Yn ôl

2 Corinthiaid

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Pennod 9

1 Does dim wir angen i mi ysgrifennu atoch chi am y casgliad yma i helpu Cristnogion Jerwsalem. 2 Dw i'n gwybod eich bod chi'n awyddus i helpu. Dw i wedi bod yn sôn am y peth wrth bobl Macedonia, ac yn dweud wrthyn nhw eich bod chi yn nhalaith Achaia wedi bod yn barod ers y flwyddyn ddiwethaf. Clywed am eich brwdfrydedd chi sydd wedi ysgogi y rhan fwya ohonyn nhw i wneud rhywbeth! 3 Ond dw i'n anfon y brodyr yma atoch chi er mwyn gwneud yn siŵr y bydd ein brolio ni amdanoch ddim yn troi allan i fod yn wag, ac y byddwch yn barod, fel dw i wedi dweud y byddwch chi. 4 Os bydd rhai o dalaith Macedonia gyda ni pan ddown ni i'ch gweld chi, a darganfod eich bod chi ddim yn barod, byddwn ni, heb sôn amdanoch chi, yn teimlo cywilydd go iawn. 5 Dyna pam o'n i'n teimlo bod rhaid anfon y brodyr atoch chi ymlaen llaw. Byddan nhw'n gallu gwneud trefniadau i dderbyn y rhodd dych wedi ei haddo. Bydd yn disgwyl amdanon ni wedyn fel rhodd sy'n dangos mor hael ydych chi, a dim fel rhywbeth wedi ei wasgu allan ohonoch chi.

Hau yn hael

6 Cofiwch hyn: Os mai ychydig dych chi'n ei hau, bach fydd y cynhaeaf; ond os dych chi'n hau yn hael, cewch gynhaeaf mawr. 7 Dylai pob un ohonoch chi roi o'i wirfodd, dim yn anfodlon neu am fod pwysau arnoch chi. Mae Duw'n mwynhau gweld pobl sydd wrth eu boddau yn rhoi.Croes 8 Mae Duw'n gallu rhoi mwy na digon o bethau'n hael i chi, er mwyn i chi fod â popeth sydd arnoch ei angen, a bydd digonedd dros ben i chi allu gwneud gwaith da bob amser. 9 Fel mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd:

“Mae'r duwiol yn rhoi yn hael i'r tlodion;

bydd pobl yn cofio ei haelioni bob amser.”Croes

0m 10 Duw sy'n rhoi'r had i'r heuwr a bwyd i bobl ei fwyta.Croes Bydd yn cynyddu eich stôr chi o ‘had’ ac yn gwneud i gynhaeaf eich gweithredoedd da chi lwyddo. 11 Bydd yn eich gwneud chi'n gyfoethog ym mhob ffordd er mwyn i chi allu bod yn hael bob amser. Bydd llawer o bobl yn diolch i Dduw pan fyddwn ni'n mynd â'ch rhodd chi i Jerwsalem. 12 Nid dim ond cwrdd ag angen pobl Dduw mae beth dych chi'n ei wneud — mae'n llawer mwy na hynny. Bydd yn gwneud i lawer o bobl ddweud diolch wrth Dduw. 13 Bydd pobl yn moli Duw am fod eich haelioni chi wrth rannu gyda nhw a phawb arall yn profi eich bod chi'n ufudd i'r newyddion da dych wedi ei gredu am y Meseia. 14 Byddan nhw'n gweddïo drosoch chi, ac yn hiraethu amdanoch chi, am fod Duw wedi'ch galluogi chi i fod mor hael. 15 A diolch i Dduw am ei fod e wedi rhoi rhodd i ni sydd y tu hwnt i eiriau!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity