Yn ôl

2 Brenhinoedd

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 BRENHINOEDD 7

1 A dyma Eliseus yn ei ateb, “Gwranda ar neges yr ARGLWYDD. ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Yr adeg yma fory, yn y farchnad wrth giât Samaria, bydd un darn arian yn ddigon i brynu sachaid o flawd mân, neu ddwy lond sach o haidd!’” 2 A dyma swyddog agosa'r brenin, ei brif gynorthwywr, yn ateb proffwyd Duw. “Hyd yn oed petai'r ARGLWYDD yn agor llifddorau'r awyr iddi lawio ar y ddaear, allai hynny byth digwydd!” Ond dyma Eliseus ateb, “Cei weld y peth â dy lygaid dy hun, ond gei di ddim bwyta dim ohono.”

Byddin Syria wedi gadael

3 Tu allan i giât y ddinas roedd pedwar dyn oedd yn dioddef o glefyd heintus ar y croen. Dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Pam ydyn ni'n aros yn y fan yma i farw? 4 Os awn ni i mewn i'r ddinas, byddwn ni'n marw, achos does yna ddim bwyd yno. Os arhoswn ni yma, dŷn ni'n mynd i farw hefyd. Felly dewch i ni fynd drosodd at fyddin Syria. Falle y gwnân nhw'n lladd ni, ond mae yna bosibilrwydd yn gwnân nhw adael i ni fyw.” 5 Felly'r noson honno, dyma nhw'n mynd i wersyll byddin Syria. Ond wrth iddyn nhw gyrraedd cyrion y gwersyll dyma nhw'n sylweddoli fod yna neb yno. 6 Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud i fyddin Syria feddwl eu bod yn clywed sŵn byddin enfawr yn dod gyda ceffylau a cherbydau. Roedden nhw'n meddwl fod brenin Israel wedi talu i frenhinoedd yr Hethiaid a'r Aifft i ymosod arnyn nhw. 7 Felly roedden nhw wedi dianc gyda'r nos. Roedden nhw wedi gadael eu pebyll, a'u ceffylau a'u hasynnod, a'r gwersyll fel roedd e, a ffoi am eu bywydau.

8 Pan ddaeth y dynion oedd yn dioddef o'r clefyd heintus ar y croen at gyrion y gwersyll aethon nhw i mewn i un o'r pebyll a buon nhw'n bwyta ac yfed ynddi. Yna dyma nhw'n cymryd arian, aur a dillad ohoni, a mynd i guddio'r cwbl. Wedyn dyma nhw'n mynd i babell arall, a dwyn o honno hefyd. 9 Ond yna dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Dydy hyn ddim yn iawn! Mae hi'n ddiwrnod i ddathlu, a dŷn ni wedi dweud dim wrth neb. Allwn ni ddim aros tan y bore; fyddai hynny ddim yn iawn. Dewch, rhaid i ni fynd i ddweud wrthyn nhw yn y palas.” 10 Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Samaria a galw ar y wylwyr y giatiau, “Dŷn ni wedi bod i wersyll byddin Syria, a doedd yna neb yno o gwbl. Glywon ni'r un siw na miw. Ond roedd y ceffylau a'r asynnod yno wedi'u clymu, a'r pebyll yn dal i sefyll.” 11 Yna dyma'r gwylwyr yn pasio'r neges ymlaen i balas y brenin. 12 Cododd y brenin o'i wely a dweud wrth ei swyddogion, “Ddweda i wrthoch chi beth mae Syria'n ei wneud. Maen nhw'n gwybod fod newyn yma, ac maen nhw wedi gadael y gwersyll a mynd i guddio i gefn gwlad. Maen nhw'n disgwyl i ni fynd allan i chwilio am fwyd, ac wedyn byddan nhw'n ein dal ni, ac yn dod i mewn i'r ddinas.” 13 Ond dyma un o'r swyddogion yn awgrymu, “Gad i ni ddewis pump o'r ceffylau sydd ar ôl, ac anfon dynion allan i weld beth sy'n digwydd. Os cân nhw eu lladd, fydd hynny ddim gwaeth na beth sy'n mynd i ddigwydd i bobl Israel i gyd os arhoswn ni yma – mae hi wedi darfod arnon ni fel mae hi.”

14 Felly dyma nhw'n cymryd dau gerbyd rhyfel, a dyma'r brenin anfon dynion ar ôl byddin Syria i weld beth oedd yn digwydd. 15 Aethon nhw ar eu holau cyn belled ac afon Iorddonen. (Roedd dillad a thaclau o bob math ar lawr ym mhobman ar y ffordd, wedi'u taflu i ffwrdd gan y Syriaid yn eu brys.) Yna dyma'r sgowtiaid yn mynd yn ôl i ddweud wrth y brenin. 16 Wedyn aeth pobl Samaria allan i wersyll byddin Syria a helpu eu hunain i beth bynnag roedden nhw'n dod o hyd iddo. A daeth hi'n wir fod un darn arian yn ddigon i brynu sachaid o flawd mân neu ddwy lond sach o haidd, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

17 Roedd y brenin wedi anfon ei brif gynorthwywr i reoli pethau wrth giât y ddinas. Ond wrth i'r dyrfa ruthro allan, cafodd ei sathru dan draed a bu farw. Roedd hyn hefyd wedi digwydd yn union fel roedd Eliseus, proffwyd yr ARGLWYDD, wedi dweud pan oedd y brenin wedi ceisio ei arestio. 18 Neges y proffwyd i'r brenin oedd, “Bydd un darn arian yn ddigon i brynu dwy lond sach o haidd neu sachaid o flawd mân! Bydd hyn yn digwydd yr adeg yma fory, yn y farchnad wrth giât Samaria.” 19 Ond roedd swyddog agosa'r brenin, ei brif gynorthwywr, wedi ateb proffwyd Duw, “Hyd yn oed petai'r ARGLWYDD yn agor llifddorau'r awyr iddi lawio ar y ddaear, allai hynny byth digwydd!” Ac roedd Eliseus wedi ateb, “Cei weld y peth â dy lygaid dy hun, ond gei di ddim bwyta dim ohono.” 20 A dyna'n union oedd wedi digwydd. Roedd e wedi cael ei sathru dan draed a marw wrth giât y ddinas.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity