Yn ôl

2 Cronicl

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 CRONICL 7

Cysegru'r Deml

(1 Brenhinoedd 8:62-66)

1 Wrth i Solomon orffen gweddïo, daeth tân i lawr o'r awyr a llosgi'r offrwm a'r aberthau. Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi'r deml. 2 Roedd yr offeiriaid yn methu mynd i mewn i deml yr ARGLWYDD am fod ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi ei deml. 3 Pan welodd pobl Israel y tân yn dod i lawr ac ysblander yr ARGLWYDD ar y deml, dyma nhw'n plygu ar eu gliniau a'u hwynebau ar y palmant. Roedden nhw'n addoli'r ARGLWYDD a diolch iddo drwy ddweud,

“Mae e mor dda aton ni;

Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”

4 Roedd y brenin, a'r bobl i gyd, yn aberthu anifeiliaid i'r ARGLWYDD. 5 Dyma'r brenin Solomon yn lladd dau ddeg dau o filoedd o wartheg a chant dau ddeg mil o ddefaid. Dyna sut gwnaeth Solomon, a'r holl bobl, gyflwyno'r deml i Dduw. 6 Roedd yr offeiriaid yn sefyll yn eu lle, gyda'r Lefiaid oedd yn canu'r offerynnau i foli'r ARGLWYDD. (Yr offerynnau oedd y Brenin Dafydd wedi'u gwneud a'u defnyddio ganddo i addoli a chanu, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”) Gyferbyn â'r Lefiaid roedd yr offeiriaid yn canu'r utgyrn, tra oedd y dyrfa yn sefyll. 7 Dyma Solomon yn cysegru canol yr iard o flaen teml yr ARGLWYDD. Dyna ble wnaeth e offrymu aberthau i'w llosgi'n llwyr, a braster yr offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Roedd yr allor bres wnaeth Solomon yn rhy fach i ddal yr holl offrymau. 8 Bu Solomon, a phobl Israel i gyd yn dathlu a chadw Gŵyl am saith diwrnod. Roedd tyrfa fawr yno o bob rhan o'r wlad, o Fwlch Chamath yn y gogledd yr holl ffordd i Wadi'r Aifft yn y de.

9 Yna ar yr wythfed diwrnod dyma nhw'n cynnal cyfarfod. Roedden nhw wedi cysegru'r allor am saith diwrnod a dathlu'r Ŵyl am saith diwrnod arall. 10 Ar y trydydd ar hugain o'r seithfed mis dyma Solomon yn anfon y bobl adre. A dyma pawb yn gadael yn hapus ac ar ben eu digon am fod yr ARGLWYDD wedi bod mor dda i Dafydd a Solomon ac i'w bobl Israel.

Duw yn siarad â Solomon

(2 Brenhinoedd 9:1-9)

11 Roedd Solomon wedi gorffen adeiladu teml yr ARGLWYDD a phalas y brenin. Gwnaeth bopeth roedd wedi bod eisiau'i wneud i'r deml a'r palas. 12 A dyma'r ARGLWYDD yn dod at Solomon yn y nos, a dweud wrtho, “Dw i wedi ateb dy weddi a dewis y lle yma yn deml lle mae aberthau i'w cyflwyno. 13 Pan fydda i'n gwneud iddi stopio glawio, neu'n galw locustiaid i ddifa cnydau'r tir, neu'n taro fy mhobl gyda haint, 14 os bydd fy mhobl, ie fy mhobl i, yn cyfaddef eu bai, gweddïo arna i a'm ceisio i a stopio gwneud pethau drwg, yna bydda i'n gwrando o'r nefoedd; bydda i'n maddau eu pechod ac yn iacháu eu gwlad.

15 “Bydda i'n gwrando ar y gweddïau sy'n cael eu cyflwyno yn y lle yma. 16 Dw i wedi dewis a chysegru'r deml yma i fod yn gartref i mi am byth. Bydda i'n gofalu am y lle bob amser.

17 “Dw i eisiau i ti fyw fel gwnaeth dy dad Dafydd, a gwneud popeth dw i'n ddweud – bod yn ufudd i'r rheolau a'r canllawiau dw i wedi'u rhoi. 18 Yna bydda i'n gwneud i dy deulu di deyrnasu fel gwnes i addo i Dafydd dy Dad: ‘Un o dy deulu di fydd yn teyrnasu ar Israel am byth.’

19 “Ond os byddwch chi'n troi cefn arna i, a ddim yn dilyn y canllawiau a'r rheolau dw i wedi'u rhoi i chi; os byddwch chi'n addoli duwiau eraill, 20 yna bydda i'n eu chwynnu nhw o'r tir dw i wedi'i roi iddyn nhw. Bydda i'n troi cefn ar y deml yma dw i wedi chysegru i mi fy hun. A bydda i'n eich gwneud chi'n destun sbort ac yn jôc i bawb. 21 Ie, y deml yma hefyd, oedd yn adeilad mor wych – bydd pawb sy'n mynd heibio yn rhyfeddu ac yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i'r wlad ac i'r deml yma?’ 22 A bydd eraill yn ateb, ‘Am eu bod nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft. Maen nhw wedi cymryd duwiau eraill i'w dilyn a'u haddoli. Dyna pam mae'r ARGLWYDD wedi gadael i'r dinistr yma ddigwydd.’”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity