Yn ôl

2 Samuel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 SAMUEL 16

Dafydd a Siba

1 Roedd Dafydd newydd fynd dros gopa'r bryn pan ddaeth Siba, gwas Meffibosheth, i'w gyfarfod. Roedd ganddo ddau asyn wedi'u cyfrwyo yn cario dau gan torth, can swp o rhesins, can swp o ffigys aeddfed a photel groen o win. 2 A dyma'r brenin yn gofyn, “Beth ydy'r rhain sydd gen ti?” Atebodd Siba, “Mae'r asynnod i ti a dy deulu farchogaeth arnyn nhw. Mae'r bara a'r ffrwythau i'r milwyr eu bwyta. Ac mae'r gwin i unrhyw un fydd yn llewygu yn yr anialwch.” 3 Yna dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Ble mae Meffibosheth, ŵyr dy feistr?” “Mae wedi aros yn Jerwsalem,” meddai Siba. “Mae'n meddwl y bydd pobl Israel yn rhoi gorsedd ei daid yn ôl iddo fe nawr.” 4 A dyma'r brenin yn dweud wrth Siba, “Os felly, dw i'n rhoi popeth oedd piau Meffibosheth i ti!” A dyma Siba'n dweud, “Dw i'n plygu o dy flaen di, fy meistr a'm brenin. Ti'n rhy garedig ata i.”

Shimei yn melltithio Dafydd

5 Pan ddaeth Dafydd i Bachwrîm, Ref dyma ddyn o'r enw Shimei fab Gera (oedd yn perthyn i deulu Saul) yn dod allan o'r pentref. Roedd yn rhegi Dafydd yn ddi-stop 6 ac yn taflu cerrig ato, ac at y swyddogion, y milwyr a'r gwarchodlu oedd bob ochr iddo. 7 Roedd Shimei yn gweiddi a rhegi, “Dos o ma! Dos o ma, y llofrudd ddiawl! 8 Mae'r ARGLWYDD yn talu'n ôl i ti am ladd teulu Saul. Roeddet ti wedi dwyn yr orsedd oddi arno, a nawr mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r deyrnas i dy fab Absalom. Maen dy dro di i fod mewn helynt, y llofrudd!”

9 Dyma Abishai (mab Serwia) yn dweud wrth y brenin, “Pam ddylai ci marw fel hwnna gael rhegi fy meistr, y brenin? Gad i mi fynd a thorri ei ben i ffwrdd!” 10 Ond dyma'r brenin yn ateb, “Dydy e ddim o'ch busnes chi, feibion Serwia. Os ydy e'n fy rhegi fel hyn am fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho am fy melltithio i, pwy ydych chi i'w stopio?” 11 A dyma Dafydd yn dweud wrth Abishai a'i swyddogion, “Mae fy mab i fy hun yn ceisio fy lladd i! Meddyliwch! Mae gan y dyn yma o lwyth Benjamin lot mwy o reswm i fod eisiau gwneud hynny! Gadewch lonydd iddo regi os mai'r ARGLWYDD sydd wedi dweud wrtho am wneud hynny. 12 Falle y bydd yr ARGLWYDD yn gweld mod i'n cael cam, ac yn gwneud da i mi yn lle'r holl felltithio yma.” 13 Felly aeth Dafydd a'i filwyr yn eu blaenau ar y ffordd. Ond roedd Shimei yn cadw i fyny â nhw ar ochr y bryn gyferbyn, ac yn rhegi a thaflu cerrig a phridd atyn nhw. 14 Roedd y brenin a'r bobl i gyd wedi blino'n lân erbyn iddyn nhw gyrraedd, felly dyma nhw'n cymryd seibiant.

Achitoffel yn rhoi cyngor i Absalom

15 Yn y cyfamser, roedd Absalom, a byddin Israel gyfan, wedi cyrraedd Jerwsalem. Roedd Achitoffel gydag e. 16 Yna dyma ffrind Dafydd, Chwshai yr Arciad, yn mynd i gyfarch Absalom a dweud, “Hir oes i'r brenin! Hir oes i'r brenin!” 17 Gofynnodd Absalom iddo, “Ai dyma beth ydy bod yn driw i dy ffrind, Dafydd? Pam est ti ddim gydag e?” 18 A dyma Chwshai yn ateb, “Na, dw i'n driw i'r un mae'r ARGLWYDD a'r bobl yma, sef pobl Israel i gyd, wedi'i ddewis. Gyda hwnnw bydda i'n aros. 19 A beth bynnag, rwyt ti'n fab iddo! Pam ddylwn i ddim dy wasanaethu di? Gwna i dy wasanaethu di fel gwnes i wasanaethu dy dad.”

20 Dyma Absalom yn gofyn i Achitoffel, “Rho gyngor i ni. Be ddylen ni ei wneud nesa?” 21 A dyma Achitoffel yn ateb, “Cysga gyda phartneriaid Ref dy dad – y rhai wnaeth e eu gadael i edrych ar ôl y palas. Bydd pawb yn Israel yn gwybod wedyn dy fod wedi troi dy dad yn dy erbyn yn llwyr, a bydd hynny'n rhoi hyder i bawb sydd ar dy ochr di.” 22 Felly dyma nhw'n codi pabell i Absalom ar do fflat y palas, lle roedd pawb yn gallu gweld. A dyma Absalom yn mynd yno a chael rhyw gyda chariadon ei dad i gyd.

23 (Yr adeg yna, roedd cyngor Achitoffel yn cael ei ystyried fel petai Duw ei hun wedi siarad. Dyna sut roedd Dafydd yn ei weld, a nawr Absalom hefyd.)

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity