Yn ôl

2 Cronicl

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 CRONICL 3

Dechrau adeiladu'r Deml

(1 Brenhinoedd 6:1-38; 7:15-22)

1 Yna dechreuodd Solomon adeiladu teml yr ARGLWYDD ar fryn Moreia yn Jerwsalem, yn y lle roedd Dafydd wedi dweud, sef ar lawr dyrnu Ornan y Jebwsiad. Dyna lle roedd yr ARGLWYDD wedi cyfarfod Dafydd. 2 Dechreuodd adeiladu ar ail ddiwrnod yr ail fis o'i bedwaredd flwyddyn fel brenin. Ref

3 A dyma fesuriadau sylfeini'r Deml roedd Solomon yn ei hadeiladu: dau ddeg saith metr o hyd a naw metr o led (yr hen fesuriadau oedd yn cael eu defnyddio). 4 Roedd y cyntedd o flaen y deml yn naw metr o hyd, yn erbyn ffrynt y deml, ac roedd yn naw Ref metr o uchder. Roedd tu mewn yr ystafell wedi'i gorchuddio gydag aur pur.

5 Rhoddodd baneli o goed pinwydd ar waliau mewnol y brif neuadd, a gorchuddio'r cwbl gydag aur pur wedi'i addurno gyda coed palmwydd a chadwyni. 6 Roedd y deml wedi'i haddurno gyda meini gwerthfawr, ac aur o Parfaîm 7 i orchuddio trawstiau'r to, y rhiniogau, y waliau a'r drysau. Roedd cerwbiaid wedi'u cerfio yn addurno'r waliau.

8 Gwnaeth y cysegr mwyaf sanctaidd yn naw metr o hyd a naw metr o led, a'i orchuddio gyda 20 tunnell o aur pur. 9 Roedd yr hoelion aur yn pwyso pum cant saith deg gram yr un. Roedd wedi gorchuddio'r ystafelloedd uchaf gydag aur hefyd. 10 Yna yn y cysegr mwyaf sanctaidd gwnaeth ddau gerwb a'u gorchuddio nhw gydag aur. 11 Roedd adenydd y ddau gerwb yn ymestyn 9 metr ar draws. Roedd un o adenydd y cerwb cyntaf yn cyffwrdd wal y deml, ac adenydd y ddau gerwb yn cyffwrdd ei gilydd yn y canol. 12 Wedyn roedd aden arall yr ail gerwb yn cyffwrdd y wal yr ochr arall i'r deml. 13 Roedd yr adenydd gyda'i gilydd yn ymestyn naw metr ar draws. Roedden nhw'n sefyll yn syth, ac yn wynebu at i mewn. 14 Gwnaeth len o ddefnydd glas, porffor, coch a lliain main, gyda lluniau o gerwbiaid wedi'i frodio arno.

15 O flaen y deml gwnaeth ddau biler oedd yn un deg chwech metr o uchder, gyda cap oedd dros ddau fetr o uchder ar dop y ddau. 16 Gwnaeth gadwyni, fel y rhai yn y cysegr, i addurno top y pileri. A gwnaeth gant o dlysau siâp pomgranadau i'w gosod ar y cadwyni. 17 Gosododd y ddau biler o flaen y brif neuadd yn y deml – un ar y dde a'r llall ar y chwith. Galwodd yr un oedd ar y dde yn Iachîn a'r un oedd ar y chwith yn Boas.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity