeuluso'r ddawn roddodd yr Ysbryd Glân i ti gyda neges broffwydol pan oedd yr arweinwyr yn gosod eu dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i'r gwaith.

15 Gwna'r pethau yma yn flaenoriaeth. Bwrw iddi i'w gwneud, er mwyn i bawb weld sut rwyt ti'n dod yn dy flaen. 16 Cadw lygad ar sut rwyt ti'n byw a beth rwyt ti'n ei ddysgu. Dal ati i wneud hynny. Wedyn byddi'n gwneud yn siŵr dy fod ti dy hun a'r rhai sy'n gwrando arnat ti yn cael eu hachub.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity