Yn ôl

2 Corinthiaid

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Pennod 10

Paul yn amddiffyn ei weinidogaeth

1 Felly dyma fi, Paul, yn apelio atoch chi yn addfwyn ac yn garedig fel y Meseia ei hun — ie fi, yr un maen nhw'n dweud sy'n ‘llwfr’ pan dw i wyneb yn wyneb â chi, ond mor ‘galed’ pan dw i'n bell i ffwrdd! 2 Pan fydda i'n dod acw, dw i'n erfyn arnoch chi, peidiwch gwneud i mi fod yn galed gyda chi fel dw i'n disgwyl gorfod bod gyda'r rhai hynny sy'n dweud ein bod ni'n byw fel pobl y byd, sydd ddim yn credu! 3 Dyn ni'n byw yn y byd yn sicr, ond dyn ni ddim yn ymladd ein brwydrau fel mae'r byd yn gwneud. 4 Dyn ni ddim yn defnyddio arfau'r byd i ymladd. Fel arall yn hollol! — mae'n harfau ni yn rai grymus, a Duw sy'n rhoi'r nerth i ni chwalu'r cestyll mae'r gelyn yn eu hamddiffyn. 5 Dyn ni'n chwalu dadleuon a'r syniadau balch sy'n rhwystro pobl rhag dod i nabod Duw. Dyn ni'n rhwymo'r syniadau hynny, ac yn arwain pobl i fod yn ufudd i'r Meseia. 6 Pan fyddwch chi'n ufudd eto, byddwn ni'n barod wedyn i gosbi pawb sy'n aros yn anufudd. 7 Dych chi'n edrych ar bethau'n rhy arwynebol! Dylai'r rhai sy'n honni bod ganddyn nhw berthynas sbesial gyda'r Meseia ystyried hyn: mae'n perthynas ni gyda'r Meseia mor real â'u perthynas nhw. 8 Hyd yn oed petawn i'n brolio braidd gormod am yr awdurdod mae'r Arglwydd Iesu wedi ei roi i ni does gen i ddim cywilydd o'r peth. Awdurdod i'ch cryfhau chi ydy e, ddim i chwalu'ch ffydd chi. 9 Dw i ddim yn ceisio'ch dychryn chi yn fy llythyrau. 10 Dw i'n gwybod yn iawn beth maen nhw'n ei ddweud: “Mae'n galed ac yn gas yn ei lythyrau, ond rhyw greadur bach gwan ac eiddil ydy e go iawn, ac mae'n siaradwr anobeithiol!” 11 Gwell i bobl felly sylweddoli hyn: pan ddown ni acw, byddwn ni'n gwneud yn union beth mae'n llythyrau yn ei ddweud. 12 Wrth gwrs, fydden ni ddim yn meiddio cymharu'n hunain a rhoi'n hunain yn yr un dosbarth â'r rhai hynny sy'n canmol eu hunain! Y gwir ydy, wrth fesur yn ôl eu llathen eu hunain a chymharu eu hunain â'i gilydd maen nhw'n dangos mor ddwl ydyn nhw go iawn. 13 Dyn ni, ar y llaw arall, ddim yn mynd i frolio am bethau sydd ddim byd i'w wneud â ni. Dyn ni ddim ond yn sôn am y gwaith mae Duw wedi ei roi i ni — ac mae hynny'n cynnwys gweithio gyda chi! 14 Dyn ni ddim yn tresmasu ar faes rhywun arall. Wedi'r cwbl, ni ddaeth â'r newyddion da am y Meseia atoch chi! 15 Dyn ni ddim wedi dwyn y clod am waith pobl eraill. Ein gobaith ni ydy, wrth i'ch ffydd chi dyfu, y bydd ein gwaith ni yn eich plith chi yn tyfu fwy a mwy. 16 Wedyn byddwn ni'n gallu mynd ymlaen i gyhoeddi'r newyddion da mewn lleoedd sy'n bellach i ffwrdd na chi. Ond dyn ni ddim yn mynd i frolio am y gwaith mae rhywun arall wedi ei wneud! 17 “Os ydy rhywun am frolio, dylai frolio am beth mae'r Arglwydd wedi ei wneud.”Croes 18 Dim y bobl sy'n canmol eu hunain sy'n cael eu derbyn ganddo, ond y bobl mae'r Arglwydd ei hun yn eu canmol.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity