Yn ôl

2 Corinthiaid

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Pennod 2

0nb 1 Dyna pam wnes i benderfynu peidio talu ymweliad arall fyddai'n achosi poen i bawb. 2 Os ydw i'n eich gwneud chi'n drist, pwy sy'n mynd i godi fy nghalon i? Yr un dw i wedi achosi poen iddo? 3 Yn wir, dyna pam ysgrifennais i fel y gwnes i yn fy llythyr. Doeddwn i ddim am ddod i'ch gweld chi, a chael fy ngwneud yn drist gan yr union bobl ddylai godi nghalon i! Roeddwn i'n siŵr mai beth sy'n fy ngwneud i'n hapus sy'n eich gwneud chi'n hapus yn y pen draw. 4 Roedd ysgrifennu'r llythyr atoch chi yn brofiad poenus iawn. Roeddwn i'n ddigalon iawn, a bues i'n wylo'n hir uwch ei ben. Doedd gen i ddim eisiau eich gwneud chi'n drist, dim ond eisiau i chi weld cymaint dw i'n eich caru chi!

Maddeuant i'r pechadur

5 Mae un dyn arbennig wedi achosi tristwch. Mae wedi gwneud hynny dim yn gymaint i mi, ond i bron bob un ohonoch chi (er, dw i ddim eisiau gwneud i'r peth swnio'n waeth nag y mae.) 6 Mae beth benderfynodd y mwyafrif ohonoch chi yn yr eglwys ei wneud i'w ddisgyblu wedi mynd ymlaen yn ddigon hir. 7 Erbyn hyn mae'n bryd i chi faddau iddo a'i helpu i droi yn ôl. Dych chi ddim eisiau iddo gael ei lethu'n llwyr a suddo i anobaith. 8 Felly dw i am eich annog chi i ddangos iddo unwaith eto eich bod chi'n dal i'w garu. 9 Roeddwn i'n anfon y llythyr atoch chi i weld a fyddech yn pasio'r prawf a bod yn gwbl ufudd. 10 Dw i'n maddau i bwy bynnag dych chi'n maddau iddo. Dw i eisoes wedi maddau iddo er eich mwyn chi — os oedd rhywbeth i mi i'w faddau. Mae'r Meseia ei hun yn gwybod fy mod i wedi gwneud hynny. 11 Dyn ni ddim am i Satan fanteisio ar y sefyllfa! Dyn ni'n gwybod yn iawn am ei gastiau e!

Gweision trefn newydd Duw

12 Pan gyrhaeddais i Troas i gyhoeddi'r newyddion da am y Meseia yno, ches i ddim llonydd. Er bod yno gyfle gwych i weithio dros yr Arglwydd, 13 doeddwn i ddim yn dawel fy meddwl am fod fy ffrind Titus ddim wedi cyrraedd yno fel roeddwn i'n disgwyl. Felly dyma fi'n ffarwelio â nhw, a mynd ymlaen i dalaith Macedonia i chwilio amdano. 14 Ond diolch i Dduw, mae'r gwaith yn dal i fynd yn ei flaen. Dyn ni'n cerdded ym mhrosesiwn buddugoliaeth y Meseia, ac mae arogl y persawr o gael nabod Duw yn lledu drwy'r byd i gyd! 15 Ydyn, dyn ni fel arogl hyfryd yn cael ei offrymu i Dduw gan y Meseia ei hun. Mae pawb yn ei arogli — y rhai sy'n cael eu hachub a'r rhai sydd ar eu ffordd i ddistryw. 16 Mae fel mwg gwenwynig i'r ail grŵp, ond i'r lleill yn bersawr hyfryd sy'n arwain i fywyd. Pwy sy'n ddigon da i wneud gwaith mor bwysig? Neb mewn gwirionedd! 17 Ond o leia dyn ni ddim yn pedlera neges Duw i wneud arian, fel mae llawer o rai eraill. Fel arall yn hollol! — dyn ni'n gwbl ddidwyll. Gweision y Meseia ydyn ni, yn cyhoeddi'r neges mae Duw wedi ei rhoi i ni, ac yn siarad yn gwbl agored o flaen Duw.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity