Yn ôl

2 Samuel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 SAMUEL 21

Pobl Gibeon yn dial ar ddisgynyddion Saul

1 Yn ystod cyfnod Dafydd fel brenin roedd yna newyn aeth ymlaen am dair blynedd lawn. Dyma Dafydd yn gofyn i'r ARGLWYDD pam. A dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Am fod Saul a'i deulu yn euog o lofruddio pobl Gibeon.” 2 (Doedd pobl Gibeon ddim yn Israeliaid. Nhw oedd yn weddill o'r Amoriaid, ac roedd yr Israeliaid wedi addo byw yn heddychlon â nhw. Ref Ond roedd Saul wedi ceisio cael gwared â nhw am ei fod mor frwd dros Israel a Jwda.) Felly dyma'r Brenin Dafydd yn galw pobl Gibeon ato iddo gael siarad â nhw. 3 Gofynnodd iddyn nhw, “Beth alla i wneud i chi? Sut alla i wneud iawn am hyn, fel eich bod chi'n bendithio pobl yr ARGLWYDD?” 4 A dyma nhw'n ateb, “Dydy arian byth yn mynd i wneud iawn am beth wnaeth Saul a'i deulu. Ac allwn ni ddim dial drwy ladd unrhyw un yn Israel.” “Felly, dwedwch beth ydych chi eisiau,” meddai Dafydd. 5 A dyma nhw'n ateb, “Saul oedd yr un oedd eisiau'n difa ni a chael gwared â ni'n llwyr o Israel. 6 Rho saith o'i ddisgynyddion e i ni. Gwnawn ni eu crogi o flaen yr ARGLWYDD yn Gibea, tref Saul, yr un gafodd ei ddewis gan yr ARGLWYDD.” A dyma'r Brenin Dafydd yn ateb, “Iawn, gwna i eu rhoi nhw i chi.” 7 Ond dyma'r brenin yn arbed bywyd Meffibosheth (mab Jonathan ac ŵyr Saul) am fod Dafydd a Jonathan wedi gwneud addewid i'w gilydd o flaen yr ARGLWYDD.Croes 8 Cymerodd y ddau fab gafodd Ritspa (merch Aia) i Saul, sef Armoni a Meffibosheth; hefyd pum mab Merab, Ref merch Saul, oedd yn wraig i Adriel fab Barsilai o Mechola. 9 Rhoddodd nhw yn nwylo pobl Gibeon, i'w crogi ar y mynydd o flaen yr ARGLWYDD. Cafodd y saith eu lladd gyda'i gilydd. Roedd hyn reit ar ddechrau'r cynhaeaf haidd. 10-11 Dyma Ritspa (partner Ref Saul a mam dau o'r rhai gafodd eu lladd) yn cymryd sachliain a'i daenu ar graig iddi ei hun. Arhosodd yno drwy gydol y cynhaeaf haidd, hyd nes i dymor y glaw ddod. Ref Wnaeth hi ddim gadael i adar ddisgyn at y cyrff yn ystod y dydd, nac anifeiliaid gwyllt yn y nos.

Clywodd Dafydd beth oedd Ritspa wedi'i wneud, 12 felly aeth i Jabesh yn Gilead a gofyn i'r awdurdodau yno am esgyrn Saul a Jonathan. (Pobl Jabesh oedd wedi dwyn cyrff y ddau o'r sgwâr yn Beth-shan, lle roedd y Philistiaid wedi'u crogi nhw ar ôl iddyn nhw gael eu lladd yn y frwydr yn Gilboa.)Croes 13 Dyma Dafydd yn cymryd esgyrn Saul a Jonathan o Jabesh. Wedyn dyma nhw'n casglu esgyrn y rhai oedd wedi cael eu crogi, 14 a'u claddu gydag esgyrn Saul a Jonathan ym medd Cish (tad Saul) yn Sela, yn ardal Benjamin.

Ar ôl iddyn nhw wneud popeth roedd y brenin wedi'i orchymyn, dyma'r ARGLWYDD yn ateb gweddïau pobl dros y wlad.

Brwydrau rhwng Israel a'r Philistiaid

(1 Cronicl 20:4-8)

15 Buodd yna ryfel arall rhwng y Philistiaid a'r Israeliaid, ac aeth Dafydd a'i filwyr i lawr i ymladd yn erbyn y Philistiaid. Roedd Dafydd wedi blino'n lân 16 ac roedd Ishbi-benob (un o ddisgynyddion y Reffaiaid) ar fin ei ladd. Roedd ei waywffon yn pwyso tri cilogram a hanner, ac roedd ganddo gleddyf newydd. 17 Ond dyma Abishai Ref (mab Serwia) yn dod i helpu Dafydd a tharo'r Philistiad a'i ladd. Ar ôl y digwyddiad hwnnw dyma filwyr Dafydd yn tyngu iddo, “Gei di ddim dod allan i frwydro gyda ni eto! Does gynnon ni ddim eisiau i lamp Israel gael ei diffodd!”

18 Beth amser wedyn roedd brwydr arall yn erbyn y Philistiaid, yn Gob. Y tro hwnnw dyma Sibechai o Chwsha yn lladd Saff, un arall o ddisgynyddion y Reffaiaid. 19 Yna mewn brwydr arall eto yn erbyn y Philistiaid yn Gob, dyma Elchanan fab Jair o Fethlehem yn lladd brawd Ref Goliath o Gath (yr un oedd â gwaywffon gyda choes iddi oedd fel trawst ffrâm gwehydd!)Croes 20 Yna roedd brwydr arall eto yn Gath. Y tro yma roedd cawr o ddyn gyda chwe bys ar bob llaw ac ar ei ddwy droed – dau ddeg pedwar o fysedd i gyd. (Roedd hwn hefyd yn un o ddisgynyddion y Reffaiaid.) 21 Roedd yn gwneud hwyl am ben byddin Israel, a dyma Jonathan, mab Shamma Ref brawd Dafydd, yn ei ladd e. 22 Roedd y pedwar yma gafodd eu lladd yn ddisgynyddion i'r Reffaiaid o Gath, a Dafydd a'i filwyr wnaeth ladd pob un ohonyn nhw.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity