Yn ôl

2 Cronicl

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 CRONICL 1

Duw yn rhoi doethineb i Solomon

(1 Brenhinoedd 3:1-15)

1 Roedd Solomon fab Dafydd wedi sefydlu ei awdurdod dros ei deyrnas, achos roedd yr ARGLWYDD ei Dduw yn ei helpu ac wedi'i wneud yn frenin pwerus iawn. 2 Dyma Solomon yn galw arweinwyr Israel i gyd at ei gilydd – arweinwyr y fyddin (sef capteiniaid ar unedau o fil ac o gant), y barnwyr, a holl arweinwyr Israel oedd yn benaethiaid teuluoedd. 3 A dyma Solomon a'r bobl i gyd yn mynd i addoli wrth yr allor leol yn Gibeon, gan mai dyna lle roedd pabell presenoldeb Duw – yr un roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi'i gwneud yn yr anialwch. 4 (Roedd Dafydd wedi dod ag Arch Duw o Ciriath-iearîm i Jerwsalem, sef y lle roedd wedi'i baratoi iddi, ac wedi codi pabell iddi yno. 5 Ond roedd yr allor bres wnaeth Betsalel, mab Wri ac ŵyr Hur, o flaen Tabernacl yr ARGLWYDD.) Dyna lle'r aethon nhw i geisio Duw. 6 A dyma Solomon yn mynd at yr allor bres o flaen yr ARGLWYDD, ac offrymu mil o aberthau i'w llosgi arni.

7 Y noson honno dyma Duw yn dod at Solomon a gofyn iddo, “Beth wyt ti eisiau i mi ei roi i ti?” 8 A dyma Solomon yn ateb, “Roeddet ti'n garedig iawn at Dafydd fy nhad, ac rwyt wedi fy ngwneud i yn frenin yn ei le. 9 O, ARGLWYDD Dduw, gwna i'r addewid honno wnest ti i Dafydd fy nhad ddod yn wir. Ti wedi fy ngwneud i'n frenin ar gymaint o bobl ag sydd o lwch ar y ddaear. 10 Rho i mi'r ddoethineb a'r wybodaeth sydd ei angen i lywodraethu'r bobl yma'n iawn. Fel arall, pa obaith sydd i unrhyw un lywodraethu cenedl mor fawr?” 11 A dyma Duw'n ateb Solomon, “Am mai dyna rwyt ti eisiau, y ddoethineb a'r wybodaeth i lywodraethu'r bobl yma'n iawn – a dy fod ddim wedi gofyn am feddiannau, cyfoeth, ac anrhydedd, neu i'r rhai sy'n dy gasáu gael eu lladd; wnest ti ddim hyd yn oed gofyn am gael byw yn hir – 12 dw i'n mynd i roi doethineb a gwybodaeth i ti. Ond dw i hefyd yn mynd i roi mwy o gyfoeth, meddiannau, ac anrhydedd i ti nag unrhyw frenin ddaeth o dy flaen neu ddaw ar dy ôl.”

13 Felly dyma Solomon yn gadael pabell presenoldeb Duw oedd wrth yr allor yn Gibeon, a mynd yn ôl i Jerwsalem, lle roedd yn teyrnasu ar Israel.

Cyfoeth Solomon

(1 Brenhinoedd 10:26-29)

14 Roedd Solomon hefyd wedi casglu cerbydau a cheffylau rhyfel. Roedd ganddo fil pedwar cant o gerbydau, ac un deg dwy o filoedd o geffylau. Roedd yn eu cadw yn y trefi cerbydau ac yn Jerwsalem. 15 Roedd arian ac aur mor gyffredin â cherrig yn Jerwsalem, a choed cedrwydd mor gyffredin â'r coed sycamor sy'n tyfu ym mhobman ar yr iseldir. 16 Roedd ceffylau Solomon wedi'u mewnforio o'r Aifft a Cwe. Ref Roedd masnachwyr y brenin yn eu prynu nhw yn Cwe. 17 Roedden nhw'n talu chwe chant o ddarnau arian am gerbyd o'r Aifft, a chant pum deg darn arian am geffyl. Roedden nhw hefyd yn eu gwerthu ymlaen i frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity