Yn ôl

2 Cronicl

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 CRONICL 30

Paratoadau i ddathlu'r Pasg

1 Dyma Heseceia yn anfon neges allan drwy Israel a Jwda gyfan. Anfonodd lythyrau at lwythau Effraim a Manasse hefyd. Roedd yn galw pawb i ddod i'r deml yn Jerwsalem i ddathlu Pasg yr ARGLWYDD, Duw Israel. 2 Roedd y brenin wedi cytuno gyda'r arweinwyr a phobl Jerwsalem i gadw'r Pasg yn yr ail fis. 3 Roedden nhw'n methu ei gadw ar yr adeg iawn am fod dim digon o offeiriaid wedi bod drwy'r ddefod o gysegru eu hunain, a doedd y bobl ddim wedi cael cyfle i ddod i Jerwsalem. 4 Felly roedd y brenin a'r bobl yn meddwl mai dyma'r cynllun gorau. 5 Dyma nhw'n anfon neges allan drwy Israel gyfan, o Beersheba yn y de i Dan yn y gogledd. Roedd pawb i ddod i Jerwsalem i gadw Pasg i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Doedden nhw ddim wedi bod yn cadw'r Pasg fel Gŵyl genedlaethol, fel roedd y Gyfraith yn dweud.

6 Cafodd negeswyr eu hanfon allan i bobman yn Israel a Jwda gyda llythyr oddi wrth y brenin a'r arweinwyr. A dyma oedd y llythyr yn ei ddweud:

“Bobl Israel, trowch yn ôl at yr ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, iddo fe droi'n ôl atoch chi, yr ychydig sydd wedi dianc o afael brenhinoedd Asyria. 7 Peidiwch bod fel eich tadau a'ch brodyr oedd yn anffyddlon i'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. Dyna pam cawson nhw eu cosbi ganddo, fel dych chi'n gweld. 8 Peidiwch bod yn ystyfnig fel eich tadau. Byddwch yn ufudd i'r ARGLWYDD, a dewch i'r deml sydd wedi'i chysegru ganddo am byth. Addolwch yr ARGLWYDD eich Duw, iddo stopio bod mor ddig gyda chi. 9 Os gwnewch chi droi'n ôl at yr ARGLWYDD, bydd y rhai sydd wedi cymryd eich plant a'ch perthnasau'n gaeth yn dangos trugaredd arnyn nhw. Byddan nhw'n eu hanfon yn ôl i'r wlad yma. Mae'r ARGLWYDD eich Duw mor garedig a thrugarog. Fydd e ddim yn eich gwrthod chi os trowch chi'n ôl ato fe.”

Dathlu Gŵyl y Pasg

10 Aeth y negeswyr i bob tref yn Effraim a Manasse, cyn belled a Sabulon. Ond roedd y bobl yn chwerthin a gwneud hwyl am eu pennau. 11 Dim ond rhai pobl o Asher, Manasse a Sabulon wnaeth ufuddhau a mynd i Jerwsalem. 12 Yn Jwda, roedd Duw wedi creu awydd yn y bobl i gyd i ufuddhau i'r brenin a'r swyddogion oedd wedi gwneud beth roedd yr ARGLWYDD yn ei orchymyn. 13 Felly yn yr ail fis daeth tyrfa enfawr o bobl i Jerwsalem i gadw Gŵyl y Bara Croyw. 14 A dyma nhw'n mynd ati i gael gwared â'r allorau oedd yn Jerwsalem, a thaflu'r holl allorau i losgi arogldarth i Ddyffryn Cidron.

15 Cafodd oen y Pasg ei ladd ar y pedwerydd ar ddeg o'r ail fis. Cododd hyn gywilydd ar yr offeiriaid a'r Lefiaid, a dyma nhw'n mynd ati i gysegru eu hunain i fynd i deml yr ARGLWYDD i gyflwyno offrymau llosg. 16 Dyma nhw'n sefyll yn eu lleoedd cywir, fel roedd cyfraith Moses, dyn Duw, yn dweud. Yna roedd yr offeiriaid yn derbyn gwaed yr anifeiliaid gan y Leifiaid a'i sblasio o gwmpas yr allor. 17 Gan fod llawer o bobl yno oedd heb fynd drwy'r ddefod o buro'u hunain, y Lefiaid oedd yn lladd yr ŵyn dros bawb oedd yn methu cyflwyno'r offrwm eu hunain. 18 Roedd y mwyafrif o bobl Effraim, Manasse, Issachar a Sabulon yn aflan, a heb fod drwy'r ddefod o buro'u hunain. Er hynny dyma nhw'n bwyta o'r Pasg yn groes i beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud. Ond dyma Heseceia'n gweddïo drostyn nhw, “Boed i'r ARGLWYDD da, faddau 19 i bawb sydd wir am ddilyn eu Duw, sef yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, er nad ydyn nhw wedi cysegru eu hunain fel mae defod puro'r deml yn gofyn.” 20 A dyma'r ARGLWYDD yn gwrando ar weddi Heseceia, a iacháu'r bobl.

21 Roedd pobl Israel yn Jerwsalem yn dathlu Gŵyl y Bara Croyw yn llawen am saith diwrnod. Roedd y Lefiaid a'r offeiriaid yn moli'r ARGLWYDD bob dydd, ac yn canu ei glod yn uchel ar offerynnau cerdd. 22 Roedd Heseceia'n canmol y Lefiaid am eu dawn wrth addoli'r ARGLWYDD. Aeth y gwledda ymlaen am saith diwrnod. Roedden nhw'n cyflwyno offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD ac yn cyffesu eu pechodau i'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.

23 Yna dyma pawb yn cytuno i gadw'r Ŵyl am saith diwrnod arall. Felly dyma nhw'n dal ati i ddathlu'n llawen am wythnos arall. 24 Roedd Heseceia wedi rhoi mil o deirw a saith mil o ddefaid a geifr i'r gynulleidfa. A dyma'r arweinwyr yn rhoi mil arall o deirw a deg mil o ddefaid a geifr iddyn nhw. A aeth llawer iawn mwy o offeiriaid drwy'r ddefod o buro'u hunain. 25 Roedd pobl Jwda yno, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, yr holl bobl oedd wedi dod o Israel, a'r mewnfudwyr oedd wedi dod o Israel i fyw yn Jwda – roedd pawb yno'n dathlu gyda'i gilydd. 26 Hwn oedd y dathliad mwyaf fuodd yn Jerwsalem ers pan oedd Solomon fab Dafydd yn frenin ar Israel. 27 Dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn sefyll i fendithio'r bobl. Clywodd yr ARGLWYDD nhw o'i le sanctaidd yn y nefoedd.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity