Yn ôl

2 Brenhinoedd

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 BRENHINOEDD 20

Heseceia'n cael ei daro'n wael, a bron yn marw

(2 Cronicl 32:24-26; Eseia 38:1-8,21-22)

1 Tua'r adeg yna roedd Heseceia'n sâl. Roedd yn ddifrifol wael, a bu bron iddo farw. Daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: rho drefn ar dy bethau, achos ti'n mynd i farw; fyddi di ddim yn gwella.” 2 Ond dyma Heseceia yn troi at y wal ac yn gweddïo, 3 “O ARGLWYDD, plîs cofia sut dw i wedi byw yn hollol ffyddlon i ti. Dw i bob amser wedi gwneud beth oedd yn dy blesio di.” Roedd yn beichio crio.

4 Cyn bod Eseia wedi gadael iard ganol y palas, dyma'r ARGLWYDD yn siarad ag e. 5 “Dos yn ôl i ddweud wrth Heseceia, arweinydd fy mhobl, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, Duw Dafydd dy dad: Dw i wedi gwrando ar dy weddi di, ac wedi gweld dy ddagrau di. Dw i'n mynd i dy iacháu di. Y diwrnod ar ôl yfory byddi'n mynd i deml yr ARGLWYDD. 6 Dw i'n mynd i roi un deg pump mlynedd arall i ti. Dw i'n mynd i dy achub di a'r ddinas yma o afael brenin Asyria. Bydda i'n amddiffyn y ddinas yma, er mwyn cadw fy enw da, ac am fy mod i wedi addo gwneud hynny i Dafydd, fy ngwas.’” 7 Yna dyma Eseia'n dweud, “Ewch i nôl bar o ffigys wedi'u gwasgu a'i roi ar y chwydd sydd wedi casglu, a bydd yn gwella.” 8 Gofynnodd Heseceia i Eseia, “Pa arwydd ga i y bydd yr ARGLWYDD yn fy ngwella ac y bydda i'n mynd i fyny i'w deml y diwrnod ar ôl fory?” 9 Ac roedd Eseia wedi ateb, “Dyma'r arwydd mae'r ARGLWYDD yn ei roi i ti i ddangos ei fod am wneud beth mae'n ddweud: ‘Wyt ti eisiau i'r cysgod ar y deial haul symud ymlaen ddeg gris, neu yn ôl ddeg gris?’” 10 A dyma Heseceia'n ateb, “Mae'n hawdd i gysgod symud ymlaen ddeg gris. Ond sut all e fynd yn ôl ddeg gris?” 11 Yna dyma'r proffwyd Eseia'n gweddïo, a dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i'r cysgod symud yn ôl ddeg gris ar ddeial haul Ahas.

Camgymeriad Heseceia

(Eseia 39:1-8; 2 Cronicl 32:32-33)

12 Tua'r un pryd anfonodd Merodach-baladan, mab Baladan, brenin Babilon, negeswyr gyda llythyrau ac anrheg i Heseceia – roedd wedi clywed ei fod yn sâl. 13 Roedd Heseceia wrth ei fodd eu bod nhw wedi dod, a dangosodd ei drysordy iddyn nhw – yr arian, yr aur, y perlysiau, a'r olew persawrus. Dangosodd ei stordy arfau iddyn nhw hefyd, a phopeth arall yn ei stordai. Dangosodd bopeth yn ei balas a'i deyrnas gyfan iddyn nhw!

14 Yna dyma'r proffwyd Eseia yn mynd at y Brenin Heseceia, a gofyn iddo: “Beth ddwedodd y dynion yna wrthot ti? O ble daethon nhw?” Atebodd Heseceia. “Daethon nhw ata i o wlad bell iawn – o Babilon.” 15 Gofynnodd Eseia wedyn, “Beth welon nhw yn dy balas di?” A dyma Heseceia'n ateb, “Popeth sydd gen i. Does dim byd yn fy stordai i gyd na welon nhw.” 16 A dyma Eseia'n dweud wrth Heseceia, “Gwranda ar neges yr ARGLWYDD: 17 ‘Edrych! Mae'r amser yn dod pan fydd popeth sydd yn dy balas di, popeth gasglodd dy ragflaenwyr di hyd heddiw, yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Fydd dim byd ar ôl!’ meddai'r ARGLWYDD. 18 ‘Bydd rhai o dy deulu di, ie, dy ddisgynyddion di dy hun, yn cael eu cymryd i ffwrdd ac yn gwasanaethu fel swyddogion ym mhalas brenin Babilon.’” 19 A dyma Heseceia yn dweud wrth Eseia, “Mae'r neges rwyt ti wedi'i rhannu gan yr ARGLWYDD yn dda.” Meddyliodd, “Be wedyn? O leia bydd heddwch a diogelwch tra dw i'n fyw.”

20 Mae gweddill hanes Heseceia – ei lwyddiant milwrol a'r ffaith iddo adeiladu'r gronfa ddŵr a'r sianel i gario dŵr i'r ddinas – i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. 21 Pan fu Heseceia farw, dyma Manasse, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity