Yn ôl

2 Pedr

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 PEDR 1

1 Llythyr gan Simon Pedr, gwas a chynrychiolydd personol Iesu Grist,

At y rhai sydd â ffydd yr un mor werthfawr â ni. Dydy Iesu Grist, ein Duw a'n Hachubwr ni, ddim yn rhoi ffafriaeth i neb:

2 Dw i'n gweddïo y bydd Duw yn tywallt ei haelioni rhyfeddol a'i heddwch dwfn arnoch chi wrth i chi ddod i nabod Duw a Iesu ein Harglwydd yn well.

Gwneud yn siŵr eich bod wedi'ch galw a'ch dewis

3 Wrth ddod i nabod Iesu Grist yn well, mae ei nerth dwyfol yn rhoi i ni bopeth sydd ei angen i fyw fel mae Duw eisiau i ni fyw. Mae wedi'n galw ni i berthynas gydag e'i hun, i ni rannu ei ysblander a phrofi ei ddaioni. 4 A thrwy hyn i gyd mae wedi addo cymaint o bethau mawr a gwerthfawr i ni. Y pethau yma sy'n eich galluogi chi i rannu ym mywyd anfarwol y natur ddwyfol. Dych chi'n osgoi'r dirywiad moesol sydd wedi lledu drwy'r byd o ganlyniad i chwantau pechadurus.

5 Dyma'n union pam ddylech chi wneud popeth posib i sicrhau fod daioni yn nodweddu eich cred. Wedyn dylai'r pethau yma ddilyn yn eu tro: doethineb ymarferol, 6 hunanreolaeth, dycnwch, byw fel mae Duw am i chi fyw, 7 dangos gofal go iawn am eich gilydd, a chariad cwbl ddiamod. 8 Os ydy'r pethau yma i'w gweld yn eich bywyd chi fwyfwy bob dydd, byddwch chi'n tyfu ac yn aeddfedu fel pobl sy'n nabod ein Harglwydd Iesu Grist. 9 Mae'r rhai sydd heb y pethau yma yn eu bywydau mor fyr eu golwg maen nhw'n ddall! Maen nhw wedi anghofio'r newid ddigwyddodd pan gawson nhw eu glanhau o bechodau'r gorffennol.

10 Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch eich gorau glas i wneud yn hollol siŵr fod Duw wir wedi'ch galw chi a'ch dewis chi. Dych chi'n siŵr o gyrraedd y nod os gwnewch chi'r pethau hyn, 11 a chewch groeso mawr i mewn i ble mae ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist yn teyrnasu am byth.

Proffwydoliaeth yn yr ysgrifau sanctaidd

12 Felly dw i'n mynd i ddal ati drwy'r adeg i'ch atgoffa chi o'r pethau yma. Dych chi'n eu gwybod eisoes, ac mae gynnoch chi afael cadarn yn y gwirionedd. 13 Ond dw i'n teimlo cyfrifoldeb i ddal ati i'ch atgoffa chi tra dw i'n dal yn fyw. 14 Dw i'n gwybod fod fy amser i yn y corff yma ar fin dod i ben. Mae'r Arglwydd Iesu Grist wedi dangos hynny'n ddigon clir i mi. 15 Felly dw i eisiau gwneud yn siŵr y byddwch chi'n dal i gofio'r pethau yma ar ôl i mi farw.

16 Dim dilyn rhyw straeon dychmygol clyfar oedden ni pan ddwedon ni wrthoch chi fod yr Arglwydd Iesu Grist yn mynd i ddod yn ôl eto gyda grym. Dim o gwbl! Roedden ni'n llygad-dystion i'w fawrhydi! 17 Gwelon ni e'n cael ei anrhydeddu a'i ganmol gan Dduw y Tad. Daeth llais oddi wrth y Gogoniant Mawr yn dweud, “Fy mab annwyl i ydy hwn; mae e wedi fy mhlesio i'n llwyr”.Croes 18 Clywon ni'r llais hwn yn dod o'r nefoedd pan oedden ni gydag e ar ben y mynydd sanctaidd.

19 A dŷn ni'n rhoi pwys mawr ar neges y proffwydi hefyd. Byddai'n beth da i chithau dalu sylw i'r neges honno. Mae fel lamp sy'n goleuo rhywle tywyll nes i'r dydd wawrio ac i ‛seren y bore‛ godi i oleuo eich meddyliau chi. 20 Mae'n hynod o bwysig i chi ddeall hyn – mai dim syniadau'r proffwyd ei hun ydy'r negeseuon sydd yn yr ysgrifau sanctaidd. 21 Dim y proffwyd ei hun oedd yn penderfynu ei fod am ddweud rhywbeth. Er mai pobl oedd yn gwneud y siarad, yr Ysbryd Glân oedd yn eu cymell nhw i siarad. Roedden nhw'n dweud beth oedd Duw am iddyn nhw ei ddweud.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity