Yn ôl

2 Samuel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 SAMUEL 24

Dafydd yn pechu drwy gynnal cyfrifiad

(1 Cronicl 21:1-27)

1 Dro arall roedd yr ARGLWYDD wedi digio'n lân gydag Israel. Dyma fe'n gwneud i Dafydd achosi trwbwl iddyn nhw drwy orchymyn cyfrifiad o Israel a Jwda. 2 Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Joab, pennaeth ei fyddin, “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o holl lwythau Israel, o Dan yn y gogledd i Beersheba Ref yn y de, i mi gael gwybod faint o bobl sydd gen i.” 3 Ond dyma Joab yn ateb y brenin, “O na fyddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn gadael i ti fyw i weld byddin ganwaith fwy nag sydd gen ti! Ond syr, pam fyddet ti eisiau gwneud y fath beth?” 4 Ond roedd y brenin yn benderfynol, er gwaetha gwrthwynebiad Joab a chapteiniaid y fyddin. Felly dyma nhw'n mynd ati i gyfri pobl Israel, fel roedd y brenin wedi dweud.

5 Dyma nhw'n croesi afon Iorddonen, ac yn dechrau yn Aroer, i'r de o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn. Yna dyma nhw'n mynd i'r sychnant ar diriogaeth Gad, ac i dref Iaser. 6 Ymlaen wedyn i ardal Gilead, a tref Cadesh ar dir yr Hethiaid, yna Dan ac Îon, a rownd i Sidon. 7 Yna i lawr i dref gaerog Tyrus a holl drefi'r Hefiaid a'r Canaaneaid, ac ymlaen i gyfeiriad y de nes cyrraedd yr holl ffordd i Beersheba yn anialwch Jwda. 8 Cymerodd naw mis a thair wythnos cyn iddyn nhw gyrraedd yn ôl yn Jerwsalem, ar ôl teithio drwy'r wlad i gyd. 9 Yna dyma Joab yn rhoi canlyniadau'r cyfrifiad i'r brenin. Roedd yna 800,000 o ddynion dewr Israel allai ymladd yn y fyddin, a 500,000 yn Jwda.

10 Ond wedi iddo gyfri'r bobl, roedd cydwybod Dafydd yn ei boeni. A dyma fe'n dweud wrth yr ARGLWYDD, “Dw i wedi pechu'n ofnadwy drwy wneud hyn. Plîs wnei di faddau i mi ARGLWYDD? Dw i wedi gwneud peth gwirion.”

11 Erbyn i Dafydd godi'r bore wedyn roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Gad, proffwyd y llys: 12 “Dos i ddweud wrth Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n rhoi tri dewis i ti. Dewis pa un wyt ti am i mi ei wneud.’” 13 Felly dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud, “Pa un wnei di ddewis? Tair blynedd o newyn yn y wlad? Neu dri mis o ffoi o flaen dy elynion? Neu dri diwrnod o bla drwy'r wlad? Meddwl yn ofalus cyn dweud wrtho i pa ateb dw i i'w roi i'r un sydd wedi f'anfon i.” 14 Meddai Dafydd wrth Gad, “Mae'n ddewis caled! Ond mae'r ARGLWYDD mor drugarog! Byddai'n well gen i gael fy nghosbi ganddo fe na gan ddynion.”

15 Felly'r bore hwnnw dyma'r ARGLWYDD yn anfon haint ar wlad Israel wnaeth bara am dri diwrnod, a buodd saith deg mil o bobl o bob rhan o'r wlad farw. 16 Ond wrth i'r angel bwyntio ei fys at Jerwsalem i'w difa, dyma'r ARGLWYDD yn teimlo'n sori am y niwed oedd yn cael ei wneud. A dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r angel oedd wrthi'n difa'r bobl, “Dyna ddigon! Stopia nawr!” (Ar y pryd roedd yr angel yn sefyll wrth ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.)

17 Pan welodd Dafydd yr angel yn taro'r bobl, dyma fe'n dweud, “ ARGLWYDD, fi sydd wedi pechu a gwneud y drwg! Wnaeth y bobl ddiniwed Ref yma ddim byd o'i le. Cosba fi a'm teulu!”

Dafydd yn codi allor i'r ARGLWYDD

18 Y diwrnod hwnnw dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud wrtho, “Dos, a chodi allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.” 19 Felly dyma Dafydd yn mynd a gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddweud wrth Gad. 20 Pan welodd Arafna y brenin a'i weision yn dod ato, dyma fe'n ymgrymu o'i flaen â'i wyneb ar lawr. 21 “Pam mae fy meistr, y brenin, wedi dod yma ata i?” meddai. A dyma Dafydd yn ateb, “I brynu dy lawr dyrnu di. Dw i eisiau codi allor i'r ARGLWYDD i stopio'r pla yma ladd y bobl.” 22 Dyma Arafna'n ateb, “Syr, cymer beth bynnag wyt ti eisiau. Cymer yr ychen i'w llosgi'n aberth, a defnyddia'r sled dyrnu a iau'r ychen yn goed tân. 23 Dw i am roi'r cwbl i'm meistr, y brenin. Gobeithio bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn derbyn beth wyt ti'n wneud.” 24 Ond dyma'r brenin yn ei ateb, “Na, mae'n rhaid i mi dalu'r pris llawn i ti. Dw i ddim yn mynd i gyflwyno aberthau i'w llosgi i'r ARGLWYDD sydd wedi costio dim byd i mi.”

Felly dyma Dafydd yn prynu'r llawr dyrnu a'r ychen am bum deg darn arian. 25 Wedyn adeiladodd allor i'r ARGLWYDD yno, a chyflwyno arni aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. A dyma'r ARGLWYDD yn ateb ei weddi a stopio'r pla oedd yn mynd drwy'r wlad.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity