Yn ôl

2 Brenhinoedd

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 BRENHINOEDD 3

Rhyfel rhwng Israel a Moab

1 Pan oedd Jehosaffat wedi bod yn frenin ar Jwda am un deg wyth o flynyddoedd, dyma Joram, mab Ahab, yn dod yn frenin ar Israel yn Samaria. Bu'n frenin am un deg dwy o flynyddoedd. 2 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Ond doedd e ddim mor ddrwg â'i dad a'i fam. Roedd e wedi cael gwared â'r golofn gysegredig i Baal roedd ei dad wedi'i gwneud. 3 Ond roedd yn dal i addoli'r eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu. Roedd yn gwrthod yn lân cael gwared â nhw.

4 Roedd Mesha, brenin Moab yn cadw defaid. Roedd rhaid iddo dalu treth bob blwyddyn i frenin Israel – can mil o ŵyn a gwlân can mil o hyrddod. 5 Ond pan fu farw'r brenin Ahab, dyma frenin Moab yn gwrthryfela yn erbyn brenin newydd Israel. 6 Felly dyma'r Brenin Joram yn mynd allan o Samaria a galw byddin Israel i gyd at ei gilydd. 7 A dyma fe'n anfon neges at Jehosaffat, brenin Jwda, yn dweud, “Mae brenin Moab wedi gwrthryfela yn fy erbyn i. Ddoi di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab?” A dyma Jehosaffat yn ateb, “Dw i gyda ti, a bydd fy myddin i gyda dy fyddin di.” 8 Yna dyma fe'n gofyn, “Pa ffordd awn ni?” A dyma Joram yn ateb, “Ar hyd y ffordd drwy anialwch Edom.”

9 Felly dyma frenin Israel, brenin Jwda a brenin Edom yn mynd y ffordd hir rownd. Cymerodd saith diwrnod, a dyma nhw'n rhedeg allan o ddŵr – doedd ganddyn nhw ddim dŵr i'r milwyr na'r anifeiliaid oedd gyda nhw. 10 “O, na!” meddai brenin Israel, “Ydy'r ARGLWYDD wedi'n galw ni dri brenin allan er mwyn i frenin Moab ein curo ni?” 11 Yna dyma Jehosaffat yn gofyn, “Oes yna un o broffwydi'r ARGLWYDD yma, i ni holi'r ARGLWYDD drwyddo?” “Oes,” meddai un o weision Joram, “Eliseus fab Shaffat, oedd yn arfer helpu Ref Elias.” 12 A dyma Jehosaffat yn dweud, “Mae e'n un sy'n deall meddwl yr ARGLWYDD.” Felly aeth brenin Israel, Jehosaffat a brenin Edom i'w weld.

13 Dyma Eliseus yn dweud wrth frenin Israel, “Gad lonydd i mi. Dos at broffwydi dy dad neu broffwydi dy fam!” Ond dyma frenin Israel yn ateb, “Na, yr ARGLWYDD sydd wedi'n galw ni dri brenin allan er mwyn i frenin Moab ein curo ni!” 14 A dyma Eliseus yn ateb, “Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy'r un dw i'n ei wasanaethu. Mor sicr â'i fod e'n fyw, fyddwn i'n cymryd dim sylw ohonot ti o gwbl oni bai am y parch sydd gen i at y Brenin Jehosaffat. 15 Nawr dewch â rhywun sy'n canu'r delyn ata i.” Wrth i'r telynor ganu dyma Eliseus yn dod dan ddylanwad yr ARGLWYDD. 16 A dyma fe'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Gwnewch ffosydd yn y dyffryn yma.’ 17 Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Welwch chi ddim gwynt na glaw, ond bydd y dyffryn yma'n llawn dŵr. Byddwch chi a'ch anifeiliaid yn cael yfed.’ 18 Mae'n beth mor hawdd i'r ARGLWYDD ei wneud. A byddwch chi'n ennill y frwydr yn erbyn Moab hefyd. 19 Dych chi i ddinistrio'r caerau amddiffynnol a'r trefi pwysig i gyd. Dych chi i dorri'r coed ffrwythau i gyd, llenwi pob ffynnon gyda phridd, a difetha pob darn o dir da gyda cherrig.” 20 Yna'r bore wedyn, tua'r adeg roedden nhw'n arfer cyflwyno aberth i'r ARGLWYDD, dyma ddŵr yn dechrau llifo i lawr o gyfeiriad Edom a llenwi pobman.

21 Roedd pobl Moab wedi clywed fod y brenhinoedd yn ymosod. Felly dyma nhw'n galw at ei gilydd bawb oedd ddigon hen i gario arfau, a mynd i ddisgwyl wrth y ffin. 22 Pan godon nhw'r bore wedyn, roedden nhw'n gweld yr haul yn tywynnu ar y dŵr yn y pellter. Roedd yn edrych yn goch fel gwaed i bobl Moab. 23 “Mae'n rhaid bod y brenhinoedd wedi ymladd yn erbyn ei gilydd,” medden nhw. “Dewch, bobl Moab, i gasglu'r ysbail!”

24 Ond pan gyrhaeddon nhw wersyll Israel, dyma fyddin Israel yn codi ac ymosod arnyn nhw, nes i Moab orfod ffoi. Aeth byddin Israel ar eu holau a'u taro. 25 Dyma nhw'n dinistrio'r trefi i gyd, ac roedd pob dyn yn taflu carreg ar y tir da nes roedd y caeau'n llawn cerrig. Dyma nhw hefyd yn llenwi pob ffynnon gyda phridd, a thorri i lawr pob coeden ffrwythau. Yn y diwedd dim ond Cir-chareseth oedd ar ôl. A dyma'r milwyr gyda ffyn tafl yn ei hamgylchynu ac ymosod arni hithau hefyd. 26 Pan welodd brenin Moab ei fod yn colli'r frwydr, dyma fe'n mynd â saith gant o filwyr gyda chleddyfau i geisio torri drwy rengoedd brenin Edom; ond methu wnaeth e. 27 Yna dyma fe'n cymryd ei fab hynaf, yr un oedd i fod yn frenin ar ei ôl, a'i losgi'n aberth ar ben y wal.

Trodd pethau'n ffyrnig yn erbyn Israel, a dyma nhw'n rhoi'r gorau i'r frwydr a mynd yn ôl i'w gwlad eu hunain.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity