Yn ôl

2 Cronicl

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 CRONICL 22

Ahaseia yn frenin Jwda

(2 Brenhinoedd 8:25-29; 9:21-28)

1 Dyma bobl Jerwsalem yn gwneud Ahaseia, mab ifancaf Jehoram, yn frenin yn ei le. Roedd y fyddin wnaeth ymosod ar Jwda gyda'r Arabiaid wedi lladd y meibion hŷn i gyd. Felly daeth Ahaseia (mab Jehoram) yn frenin ar Jwda. 2 Roedd Ahaseia yn ddau ddeg dau Ref pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin am flwyddyn. Ei fam oedd Athaleia, wyres Omri. 3 Roedd yn ymddwyn yr un fath ag Ahab a'i deulu, a'i fam oedd yn ei arwain i wneud drwg. 4 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel roedd teulu Ahab wedi gwneud. Ar ôl i'w dad farw, nhw oedd yn ei gynghori, a dyna wnaeth arwain at ei gwymp. 5 Dyma fe'n gwrando ar eu cyngor a mynd gyda Joram fab Ahab, brenin Israel i ryfela yn erbyn Hasael, Ref brenin Syria, yn Ramoth-gilead. Cafodd Joram ei anafu yn y frwydr, 6 ac aeth yn ôl i Jesreel i geisio gwella o'i glwyfau. Aeth Ahaseia, Ref brenin Jwda, yno i ymweld ag e, am ei fod yn wael iawn.

7 Roedd Duw wedi penderfynu y byddai'r ymweliad yma yn arwain at ddiwedd Joram. Tra oedd yno, dyma Ahaseia'n mynd allan gyda Joram yn erbyn Jehw fab Nimshi. (Roedd yr ARGLWYDD wedi penodi Jehw i ladd teulu Ahab i gyd.) 8 Tra oedd Jehw wrthi'n cosbi teulu Ahab, dyma fe'n dod ar draws rhai o arweinwyr Jwda a meibion brodyr Ahaseia oedd yn teithio gydag e. A dyma Jehw yn eu lladd yn y fan a'r lle. 9 Wedyn dyma fe'n anfon ei ddynion i chwilio am Ahaseia, a chafodd ei ddal yn cuddio yn Samaria. Pan aethon nhw ag e at Jehw, dyma Jehw yn ei ladd. Ond dyma nhw yn rhoi angladd iawn iddo, gan ei fod yn ŵyr i Jehosaffat oedd wedi dilyn yr ARGLWYDD â'i holl galon. Doedd neb ar ôl o deulu Ahaseia yn ddigon cryf i fod yn frenin.

Athaleia yn frenhines Jwda

(2 Brenhinoedd 11:1-3)

10 Pan glywodd Athaleia fod ei mab Ahaseia wedi marw, dyma hi'n mynd ati i gael gwared â llinach frenhinol Jwda i gyd. 11 Ond dyma Jehosheba, Ref merch i'r brenin Jehoram, yn cymryd Joas, mab ei brawd Ahaseia, a'i sleifio i ffwrdd oddi wrth aelodau eraill y teulu brenhinol cyn iddyn nhw gael eu lladd. Cuddiodd e gyda'i nyrs yn un o ystafelloedd gwely'r offeiriaid yn y deml. (Roedd Jehosheba yn ferch i'r brenin Jehoram, yn wraig i Jehoiada'r offeiriad, ac yn chwaer i Ahaseia.) Felly wnaeth Athaleia ddim dod o hyd i Joas, a chafodd e mo'i ladd ganddi. 12 Bu'n cuddio gyda'i nyrs yn y deml am chwe mlynedd, tra oedd Athaleia'n rheoli'r wlad.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity