Yn ôl

2 Cronicl

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 CRONICL 23

Gwrthryfel yn erbyn Athaleia

(2 Brenhinoedd 11:4-16)

1 Yna yn y seithfed flwyddyn dyma Jehoiada yn mentro gweithredu. Dyma fe'n gwneud cytundeb gyda'r swyddogion milwrol oedd yn arwain unedau o gannoedd: Asareia fab Ierocham, Ishmael fab Iehochanan, Asareia fab Obed, Maaseia fab Adaia, ac Elishaffat fab Sichri. 2 Dyma'r dynion yma yn teithio o gwmpas Jwda ac yn casglu'r Lefiaid i gyd o'r trefi ac arweinwyr claniau Israel. A dyma nhw i gyd yn mynd i Jerwsalem. 3 Dyma'r gynulleidfa yn ymrwymo yn y deml i fod yn ffyddlon i'r brenin. A dyma Jehoiada yn datgan, “Dyma fab y brenin! Bydd e'n teyrnasu fel dwedodd yr ARGLWYDD am ddisgynyddion Dafydd. 4 Dyma dych chi i'w wneud: Bydd un rhan o dair ohonoch chi offeiriaid a Lefiaid sydd ar ddyletswydd ar y Saboth yn gwarchod y drysau. 5 Bydd un rhan o dair yn gwarchod y palas, ac un rhan o dair wrth Giât y Sylfaen. Bydd pawb arall yn mynd i sefyll yn iard teml yr ARGLWYDD. 6 Does neb i fynd i mewn i deml yr ARGLWYDD ond yr offeiriad a'r Lefiaid sydd ar ddyletswydd. Gallan nhw fynd i mewn am eu bod yn lân yn seremonïol. Rhaid i bawb arall wneud fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw. 7 Rhaid i'r Lefiaid sefyll o gwmpas y brenin gydag arfau yn eu dwylo. Os bydd unrhyw un yn dod i mewn i'r deml, rhaid ei ladd. Bydd y Lefiaid gyda'r brenin ble bynnag mae'n mynd.”

8 Dyma'r Lefiaid a phobl Jwda yn gwneud yn union fel roedd Jehoiada'r offeiriad wedi dweud. Dyma pob un yn cymryd ei uned – y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth a'r rhai oedd yn rhydd (Wnaeth Jehoiada ddim eu rhyddhau nhw o'u dyletswydd.) 9 A dyma Jehoiada'r offeiriad yn rhoi gwaywffyn a tharianau bach a mawr i'r capteniaid, sef arfau y Brenin Dafydd oedd yn cael eu cadw yn nheml yr ARGLWYDD. 10 Yna dyma fe'n eu gosod yn eu lle i warchod y brenin, gyda'u harfau yn eu dwylo. Roedden nhw'n sefyll mewn llinell o un ochr y deml i'r llall, wrth yr allor ac ym mhob rhan o'r deml, i amddiffyn y brenin. 11 Wedyn dyma Jehoiada a'i feibion yn dod â mab y brenin allan, a rhoi'r goron ar ei ben a chopi o'r rheolau sy'n dweud sut i lywodraethu. A dyma nhw'n cyhoeddi mai Joas oedd y brenin, ei eneinio drwy dywallt olew ar ei ben, a gweiddi, “Hir oes i'r brenin!”

12 Dyma Athaleia'n clywed sŵn y cyffro a'r bobl yn canmol y brenin, a dyma hi'n mynd atyn nhw i'r deml. 13 Yno dyma hi'n gweld y brenin yn sefyll wrth y piler wrth y fynedfa. Roedd y capteiniaid a'r trwmpedwyr o'i gwmpas, y bobl i gyd yn dathlu, yr utgyrn yn canu ffanffer a'r cerddorion gyda'u hofferynnau yn arwain y dathlu.

Pan welodd hyn i gyd, dyma hi'n rhwygo'i dillad a sgrechian gweiddi, “Brad! Brad!”

14 Yna dyma Jehoiada'r offeiriad yn galw capteniaid y gwarchodlu, oedd yn arwain y milwyr, a dweud wrthyn nhw, “Ewch â hi allan o'r deml heibio'r rhengoedd, a lladdwch unrhyw un sydd gyda hi. Rhaid peidio ei lladd yn y deml.” 15 Felly dyma nhw'n ei harestio hi a mynd â hi i'r palas brenhinol drwy'r fynedfa i'r stablau. A dyna lle cafodd hi ei lladd.

Jehoiada'r offeiriad yn newid pethau

(2 Brenhinoedd 11:17-20)

16 Dyma Jehoiada yn selio'r ymrwymiad rhyngddo'i hun, y bobl, a'r brenin, iddyn nhw fod yn bobl ffyddlon i'r ARGLWYDD.

17 Yna aeth y dyrfa i gyd i mewn i deml Baal a'i dinistrio. Dyma nhw'n chwalu'r allorau a malu'r delwau i gyd yn ddarnau mân, a chafodd Mattan, offeiriad Baal, ei ladd o flaen yr allorau.

18 Roedd Jehoiada wedi gosod gwarchodlu i wylio teml yr ARGLWYDD, a rhoi eu cyfrifoldebau i'r offeiriaid o lwyth Lefi, fel roedd Dafydd wedi trefnu. Nhw oedd yn gyfrifol am yr aberthau oedd i'w llosgi i'r ARGLWYDD, fel mae cyfraith Moses yn dweud, a hefyd y dathlu a'r gerddoriaeth, fel roedd Dafydd wedi trefnu. 19 Gosododd ofalwyr i wylio giatiau teml yr ARGLWYDD, i wneud yn siŵr fod neb oedd yn aflan mewn rhyw ffordd yn gallu mynd i mewn.

20 Yna dyma fe'n galw capteniaid yr unedau o gannoedd, yr arweinwyr, a'r swyddogion. A dyma'r dyrfa gyfan yn eu dilyn nhw ac yn arwain y brenin mewn prosesiwn, o'r deml i'r palas drwy'r Giât Uchaf. A dyma nhw'n gosod y brenin i eistedd ar yr orsedd. 21 Roedd pawb drwy'r wlad i gyd yn dathlu. Roedd y ddinas yn heddychlon eto, ac Athaleia wedi cael ei lladd.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity