Yn ôl

2 Cronicl

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 CRONICL 8

Prosiectau adeiladu a llwyddiant Solomon

(1 Brenhinoedd 9:10-28)

1 Roedd dau ddeg mlynedd wedi mynd heibio ers i Solomon ddechrau adeiladu teml yr ARGLWYDD a'r palas. 2 Aeth ati i ailadeiladu'r trefi roedd Huram wedi'u rhoi iddo, a symud rhai o bobl Israel i fyw yno. 3 Aeth Solomon i ymladd yn erbyn tref Chamath-soba, a'i choncro. 4 Adeiladodd Tadmor yn yr anialwch, a'r holl ganolfannau lle roedd ei storfeydd yn Chamath. 5 Gwnaeth Beth-choron uchaf a Beth-choron isaf yn gaerau amddiffynnol gyda waliau a giatiau y gellid eu cloi gyda barrau, 6 hefyd Baalath. Adeiladodd y canolfannau lle roedd ei storfeydd, a'r trefi ar gyfer y cerbydau a'r ceffylau rhyfel. Roedd Solomon yn adeiladu beth bynnag roedd e eisiau, yn Jerwsalem, yn Libanus ac ar hyd a lled y wlad.

7 Roedd yna lawer o bobl yn dal i fyw yn y wlad oedd ddim yn Israeliaid – Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid. 8 (Roedd disgynyddion y bobl yma'n dal yn y wlad, am fod Israel wedi methu cael gwared â nhw i gyd pan wnaethon nhw goncro'r wlad.) Dyma Solomon yn gorfodi'r bobl yma i weithio iddo'n ddi-dâl. A dyna'r drefn hyd heddiw. 9 Wnaeth Solomon ddim gorfodi pobl Israel i weithio iddo fel caethweision. Nhw oedd ei filwyr, ei brif-swyddogion, capteiniaid ei gerbydau a'i farchogion. 10 Roedd yna ddau gant pum deg ohonyn nhw yn gweithio i'r Brenin Solomon fel arolygwyr dros y bobl.

11 Yna dyma Solomon yn symud merch y Pharo o ddinas Dafydd i'r palas roedd e wedi'i adeiladu iddi. “Does dim gwraig i mi yn cael byw ym mhalas Dafydd, brenin Israel – achos mae ble bynnag mae Arch yr ARGLWYDD wedi bod yn gysegredig.”

12 Yna dyma Solomon yn cyflwyno aberthau i'w llosgi i'r ARGLWYDD ar yr allor roedd wedi'i chodi o flaen cyntedd y deml. 13 Roedd yn gwneud hyn yn union fel roedd Moses wedi gorchymyn – bob dydd, ar bob Saboth, ar ŵyl y lleuad newydd bob mis, ac ar y tair gŵyl fawr arall bob blwyddyn (sef Gŵyl y Bara Croyw, Gŵyl y Cynhaeaf Ref a Gŵyl y Pebyll). 14 Fel roedd ei dad Dafydd wedi gorchymyn, trefnodd yr offeiriaid mewn grwpiau gwahanol i gyflawni eu cyfrifoldebau. Trefnodd y Lefiaid i arwain y mawl ac i helpu'r offeiriaid fel roedd angen pob dydd. Hefyd gosododd ofalwyr y giatiau yn eu grwpiau i fod yn gyfrifol am y gwahanol giatiau. Roedd Dafydd, dyn Duw, wedi trefnu hyn i gyd. 15 Wnaethon nhw ddim anghofio unrhyw un o orchmynion y brenin am yr offeiriaid, y Lefiaid, y trysordai a phopeth arall. 16 Cafodd yr holl waith orchmynnodd Solomon ei wneud, o'r diwrnod y cafodd y sylfeini eu gosod nes roedd y deml wedi'i gorffen. Dyna sut cafodd teml yr ARGLWYDD ei hadeiladu.

17 Yna dyma Solomon yn mynd i Etsion-geber, ac i Elat ar yr arfordir yng ngwlad Edom. 18 A dyma Huram yn anfon llongau a morwyr profiadol i fynd gyda'i weision i Offir, a dod â tua un deg chwech tunnell o aur o'r fan honno i'r Brenin Solomon.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity