Yn ôl

2 Samuel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 SAMUEL 17

Chwshai yn camarwain Absalom

1 Yna dyma Achitoffel yn dweud wrth Absalom, “Gad i mi gymryd 12,000 o ddynion, a mynd allan ar ôl Dafydd, heno! 2 Bydd e wedi blino'n lân ac yn wan erbyn i mi ddal i fyny ag e. Bydda i'n ei ddychryn, a bydd ei fyddin yn dianc mewn panig. Dim ond y brenin wna i ei ladd. 3 Gwna i ddod â gweddill y bobl yn ôl atat ti. Dim ond un dyn sydd angen ei ladd. Fydd neb arall yn cael niwed.”

4 Roedd yn swnio'n gynllun da i Absalom ac arweinwyr Israel i gyd. 5 Ond yna dyma Absalom yn dweud, “Dewch â Chwshai yr Arciad yma, i ni weld beth sydd ganddo fe i'w ddweud.” 6 Pan ddaeth Chwshai, dyma Absalom yn dweud wrtho beth oedd cyngor Achitoffel. “Beth ydy dy farn di? Ydy e'n gyngor da? Ac os ddim, beth wyt ti'n awgrymu?” 7 Dyma Chwshai yn ateb, “Na, dydy cyngor Achitoffel ddim yn dda y tro yma. 8 Mae dy dad a'i ddynion yn filwyr dewr. Ti'n gwybod hynny'n iawn. Maen nhw'n gallu bod mor filain ag arth wyllt wedi colli ei chenawon! Mae e wedi hen arfer rhyfela. Fyddai e byth yn cysgu'r nos gyda'i ddynion. 9 Mae'n siŵr ei fod yn cuddio mewn rhyw ogof neu rywle tebyg. Petai e'n ymosod ar dy ddynion di gyntaf, a rhai ohonyn nhw'n cael eu lladd, byddai'r stori'n mynd ar led fod byddin Absalom wedi cael crasfa. 10 Byddai hyd yn oed y milwyr mwyaf dewr – y rhai sy'n gryfion fel llewod – yn digalonni. Mae pobl Israel i gyd yn gwybod fod dy dad wedi hen arfer rhyfela, a bod y dynion sydd gydag e'n filwyr profiadol. 11 Dyma fy nghyngor i: Casgla ddynion Israel i gyd at ei gilydd, pawb – o Dan yn y gogledd i Beersheba Ref yn y de (Byddin fydd fel y tywod ar lan y môr, yn amhosib i'w chyfrif!) A dw i'n meddwl y dylet ti dy hun eu harwain nhw i'r frwydr. 12 Wedyn, ble bynnag mae e, byddwn ni'n disgyn arno fel gwlith ar y ddaear. Fydd e na neb arall sydd gydag e'n cael eu gadael yn fyw! 13 A hyd yn oed os bydd e'n llwyddo i ddianc i ryw dref gaerog, bydd dynion Israel yn tynnu'r waliau i lawr gyda rhaffau a llusgo'r dref i lawr i'r dyffryn. Fydd dim un garreg fechan ar ôl!” 14 A dyma Absalom ac arweinwyr Israel yn ymateb, “Mae cyngor Chwshai yn well na chyngor Achitoffel.” A dyna sut gwnaeth yr ARGLWYDD ddrysu cyngor da Achitoffel er mwyn achosi helynt i Absalom.

Dafydd yn dianc i Machanaîm Ref

15 Yna dyma Chwshai yn mynd i ddweud wrth Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid beth oedd cyngor Achitoffel i Absalom, a beth oedd e ei hun wedi'i ddweud. 16 “Anfonwch neges ar frys at Dafydd i ddweud wrtho am beidio aros dros nos wrth rydau'r anialwch,” meddai. “Dwedwch wrtho am groesi'r Iorddonen yn syth, rhag ofn iddo fe a phawb sydd gydag e gael eu lladd.”

17 Roedd Jonathan ac Achimaäts (meibion yr offeiriaid) yn aros yn En-rogel. Ref Felly byddai morwyn yn mynd â negeseuon iddyn nhw, a hwythau wedyn yn mynd â'r negeseuon ymlaen i'r brenin Dafydd. (Doedd wiw iddyn nhw gael eu gweld yn mynd i mewn i Jerwsalem.) 18 Ond roedd rhyw fachgen ifanc wedi'u gweld nhw, a mynd i ddweud wrth Absalom. Felly dyma'r ddau yn gadael ar frys, ac aethon nhw i dŷ rhyw ddyn yn Bachwrîm. Roedd gan hwnnw bydew yn ei fuarth, a dyma nhw'n dringo i lawr i'r pydew. 19 Yna dyma wraig y dyn yn rhoi gorchudd dros geg y pydew a thaenu grawn drosto, fel bod dim i'w weld.

20 Pan ddaeth gweision Absalom at y tŷ dyma nhw'n gofyn i'r wraig, “Ble mae Achimaäts a Jonathan?” A dyma hi'n ateb, “Maen nhw wedi croesi'r nant.” Aeth y dynion i chwilio amdanyn nhw, ond methu dod o hyd iddyn nhw. Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Jerwsalem.

21 Pan oedden nhw wedi mynd, dyma Achimaäts a Jonathan yn dringo allan o'r pydew a mynd i roi'r neges i'r Brenin Dafydd. Dyma nhw'n dweud wrtho am frysio i groesi'r afon, a beth oedd cyngor Achitoffel yn ei erbyn. 22 Felly dyma Dafydd a'i fyddin yn croesi afon Iorddonen. Roedden nhw i gyd wedi croesi cyn iddi wawrio y bore wedyn.

23 Pan welodd Achitoffel fod ei gyngor wedi'i wrthod, dyma fe'n cyfrwyo'i asyn a mynd adre. Ar ôl rhoi trefn ar ei bethau, dyma fe'n crogi ei hun; a chafodd ei gladdu ym medd y teulu.

24 Roedd Dafydd wedi hen gyrraedd Machanaîm erbyn i Absalom a byddin Israel i gyd groesi'r Iorddonen. 25 Roedd Absalom wedi penodi Amasa yn bennaeth y fyddin yn lle Joab. (Roedd Amasa yn fab i Ismaeliad Ref o'r enw Ithra ac Abigail, merch Nachash a chwaer Serwia, mam Joab.) Ref 26 Felly dyma Absalom a byddin Israel yn codi gwersyll yn ardal Gilead.

27 Wrth i Dafydd gyrraedd Machanaîm, dyma Shobi fab Nachash Ref o Rabba'r Ammoniaid, Machir fab AmmielCroes o Lo-defâr, a Barsilai o Gilead, o Rogelîm, 28 yn dod â gwlâu, powlenni, a llestri iddo. Dyma nhw hefyd yn dod â bwyd i Dafydd a'r milwyr oedd gydag e – gwenith, haidd, blawd, grawn wedi'i grasu, ffa, ffacbys, 29 mêl, caws colfran o laeth dafad a chaws o laeth buwch. Roedden nhw'n gwybod y byddai pawb eisiau bwyd ac wedi blino, ac yn sychedig ar ôl bod allan yn yr anialwch.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity