Yn ôl

2 Corinthiaid

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Pennod 13

Rhybuddion olaf

1 Hwn fydd y trydydd tro i mi ymweld â chi.

“Rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.”Croes

2 Dw i wedi rhoi un rhybudd i'r rhai oedd wedi bod yn pechu y tro dwetha roeddwn i gyda chi. Dw i ddim gyda chi ar hyn o bryd, ond dw i'n rhoi ail rybudd (iddyn nhw a phawb sydd wedi ymuno â nhw). Fydda i'n dangos dim trugaredd y tro nesa! 3 Wedi'r cwbl, dych chi eisiau prawf fod y Meseia yn siarad trwof fi. Dydy e ddim yn wan yn y ffordd mae e'n delio gyda chi — mae'n gweithio'n nerthol yn eich plith chi! 4 Mae'n wir ei fod yn wan pan gafodd ei ladd ar y groes, ond mae bellach yn byw drwy nerth Duw. A'r un modd, dyn ni sy'n perthyn iddo yn wan, ond byddwn ni'n rhannu ei fywyd e — a'r bywyd hwnnw sydd trwy nerth Duw yn ein galluogi ni i'ch gwasanaethu chi. 5 Chi ddylai edrych arnoch eich hunain i weld a ydych yn byw'n ffyddlon. Dylech chi roi eich hunain ar brawf! Ydych chi ddim yn sylweddoli fod y Meseia Iesu yn eich plith chi? — os na, dych chi wedi methu'r prawf. 6 Beth bynnag, dw i'n hyderus eich bod chi'n gweld ein bod ni ddim wedi methu'r prawf. 7 Ond dim cael pobl i weld ein bod ni wedi pasio'r prawf ydy'r rheswm pam dyn ni'n gweddïo ar Dduw na fyddwch chi'n gwneud dim o'i le. Dyn ni am i chi wneud beth sy'n iawn hyd yn oed os ydy'n ymddangos ein bod ni wedi methu. 8 Dyn ni ddim am wneud unrhyw beth sy'n rhwystr i'r gwirionedd, dim ond beth sy'n hybu'r gwirionedd. 9 Yn wir, dyn ni'n ddigon balch o fod yn wan os dych chi'n gryfion. Ein gweddi ni ydy ar i chi gael eich adfer. 10 Dyna pam dw i'n ysgrifennu atoch chi fel hyn tra dw i'n absennol — dw i ddim eisiau gorfod bod yn galed arnoch chi a defnyddio'r awdurdod mae'r Arglwydd wedi ei roi i mi. Dw i eisiau cryfhau, dim chwalu'ch ffydd chi.

Cyfarchion i gloi

11 Felly i gloi, ffrindiau annwyl, byddwch lawen! Newidiwch eich ffyrdd a gwrando ar beth dw i'n eich annog chi i'w wneud. Cytunwch â'ch gilydd, a byw mewn perthynas iach â'ch gilydd. A bydd y Duw sy'n rhoi cariad a heddwch perffaith gyda chi. 12 Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad. 13 Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a'r rhannu hwnnw mae'r Ysbryd Glân yn ei ysgogi.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity