Yn ôl

2 Samuel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 SAMUEL 23

Geiriau olaf Dafydd

1 Dyma eiriau olaf Dafydd:

“Neges Dafydd fab Jesse.

Neges yr un gafodd ei godi'n arweinydd,

a'i eneinio gan Dduw Jacob.

Neges hoff ganwr Israel.

2 Roedd Ysbryd yr ARGLWYDD yn siarad trwof fi;

ei neges e oeddwn i'n ei rhannu.

3 Mae Duw Israel wedi siarad,

a dyma mae Craig Israel yn ei ddweud:

‘Mae'r un sy'n llywodraethu'n deg,

gan roi parch i Dduw,

4 fel golau haul ar fore braf digwmwl

yn gwneud i'r glaswellt dyfu o'r ddaear

a sgleinio ar ôl y glaw.’

5 Ie, dyna sut mae Duw'n gweld fy nheulu!

Mae wedi gwneud ymrwymiad am byth i mi.

Mae'r cwbl wedi'i drefnu – mae'n siŵr o ddigwydd!

Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i mi lwyddo

ac yn dod â'r cwbl dw i eisiau yn wir.

6 Ond mae dynion drwg fel drain

sy'n dda i ddim ond i'w torri i lawr.

Does neb yn gafael ynddyn nhw â'u dwylo,

7 dim ond gydag arf haearn neu goes gwaywffon.

Mae tân yn eu llosgi'n ulw yn y fan a'r lle!”

Milwyr dewr Dafydd

(1 Cronicl 11:10-41)

8 Dyma enwau milwyr dewr Dafydd:
  • Iashofam Ref yr Hachmoniad oedd pennaeth ‛Y Tri‛. Roedd e wedi lladd wyth gant o ddynion gyda'i waywffon mewn un frwydr.
  • 9 Yna'r nesa ato fe o'r ‛Tri Dewr‛ oedd Eleasar fab Dodo o deulu Achoach. Roedd e gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan wnaethon nhw gasglu i ryfel yn Pas-dammîm. Roedd gweddill byddin Israel wedi ffoi,
10 ond dyma fe'n sefyll ei dir ac ymladd yn erbyn y Philistiaid. Roedd ei law wedi blino gymaint, ond wnaeth e ddim gollwng ei gleddyf. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo y diwrnod hwnnw. Yna daeth y fyddin yn ôl, ond dim ond i ddwyn pethau oddi ar y cyrff!
  • 11 Y nesaf wedyn oedd Samma fab Age o deulu Harar. Un tro roedd byddin y Philistiaid wedi casglu yn Lechi lle roedd cae o ffacbys. Dyma fyddin Israel yn ffoi o flaen y Philistiaid,
12 ond roedd Samma wedi sefyll ei dir yng nghanol y cae, i'w amddiffyn. Roedd wedi ymosod ar y Philistiaid, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo.

13 Un tro, adeg y cynhaeaf, aeth tri o'r ‛Tri deg‛ i lawr at Dafydd i Ogof Adwlam. Ref Roedd mintai o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn Reffaïm. Ref 14 Roedd Dafydd yn y gaer ar y pryd, tra oedd prif wersyll garsiwn y Philistiaid yn Bethlehem. 15 Un diwrnod roedd syched ar Dafydd, a dyma fe'n dweud, “Mor braf fyddai cael diod o ddŵr o'r ffynnon sydd wrth giât Bethlehem!” 16 Felly dyma'r ‛Tri Dewr‛ yn mynd drwy ganol gwersyll y Philistiaid a chodi dŵr o'r ffynnon wrth giât Bethlehem. Dyma nhw'n dod â'r dŵr i Dafydd, ond gwrthododd ei yfed. A dyma fe'n ei dywallt ar lawr yn offrwm i'r ARGLWYDD, 17 a dweud, “ ARGLWYDD, allwn i byth wneud y fath beth! Byddai fel yfed gwaed y dynion wnaeth fentro'u bywydau i'w nôl.” Roedd yn gwrthod ei yfed. (Dyna un enghraifft o beth wnaeth y ‛Tri Dewr‛.)
  • 18 Abishai, brawd Joab a mab Serwia, oedd pennaeth y ‛Tri deg‛. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon un tro. Roedd e'n enwog fel y Tri.
19 A dweud y gwir, roedd yn fwy enwog na nhw, a fe oedd eu capten nhw. Ond doedd e ddim yn un o'r ‛Tri‛.
  • 20 Roedd Benaia fab Jehoiada o Cabseël Ref yn ddyn dewr hefyd. Roedd e wedi gwneud llawer o bethau dewr. Roedd wedi lladd dau o arwyr Moab. Roedd wedi mynd i lawr a lladd llew oedd wedi syrthio i bydew ar ddiwrnod o eira.
21 Roedd hefyd wedi lladd cawr o ddyn o'r Aifft. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma fe'n ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, a'i ladd gyda hi. 22 Pethau fel yna wnaeth Benaia fab Jehoiada yn enwog fel y ‛Tri Dewr‛. 23 Roedd y Tri deg arwr yn meddwl yn uchel ohono, er nad oedd yn un o'r ‛Tri‛. A dyma Dafydd yn ei wneud yn bennaeth ar ei warchodwyr personol.

24 Yna gweddill y ‛Tri deg‛ oedd:
  • Asahel, brawd Joab,
  • Elchanan fab Dodo o Bethlehem,
  • 25 Shamma o Charod,
  • Elicâ o Charod,
  • 26 Chelets o Pelet,
  • Ira fab Iccesh o Tecoa,
  • 27 Abieser o Anathoth,
  • Mefwnnai o Chwsha,
  • 28 Salmon o deulu Achoach,
  • Maharai o Netoffa,
  • 29 Cheleb fab Baana o Netoffa,
  • Itai fab Ribai o Gibea yn Benjamin,
  • 30 Benaia o Pirathon,
  • Hidai o Wadi Gaash,
  • 31 Abi-albon o Arba,
  • Asmafeth o Bachwrîm,
  • 32 Eliachba o Shaalbon,
  • Meibion Iashen,
  • Jonathan fab
33 Shamma o Harar,
  • Achîam fab Sharar o Harar,
  • 34 Eliffelet fab Achasbai o Maacha,
  • Eliam fab Achitoffel o Gilo,
  • 35 Chetsrai o Carmel, Ref
  • Paarai o Arba,
  • 36 Igal fab Nathan o Soba,
  • Bani o Gad,
  • 37 Selec o Ammon,
  • Nachrai o Beëroth (oedd yn cario arfau Joab, mab Serwia),
  • 38 Ira yr Ithriad,
  • Gareb yr Ithriad,
  • 39 ac Wreia yr Hethiad.
(Tri deg saith i gyd.)

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity