Yn ôl

2 Brenhinoedd

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 BRENHINOEDD 25

Jerwsalem yn cael ei choncro

(2 Cronicl 36:13-21; Jeremeia 52:3b-11)

1 Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem. Digwyddodd hyn ar y degfed diwrnod o'r degfed mis o nawfed flwyddyn Sedeceia fel brenin. Ref Dyma nhw'n gwersylla o gwmpas y ddinas, ac yn codi rampiau i warchae arni. 2 Buon nhw'n gwarchae ar y ddinas am flwyddyn a hanner (blwyddyn un deg un Sedeceia fel brenin). 3 Erbyn y nawfed diwrnod o'r pedwerydd mis Ref y flwyddyn honno roedd y newyn yn y ddinas mor ddrwg doedd gan y werin bobl ddim byd o gwbl i'w fwyta. 4 Dyma'r gelyn yn llwyddo i fylchu wal y ddinas. A dyma filwyr Jwda i gyd yn ceisio dianc, a mynd allan o'r ddinas ganol nos drwy'r giât sydd rhwng y ddwy wal wrth ymyl gardd y brenin. Dyma nhw'n dianc i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen. Ref (Roedd y Babiloniaid yn amgylchynu'r ddinas.) 5 Ond aeth byddin Babilon ar ôl y Brenin Sedeceia. Cafodd ei ddal ar wastatir Jericho, a dyma'i fyddin gyfan yn cael ei gyrru ar chwâl. 6 Dyma nhw'n mynd â'r brenin Sedeceia i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon yn Ribla. 7 Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd. Wedyn, dyma nhw'n tynnu llygaid Sedeceia allan a'i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e'n gaeth i Babilon.

Y deml yn cael ei dinistrio

(Jeremeia 52:12-27)

8 Rhyw fis yn ddiweddarach, dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, un o swyddogion pwysica brenin Babilon, yn cyrraedd Jerwsalem (Roedd hyn ar y degfed diwrnod o'r pumed mis, a Nebwchadnesar wedi bod yn frenin Babilon ers un deg naw o flynyddoedd.) 9 Dyma fe'n rhoi teml yr ARGLWYDD, palas y brenin, a'r tai yn Jerwsalem i gyd ar dân. Llosgodd yr adeiladau pwysig i gyd. 10 Wedyn dyma fyddin Babilon, oedd gyda'r capten, yn bwrw'r waliau o gwmpas Jerwsalem i lawr. 11 A dyma Nebwsaradan yn mynd â'r bobl oedd wedi'u gadael ar ôl yn y ddinas, y milwyr oedd wedi mynd drosodd at y gelyn ac unrhyw grefftwyr oedd ar ôl, yn gaethion i Babilon. 12 Ond gadawodd rai o'r bobl mwyaf tlawd yn y wlad, a rhoi gwinllannoedd a thir iddyn nhw edrych ar ei ôl.

13 Wedyn, dyma'r Babiloniaid yn malu'r offer pres oedd yn y deml – y ddwy golofn bres, y trolïau dŵr pres, a'r basn mawr pres oedd yn cael ei alw ‛Y Môr‛. A dyma nhw'n cario'r metel yn ôl i Babilon. 14 Dyma nhw hefyd yn cymryd y bwcedi lludw, y rhawiau, y sisyrnau, y powlenni arogldarth, a phopeth arall o bres oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr addoliad. 15 Cymerodd capten y gwarchodlu y padellau a'r dysglau – popeth oedd wedi'i wneud o aur pur neu arian. 16 Roedd cymaint o bres yn y ddau biler, y gronfa ddŵr a'r trolïau oedd Solomon wedi'u gwneud ar gyfer y deml, roedd y cwbl yn ormod i'w bwyso. 17 Roedd y pileri yn wyth metr o uchder, gyda capan pres ar y top, ac roedd hwnnw yn fetr a hanner o uchder. O gwmpas top y capan roedd rhwyllwaith cain a phomgranadau yn ei haddurno, y cwbl wedi'i wneud o bres. Roedd y ddau biler yn union yr un fath.

18 Cymerodd capten y gwarchodlu brenhinol rai pobl yn garcharorion hefyd. Aeth â Seraia (y prif-offeiriad), Seffaneia (yr offeiriad cynorthwyol), a tri porthor y deml. 19 Wedyn o'r ddinas cymerodd swyddog y llys oedd yn gyfrifol am y milwyr, pump o gynghorwyr y brenin oedd wedi cael eu darganfod yn cuddio yn y ddinas, un o'r swyddogion oedd yn drafftio pobl i ymladd yn y fyddin, a chwe deg o'i ddynion gafodd eu darganfod yn y ddinas. 20 Aeth Nebwsaradan, capten y gwarchodlu, â nhw at frenin Babilon i Ribla, 21 a dyma'r brenin yn eu curo nhw a'u dienyddio nhw yno. Felly roedd pobl Jwda wedi cael eu caethgludo o'u tir.

Gedaleia yn rheoli Jwda

(Jeremeia 40:7-9; 41:1-3)

22 Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn penodi Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan), yn llywodraethwr dros y bobl roedd wedi'u gadael ar ôl yng ngwlad Jwda.

23 Pan glywodd swyddogion byddin Jwda a'u milwyr fod brenin Babilon wedi penodi Gedaleia i reoli'r wlad, dyma nhw'n mynd i'w gyfarfod yn Mitspa: Ishmael fab Nethaneia, Iochanan fab Careach, Seraia fab Tanchwmeth o Netoffa, a Iaasaneia (mab y Maachathiad). Daeth y rhain i gyd gyda'u milwyr. 24 A dyma Gedaleia yn addo ar lw iddyn nhw, “Does dim rhaid i chi fod ag ofn swyddogion Babilon. Arhoswch yn y wlad a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd popeth yn iawn.” 25 Ond yna yn y seithfed mis dyma Ishmael, oedd yn perthyn i'r teulu brenhinol (mab Nethaneia ac ŵyr i Elishama), yn mynd i Mitspa gyda deg o'i ddynion a lladd Gedaleia a'r dynion o Jwda a Babilon oedd yno gydag e. 26 Yna dyma'r boblogaeth i gyd (o'r ifancaf i'r hynaf) a swyddogion y fyddin, yn ffoi i'r Aifft am eu bod ofn beth fyddai'r Babiloniaid yn ei wneud.

Y brenin Jehoiachin yn y gaethglud

(Jeremeia 52:31-34)

27 Roedd Jehoiachin, brenin Jwda, wedi bod yn garcharor am dri deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Efil-merodach Ref yn frenin ar Babilon. Ar y seithfed ar hugain o'r deuddegfed mis Ref y flwyddyn honno dyma Efil-merodach yn rhyddhau Jehoiachin o garchar. 28 Buodd yn garedig ato, a'i anrhydeddu fwy nag unrhyw un o'r brenhinoedd eraill oedd gydag e yn Babilon. 29 Felly dyma Jehoiachin yn newid o'i ddillad carchar. Cafodd eistedd i fwyta'n rheolaidd wrth fwrdd brenin Babilon, 30 ac roedd yn derbyn lwfans dyddiol gan y brenin am weddill ei fywyd.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity