Yn ôl

2 Brenhinoedd

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 BRENHINOEDD 9

Jehw yn dod yn frenin ar Israel

1 Dyma Eliseus, y proffwyd, yn galw un o aelodau'r urdd o broffwydi, a dweud wrtho, “Clyma dy wisg am dy ganol, cymer y botel yma o olew olewydd, a dos i Ramoth-gilead. 2 Wedi i ti gyrraedd yno, edrych am Jehw (mab Jehosaffat ac ŵyr i Nimshi). Dos ag e o ganol ei ffrindiau i ystafell ar wahân. 3 Yna cymer y botel a thywallt yr olew ar ei ben a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n dy eneinio di yn frenin ar Israel.’ Wedyn agor y drws a rheda i ffwrdd heb oedi.”

4 Dyma'r proffwyd ifanc yn mynd i Ramoth-gilead. 5 Pan gyrhaeddodd e, dyna lle roedd swyddogion y fyddin yn cyfarfod â'i gilydd. “Capten, mae gen i neges i ti,” meddai. A dyma Jehw yn gofyn, “I ba un ohonon ni?” “I ti, syr,” meddai'r proffwyd. 6 Felly dyma Jehw yn codi a mynd i mewn i'r tŷ. Dyma'r proffwyd yn tywallt yr olew ar ei ben a dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n dy eneinio di yn frenin ar Israel, pobl yr ARGLWYDD. 7 Rwyt i ddinistrio teulu Ahab. Dyna sut bydda i'n dial ar Jesebel am ladd fy ngweision y proffwydi, a phawb arall oedd yn gwasanaethu'r ARGLWYDD. 8 Dw i'n mynd i roi diwedd ar linach Ahab. Bydda i'n cael gwared â phob dyn a bachgen Ref yn Israel, sy'n perthyn i Ahab, y caeth a'r rhydd. 9 Bydda i'n gwneud yr un peth i linach Ahab ag a wnes i i Jeroboam fab Nebat a Baasha fab Achïa. 10 Bydd cŵn yn bwyta corff Jesebel yn ardal Jesreel. Fydd hi ddim yn cael ei chladdu.’” Yna dyma'r proffwyd yn agor y drws a rhedeg i ffwrdd.

11 Pan aeth Jehw allan at swyddogion eraill ei feistr, dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy popeth yn iawn? Pam wnaeth yr idiot yna ddod i dy weld di?” A dyma fe'n ateb, “O, dych chi'n gwybod am y math yna o foi a'i rwdlan.” 12 “Ti a dy gelwyddau!” medden nhw, “Dwed wrthon ni beth ddwedodd e.” Felly dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dyma beth ddwedodd e, ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Dw i'n dy eneinio di yn frenin ar Israel.”’” 13 Heb oedi dim, dyma pob un ohonyn nhw yn gafael yn ei glogyn a'i roi dan draed Jehw ar ben y grisiau. Wedyn dyma'r corn hwrdd Ref yn cael ei ganu, a phawb yn gweiddi, “Jehw ydy'r brenin!”

Jehw yn lladd Joram ac Ahaseia

14 Felly dyma Jehw yn cynllwynio yn erbyn Joram. (Roedd Joram wedi bod gyda byddin Israel yn Ramoth-gilead, yn amddiffyn y wlad rhag Hasael, Ref brenin Syria. 15 Ond roedd e wedi cael ei anafu, ac wedi mynd yn ôl i Jesreel i wella o'i glwyfau.) A dyma Jehw yn dweud wrth ei ddilynwyr, “Os ydych chi wir ar fy ochr i, peidiwch gadael i neb ddianc o'r ddinas i'w rhybuddio nhw yn Jesreel.” 16 Yna dyma Jehw yn mynd yn ei gerbyd i Jesreel, lle roedd Joram yn gorwedd yn wael. (Roedd Ahaseia, brenin Jwda, wedi mynd i ymweld â Joram ar y pryd.)Croes

17 Roedd gwyliwr ar ddyletswydd ar dŵr tref Jesreel. A dyma fe'n gweld Jehw a'i filwyr yn dod. Dyma fe'n gweiddi, “Dw i'n gweld milwyr yn dod!” Dyma Joram yn gorchymyn, “Anfonwch farchog allan i'w cyfarfod i ofyn ydyn nhw'n dod yn heddychlon.” 18 Felly dyma'r marchog yn mynd i'w cyfarfod, a gofyn, “Mae'r brenin yn gofyn, ‘Ydych chi'n dod yn heddychlon?’” Dyma Jehw yn ateb, “Dim o dy fusnes di! Dilyn di fi.” Dyma'r gwyliwr yn Jesreel yn dweud, “Aeth y marchog atyn nhw, ond dydy e ddim yn dod yn ôl.” 19 Felly dyma Joram yn anfon ail farchog. Aeth hwnnw atyn nhw a gofyn, “Mae'r brenin yn gofyn, ‘Ydych chi'n dod yn heddychlon?’” A dyma Jehw yn ateb eto, “Dim o dy fusnes di! Dilyn di fi.” 20 A dyma'r gwyliwr yn Jesreel yn dweud eto, “Aeth y marchog atyn nhw, ond dydy e ddim yn dod yn ôl. Mae pwy bynnag sy'n y cerbyd ar y blaen yn gyrru'n hurt; mae'n gyrru fel Jehw fab Nimshi!” 21 Yna dyma Joram yn dweud, “Gwnewch y cerbyd yn barod i mi.” Pan oedden nhw wedi gwneud hynny, dyma Joram, brenin Israel, ac Ahaseia, brenin Jwda, yn mynd allan yn eu cerbydau eu hunain i gyfarfod Jehw. Dyma nhw'n cwrdd ar y darn o dir oedd yn arfer perthyn i Naboth o Jesreel.

22 Dyma Joram yn gofyn i Jehw, “Ydy popeth yn iawn, Jehw?” Ond dyma Jehw yn ateb, “Fydd pethau byth yn iawn tra mae dy fam di, Jesebel, yn gwthio pobl i addoli eilunod a dewino!” 23 Yna dyma Joram yn troi ei gerbyd i geisio dianc, ac yn gweiddi ar Ahaseia, “Mae'n frad, Ahaseia!” 24 Ond dyma Jehw yn anelu ei fwa a saethu Joram rhwng ei ysgwyddau. Aeth y saeth drwy ei galon, a syrthiodd yn farw yn ei gerbyd. 25 Wedyn dyma Jehw yn dweud wrth Bidcar, ei is-gapten, “Cymer y corff a'i daflu ar y darn tir oedd yn arfer perthyn i Naboth o Jesreel. Wyt ti'n cofio? Pan oedd y ddau ohonon ni'n gwasanaethu Ahab ei dad, roedd yr ARGLWYDD wedi cyhoeddi hyn yn ei erbyn: 26 ‘Yn wir dw i wedi gweld gwaed Naboth a'i feibion, ddoe,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘A bydda i'n talu'n ôl i ti ar yr union ddarn yma o dir.’Croes Felly cymer y corff a'i daflu ar y darn tir yna fel dwedodd yr ARGLWYDD.”

27 Pan welodd Ahaseia, brenin Jwda, beth ddigwyddodd, dyma fe'n ffoi i gyfeiriad Beth-haggan. A dyma Jehw yn mynd ar ei ôl a gorchymyn i'w filwyr, “Saethwch e hefyd!” A dyma nhw'n ei saethu yn ei gerbyd ar yr allt sy'n mynd i fyny i Gwr, wrth ymyl Ibleam. Ond llwyddodd i ddianc i Megido, a dyna lle buodd e farw. 28 Aeth ei weision a'r corff yn ôl i Jerwsalem, a'i gladdu yn ei fedd gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd.

29 Roedd Joram wedi bod yn frenin Israel am un deg un o flynyddoedd pan gafodd Ahaseia ei wneud yn frenin ar Jwda.

Lladd Jesebel

30 Dyma Jehw yn mynd i Jesreel. Pan glywodd Jesebel ei fod yn dod dyma hi'n rhoi colur ar ei llygaid, gwneud ei gwallt a phwyso allan o'r ffenest. 31 Pan gyrhaeddodd Jehw wrth giât y dref, dyma hi'n galw arno, “Wyt ti'n dod yn heddychlon? Ti ddim gwell na Simri, Ref wnaeth lofruddio ei feistr!” 32 Dyma Jehw yn edrych i fyny a gofyn, “Pwy sydd ar fy ochr i? Rhywun?” A dyma ddau neu dri o swyddogion y palas yn edrych i lawr arno. 33 “Taflwch hi allan drwy'r ffenest,” meddai wrthyn nhw. A dyma nhw'n ei thaflu hi i lawr. Pan darodd hi'r llawr dyma'i gwaed yn sblasio ar y wal ac ar y ceffylau, a dyma Jehw yn gyrru ei gerbyd drosti.

34 Aeth i mewn a bwyta ac yfed. Yna dyma fe'n dweud, “Ewch i gladdu corff y ddynes ddiawledig yna. Roedd hi yn ferch i frenin, wedi'r cwbl.” 35 Ond pan aethon nhw i'w chladdu hi, doedd dim byd ar ôl ond ei phenglog, ei thraed a'i dwylo. 36 Dyma nhw'n mynd i ddweud wrth Jehw, a dyma fe'n ateb, “Dyna'n union beth ddwedodd yr ARGLWYDD fyddai'n digwydd. Y proffwyd Elias o Tishbe ddwedodd, ‘Bydd cŵn yn bwyta corff Jesebel yn ardal Jesreel.Croes 37 A bydd darnau o'i chorff fel tail ar wyneb y tir yn Jesreel. Fydd neb yn gallu ei nabod.’”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity