Yn ôl

2 Samuel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

2 SAMUEL 9

Dafydd a Meffibosheth, mab Jonathan

1 Dyma Dafydd yn gofyn, “Oes yna unrhyw un yn dal ar ôl o deulu Saul, i mi fod yn garedig ato fel gwnes i addo i Jonathan?”Croes 2 A dyma ddyn o'r enw Siba oedd wedi bod yn was i Saul yn cael ei alw at Dafydd. Gofynnodd y brenin iddo, “Ti ydy Siba?” Atebodd, “Ie, syr, fi ydy dy was.” 3 Dyma'r brenin yn ei holi, “Oes yna unrhyw un o deulu Saul yn dal yn fyw, i mi fod yn garedig ato fel gwnes i addo o flaen Duw?” Atebodd Siba, “Oes. Mae yna fab i Jonathan sy'n dal yn fyw. Mae e'n anabl. Mae e'n gloff yn ei ddwy droed.” 4 “Ble mae e?” meddai'r brenin. A dyma Siba'n dweud, “Mae e yn Lo-defâr, yn aros gyda Machir fab Ammiel.” 5 Felly dyma'r Brenin Dafydd yn anfon i'w nôl o dŷ Machir.

6 Pan ddaeth Meffibosheth (mab Jonathan ac ŵyr Saul) at y Brenin Dafydd, dyma fe'n mynd ar ei liniau ac ymgrymu o'i flaen â'i wyneb ar lawr. “Meffibosheth?” meddai Dafydd. Ac atebodd, “Ie, syr, dy was di.” 7 “Paid bod ag ofn,” meddai Dafydd wrtho, “Dw i'n mynd i fod yn garedig atat ti, fel gwnes i addo i dy dad Jonathan. Dw i am roi tir dy daid Saul yn ôl i ti, a byddi'n cael bwyta wrth fy mwrdd i yn rheolaidd.” 8 Dyma Meffibosheth yn ymgrymu eto a dweud, “Pwy ydw i? Pam ddylet ti gymryd sylw o gi marw fel fi?”

9 Yna dyma'r brenin yn galw am Siba, gwas Saul. Ac meddai wrtho, “Dw i wedi rhoi popeth oedd piau Saul a'i deulu i ŵyr dy feistr. 10 Dw i eisiau i ti a dy feibion, a dy weision i gyd, ofalu am y tir iddo. Bydd cynnyrch y tir yn fwyd i deulu dy feistr. Ond bydd Meffibosheth yn bwyta wrth fy mwrdd i yn rheolaidd.” (Roedd gan Siba un deg pump o feibion a dau ddeg o weision.) 11 Dyma Siba yn ateb, “Bydd dy was yn gwneud popeth mae fy meistr, y brenin, wedi'i orchymyn.”

Felly cafodd Meffibosheth fwyta'n rheolaidd wrth fwrdd y brenin, fel petai'n un o feibion y brenin ei hun. 12 Roedd gan Meffibosheth fab bach o'r enw Micha. Roedd teulu Siba i gyd, a'i weision, yn gweithio i Meffibosheth. 13 Ond roedd Meffibosheth ei hun yn byw yn Jerwsalem, ac yn cael bwyta'n rheolaidd wrth fwrdd y brenin. Roedd e'n anabl – yn gloff yn ei ddwy droed.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity