Yn ôl

2 Corinthiaid

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Pennod 7

1 Felly ffrindiau annwyl, am fod Duw wedi addo'r pethau yma i ni, gadewch i ni lanhau'n hunain o unrhyw beth allai'n gwneud ni'n aflan. Am fod Duw i'w ofni, gadewch i ni gyrraedd at y nod o roi'n hunain iddo yn bobl lân.

Llawenydd Paul

2 Derbyniwch ni. Wnaethon ni ddim cam â neb, na gwneud niwed i neb, na chymryd mantais o neb. 3 Dw i ddim yn ceisio gweld bai arnoch chi drwy ddweud hyn. Fel y dwedais i, dych chi'n sbesial iawn yn ein golwg ni. Fydd ein cariad ni ddim llai, doed a ddelo — byw neu farw 4 Mae gen i hyder ynoch chi. Dw i wir falch ohonoch chi. Dw i wedi fy nghalonogi'n fawr. Dw i'n wirioneddol hapus er gwaetha'r holl drafferthion. 5 Beth bynnag, pan gyrhaeddon ni dalaith Macedonia chawson ni ddim llonydd wedyn. Roedd trafferthion bob cam o'r ffordd! Gwrthwynebiad pobl o'r tu allan, ac ofnau o'n mewn ni. 6 Ond mae Duw'n cysuro'r rhai sy'n ddigalon, a dyma fe'n ein cysuro ni pan ddaeth Titus aton ni. 7 Roedd yn braf ei weld, ond hefyd i gael deall fel roeddech chi wedi ei gysuro fe. Roedd yn dweud fod gynnoch chi hiraeth amdanon ni, eich bod chi'n sori am beth ddigwyddodd, ac yn wirioneddol awyddus i bethau fod yn iawn rhyngon ni. Roeddwn i'n hapusach fyth wedyn! 8 Dw i ddim yn sori mod i wedi anfon y llythyr, Ref er ei fod wedi'ch brifo chi. Roeddwn i yn sori i ddechrau, wrth weld eich bod chi wedi cael eich brifo. Ond doedd hynny ddim ond dros dro. 9 Felly dw i'n hapus bellach — dim am i chi gael eich gwneud yn drist, ond am fod hynny wedi gwneud i chi newid eich ffyrdd. Dyna'r math o dristwch mae Duw eisiau ei weld, felly wnaethon ni ddim drwg i chi. 10 Mae'r math o dristwch mae Duw am ei weld yn gwneud i bobl newid eu ffyrdd a chael eu hachub. Dydy hynny byth yn rhywbeth i'w ddifaru! Ond dydy teimlo'n annifyr am rywbeth, heb droi at Dduw, ddim ond yn arwain i farwolaeth ysbrydol. 11 Edrychwch beth mae'r tristwch mae Duw'n edrych amdano wedi ei wneud ynoch chi: mae wedi creu brwdfrydedd ac awydd i sortio'r peth allan, ac wedi'ch gwneud chi mor ddig fod y fath beth wedi digwydd. Mae wedi creu y fath barch ata i, y fath hiraeth amdana i, y fath sêl, y fath barodrwydd i gosbi'r troseddwr. Drwy'r cwbl i gyd dych wedi profi fod dim bai arnoch chi. 12 Felly, roeddwn i'n ysgrifennu atoch chi fel gwnes i, dim i ddelio gyda'r un wnaeth y drwg, nac i ddangos fy mod i fy hun wedi cael cam. Roeddwn i'n ysgrifennu er eich mwyn chi! — i chi weld drosoch eich hunain mor bwysig ydy'n perthynas ni. Mae Duw'n gwybod! 13 Felly dyn ni wedi cael ein calonogi'n fawr! Ond yn fwy na hynny, roedden ni'n arbennig o falch o weld mor hapus oedd Titus. Cafodd y fath groeso gynnoch chi i gyd, ac mae wedi codi ei galon yn fawr. 14 Roeddwn i wedi bod yn brolio amdanoch chi wrtho, a wnaethoch chi ddim fy siomi i. Yn union fel mae popeth dyn ni wedi ei ddweud wrthoch chi'n wir, mae beth ddwedon ni amdanoch chi wrth Titus wedi troi allan i fod yn wir hefyd. 15 Mae wedi dod mor hoff ohonoch chi. Mae e'n cofio sut fuoch chi i gyd mor ufudd, a dangos y fath barch a chonsýrn. 16 Dw i'n hapus iawn, am fy mod i'n gallu ymddiried yn llwyr ynoch chi.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity