Yn ôl

2 Cronicl

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 CRONICL 31

Diwygiadau Crefyddol Heseceia

1 Pan oedd yr Ŵyl drosodd, dyma'r holl bobl oedd wedi bod yn bresennol yn mynd allan i drefi Jwda, Benjamin, Effraim a Manasse a malu'r colofnau cysegredig, torri i lawr bolion y dduwies Ashera a chwalu'r allorau lleol drwy holl Jwda. Wedyn dyma nhw i gyd yn mynd adre i'w trefi eu hunain.

2 Dyma Heseceia'n gosod yr offeiriaid a'r Lefiaid mewn grwpiau gwahanol i gyflawni eu dyletswyddau – sef cyflwyno'r offrymau i'w llosgi a'r offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD, ac i weini, rhoi diolch a chanu mawl wrth y giatiau i deml yr ARGLWYDD.

3 Roedd y brenin yn rhoi cyfran o'i anifeiliaid ei hun yn offrymau i'w llosgi'n llwyr bob bore a nos, ar y Sabothau, y lleuadau newydd ac unrhyw adegau eraill wedi'u pennu yn y Gyfraith. 4 Yna dyma fe'n gorchymyn i'r bobl oedd yn byw yn Jerwsalem i gyfrannu siâr yr offeiriaid a'r Lefiaid fel roedd Cyfraith yr ARGLWYDD yn dweud. 5 Pan glywodd pobl Israel hyn dyma nhw'n ymateb drwy ddod â'r gyfran gyntaf o'r ŷd, sudd grawnwin, olew olewydd, mêl a phopeth arall oedd yn tyfu yn eu caeau. Daethon nhw â lot fawr o stwff – un rhan o ddeg o bopeth. 6 Roedd pobl Israel a Jwda oedd yn byw yn nhrefi Jwda hefyd yn cyfrannu un o bob deg o'u teirw a'u defaid, a phopeth arall roedden nhw wedi'i osod o'r neilltu i'w roi i'r ARGLWYDD. Cafodd y cwbl ei osod yn bentyrrau. 7 Dechreuodd y pentyrru yn y trydydd mis, ac roedd hi'r seithfed mis erbyn iddyn nhw orffen. 8 Pan welodd Heseceia a'i swyddogion yr holl bentyrrau, dyma nhw'n bendithio'r ARGLWYDD a'i bobl Israel.

9 Yna dyma Heseceia'n holi'r offeiriaid a'r Lefiaid am y pentyrrau. 10 A dyma Asareia yr archoffeiriad, oedd o deulu Sadoc, yn dweud “Ers i'r bobl ddechrau dod â rhoddion i'r deml dŷn ni wedi cael digonedd i'w fwyta, ac mae lot fawr dros ben. Mae'r ARGLWYDD wedi bendithio'i bobl, ac mae yna gymaint o stwff dros ben.” 11 Felly dyma Heseceia'n gorchymyn iddyn nhw baratoi stordai yn nheml yr ARGLWYDD. Dyma nhw'n gwneud felly, 12 a dod â'r offrymau, y degymau, a'r pethau oedd wedi'u cysegru i'r ARGLWYDD. Un o'r Lefiaid, Conaneia, oedd yn gyfrifol am y gwaith, a'i frawd Shimei yn ddirprwy iddo. 13 Yna dyma'r Brenin Heseceia ac Asareia, pennaeth y deml, yn trefnu i Iechiel, Asaseia, Nachath, Asahel, Ierimoth, Iosafad, Eliel, Ismacheia, Machat a Benaia i weithio oddi tanyn nhw.

14 Core fab Imna, Lefiad oedd yn gwarchod y giât ddwyreiniol, oedd yn gyfrifol am yr offrymau gwirfoddol. Fe hefyd oedd i ddosbarthu'r rhoddion oedd wedi'u cyflwyno i'r ARGLWYDD, a'r eitemau wedi'u cysegru. 15 Wedyn roedd Eden, Miniamîn, Ieshŵa, Shemaia, Amareia a Shechaneia yn ei helpu yn nhrefi'r offeiriad. Roedden nhw i fod i rannu'r rhoddion yn deg rhwng y gwahanol deuluoedd o offeiriaid, ifanc a hen fel ei gilydd. 16 Roedd pob gwryw oedd dros dair oed ar y cofrestrau teuluol i dderbyn rhoddion – y rhai fyddai yn eu tro yn mynd i deml yr ARGLWYDD i gyflawni dyletswyddau'r grŵp roedden nhw'n perthyn iddi. 17 Hefyd yr offeiriaid oedd wedi'u rhestru yn y cofrestrau teuluol, a'r Lefiaid oedd dros ugain oed ac wedi'u rhestru yn ôl eu dyletswyddau a'u grwpiau. 18 A'r plant lleiaf hefyd, y gwragedd, a'r meibion a'r merched i gyd – pawb oedd ar y cofrestrau teuluol. Roedden nhw i gyd wedi bod yn ffyddlon a chysegru eu hunain. 19 Wedyn roedd rhai wedi cael eu dewis ym mhob tref i rannu eu siâr i ddisgynyddion Aaron, sef yr offeiriad oedd yn byw yn yr ardal o gwmpas pob tref. Roedd pob gwryw o deulu offeiriadol a phob un o'r Lefiaid oedd ar y cofrestrau teuluol i gael eu siâr.

20 Trefnodd y Brenin Heseceia fod hyn i ddigwydd drwy Jwda gyfan. Gwnaeth beth oedd yn dda; gwnaeth y peth iawn; ac roedd yn ffyddlon yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw. 21 Aeth ati o ddifrif i ailsefydlu gwasanaeth teml Dduw ac i fod yn ufudd i'r Gyfraith a dilyn ei Dduw. Ac fe lwyddodd.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity