Yn ôl

2 Corinthiaid

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Pennod 11

Paul a'r ffug-apostolion

1 Wnewch chi oddef i mi siarad yn ffôl? — maddeuwch i mi am hyn. 2 Os dw i'n genfigennus, Duw sy'n gwneud i mi deimlo felly. Dw i wedi'ch addo chi yn briod i un dyn — ie, dim ond un! Dw i am eich cyflwyno chi'n wyryf bur i'r Meseia. 3 Ond dw i ofn i chi gael eich llygru a'ch denu i ffwrdd o'ch ymroddiad llwyr iddo, yn union fel y cafodd Efa ei thwyllo gan yr hen sarff gyfrwys.Croes 4 Mae rhywun yn dod atoch chi ac yn pregethu am Iesu gwahanol i'r un roedden ni'n ei bregethu. Dych chi'n derbyn ysbryd sy'n wahanol, neu ‘newyddion da’ gwahanol, a dych chi'n goddef y cwbl yn ddigon hapus! 5 Ond dw i ddim yn meddwl mod i'n israddol o gwbl i'r ‘ffansi-apostolion’ yna. 6 Efallai nad ydw i'n siaradwr cyhoeddus mawr, ond dw i'n gwybod beth ydy'r gwir. Mae'r gwir wedi cael ei wneud yn ddigon clir i chi bob amser. 7 Roeddwn i wedi cyhoeddi newyddion da Duw i chi yn rhad ac am ddim. Tybed wnes i'r peth anghywir? Diraddio fy hun er mwyn eich anrhydeddu chi. 8 Roeddwn i'n derbyn tâl gan eglwysi eraill er mwyn i mi allu gweithio i chi! 9 Hyd yn oed pan roeddwn i'n brin, fues i ddim yn faich ar neb ohonoch chi. Y ffrindiau ddaeth o dalaith Macedonia roddodd i mi bopeth oedd arna i ei angen.Croes Dw i wedi osgoi bod yn faich arnoch chi o gwbl, a dw i'n mynd i ddal i wneud hynny. 10 Heb unrhyw amheuaeth does neb yn Achaia gyfan yn gallu gwadu hynny. 11 Ond pam dw i'n gwneud hyn? Am fy mod i ddim yn eich caru chi? Duw a ŵyr cymaint dw i'n eich caru chi! 12 Dw i'n mynd i ddal ati i wneud yr un fath â dw i wedi gwneud bob amser. Bydd hynny'n tynnu'r carped o dan draed y rhai sy'n brolio ac yn ceisio rhoi'r argraff eu bod nhw'n gwneud yr un gwaith â ni! 13 Na, ffug-apostolion ydyn nhw! Twyllwyr yn cymryd arnyn nhw eu bod nhw'n cynrychioli y Meseia! 14 A dim syndod, achos mae Satan ei hun yn cymryd arno ei fod yn angel y goleuni! 15 Felly pam ddylen ni ryfeddu os ydy ei weision e'n cymryd arnyn nhw eu bod nhw'n gweithio dros beth sy'n iawn. Byddan nhw'n cael beth maen nhw'n ei haeddu yn y diwedd!

Paul yn sôn am beth roedd wedi ei ddioddef

16 Dw i'n dweud eto: peidiwch meddwl fy mod i'n ffŵl. Ond hyd yn oed os dych chi'n meddwl hynny, wnewch chi oddef i mi actio'r ffŵl trwy frolio tipyn bach? 17 Wrth frolio fel yma dw i ddim yn siarad fel y byddai'r Arglwydd am i mi siarad — actio'r ffŵl ydw i. 18 Ond am fod cymaint yn brolio fel mae'r byd yn gwneud, dw i'n mynd i wneud yr un peth. 19 Wedi'r cwbl, er eich bod chi mor ddoeth, dych chi'n barod iawn i oddef ffyliaid! 20 Yn wir, dych chi'n fodlon hyd yn oed os ydyn nhw'n eich caethiwo chi. Dych chi'n gadael iddyn nhw gymryd eich arian chi a manteisio arnoch chi. Dych chi'n gadael iddyn nhw gymryd drosodd a chodi cywilydd arnoch chi yn y ffordd maen nhw'n eich trin chi! 21 Mae gen i gywilydd ohono i'n hun, fy mod i'n rhy wan i'ch trin chi felly! 22 Maen nhw'n Iddewon sy'n siarad Hebraeg ydyn nhw? A fi! Israeliaid crefyddol, ie? A fi! Disgynyddion Abraham? A fi! 23 Gweision i'r Meseia? Dw i'n was gwell! (Dw i wir ddim yn gall yn siarad fel hyn!) Dw i wedi gweithio'n galetach na nhw, wedi bod yn y carchar yn amlach, wedi cael fy nghuro dro ar ôl tro, nes mod i bron marw'n aml.Croes 24 Dw i wedi cael fy chwipio bum gwaith gan yr Iddewon (y tri deg naw chwip).Croes 25 Dw i wedi cael fy nghuro â ffyn dair gwaith gan y Rhufeiniaid. Un tro cafodd cerrig eu taflu ata i er mwyn fy lladd i. Dw i wedi bod mewn llongddrylliad dair gwaith.Croes Un o'r troeon hynny roeddwn i yn y môr am dros bedair awr ar hugain. 26 Yn ystod yr holl deithio di-baid dw i wedi bod mewn peryg gan afonydd, gan ladron, gan fy mhobl fy hun a phobl o genhedloedd eraill;Croes dw i wedi bod mewn peryg mewn dinasoedd, wrth deithio drwy dir anial ac ar y môr; a hefyd gan y dynion sy'n cymryd arnyn eu bod nhw'n Gristnogion. 27 Dw i wedi gweithio'n wirioneddol galed ac wedi colli cwsg yn aml; wedi profi newyn a syched a mynd heb fwyd yn aml; dw i wedi dioddef o oerfel ac wedi bod heb ddigon o ddillad i gadw'n gynnes. 28 A heb sôn am ddim arall, dw i dan bwysau bob dydd o achos y consýrn sydd gen i am yr eglwysi i gyd. 29 Os ydy rhywun yn teimlo'n wan, dw i yno gydag e. Os ydy rhywun yn cael ei arwain i bechu, dw i'n berwi y tu mewn! 30 Os oes rhaid i mi frolio, mae'n well gen i frolio am y pethau hynny sy'n dangos mor wan ydw i. 31 Mae Duw a Thad yr Arglwydd Iesu — yr un sydd i'w foli am byth — yn gwybod fy mod i'n dweud y gwir. 32 Yn Damascus roedd y llywodraethwr dan y Brenin Aretas wedi gorchymyn i'r ddinas gael ei gwarchod er mwyn fy arestio i. 33 Ond ces fy ngollwng i lawr o ffenest yn wal y ddinas, mewn basged! Dyna sut llwyddais i ddianc o'i afael!Croes

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity