Yn ôl

Actau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ACTAU 19

Paul yn Effesus

1 Tra oedd Apolos yn Corinth teithiodd Paul ar draws gwlad a chyrraedd Effesus. Yno daeth o hyd i grŵp o gredinwyr, 2 a gofynnodd iddyn nhw, “Wnaethoch chi dderbyn yr Ysbryd Glân pan ddaethoch chi i gredu?”

“Na,” medden nhw, “dŷn ni ddim hyd yn oed wedi clywed fod yna'r fath beth ag Ysbryd Glân!”

3 “Felly pa fedydd gawsoch chi?” meddai Paul.

“Bedydd Ioan,” medden nhw.

4 Atebodd Paul, “Bedydd i ddangos eich bod am droi cefn ar bechod oedd bedydd Ioan. Dwedodd Ioan wrth y bobl hefyd am gredu yn yr un oedd i ddod ar ei ôl, sef yn Iesu.” 5 Felly ar ôl clywed hyn dyma nhw'n cael eu bedyddio i ddangos eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd Iesu. 6 Wedyn dyma Paul yn rhoi ei ddwylo arnyn nhw, a daeth yr Ysbryd Glân arnyn nhw, a dyma nhw'n dechrau siarad ieithoedd eraill a phroffwydo. 7 (Roedd yno ryw ddwsin o ddynion i gyd.)

8 Am dri mis aeth Paul i'r synagog, a siarad yn gwbl agored yno, a cheisio perswadio'r bobl am deyrnasiad Duw. 9 Ond dyma rhai ohonyn nhw'n troi'n ystyfnig – yn lle credu roedden nhw'n dechrau siarad yn erbyn Ffordd yr Arglwydd Iesu o flaen pawb. Felly dyma Paul yn eu gadael nhw, a mynd â'r credinwyr eraill gydag e. Roedden nhw'n cyfarfod yn narlithfa Tyranus i wrando ar Paul yn dysgu. 10 Aeth hyn ymlaen am ddwy flynedd, nes bod pawb yn nhalaith Asia wedi clywed neges yr Arglwydd, yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill.

11 Roedd Duw yn gwneud gwyrthiau anhygoel drwy Paul. 12 Roedd cleifion yn cael eu hiacháu ac ysbrydion drwg yn mynd allan ohonyn nhw pan oedd cadachau a ffedogau oedd wedi'i gyffwrdd yn cael eu cymryd atyn nhw.

13 Roedd grŵp o Iddewon hefyd yn mynd o gwmpas yn bwrw ysbrydion drwg allan o bobl, a dyma nhw'n ceisio defnyddio enw'r Arglwydd Iesu i ddelio gyda phobl oedd yng ngafael cythreuliaid. “Yn enw'r Iesu mae Paul yn pregethu amdano, dw i'n gorchymyn i ti ddod allan!” medden nhw. 14 (Meibion Scefa, archoffeiriad Iddewig, oedden nhw – ac roedd saith ohonyn nhw.) 15 Dyma'r ysbryd drwg yn ateb, “Dw i'n nabod Iesu, ac yn gwybod am Paul, ond pwy dych chi?” 16 A dyma'r dyn oedd a'r ysbryd drwg ynddo yn ymosod arnyn nhw a rhoi'r fath gweir iddyn nhw i gyd nes iddyn nhw redeg allan o'r tŷ yn noeth ac yn gwaedu.

17 Clywodd pawb yn Effesus beth oedd wedi digwydd – yr Iddewon a phawb arall. Daeth ofn drostyn nhw i gyd, ac roedd enw'r Arglwydd Iesu yn cael ei barchu fwy fyth. 18 Dyma lawer o'r bobl wnaeth gredu yn cyfaddef yn agored y pethau drwg roedden nhw wedi'u gwneud. 19 Roedd nifer ohonyn nhw wedi bod yn medlan gyda dewiniaeth, a dyma nhw'n dod â'r llyfrau oedd ganddyn nhw ar y pwnc ac yn eu llosgi'n gyhoeddus. Roedd y llyfrau gafodd eu llosgi yn werth ffortiwn – dros 50,000 drachma Ref yn ôl un amcangyfrif. 20 Fel hyn roedd neges yr Arglwydd Iesu yn mynd ar led ac yn mynd yn fwy a mwy dylanwadol.

21 Ar ôl hyn i gyd, dyma Paul yn penderfynu fod rhaid iddo fynd i Jerwsalem, a galw heibio Macedonia ac Achaia ar ei ffordd. “Wedyn ar ôl bod yn Jerwsalem,” meddai, “mae'n rhaid i mi ymweld â Rhufain.” 22 Ond arhosodd yn Asia am ychydig mwy, ac anfon Timotheus ac Erastus o'i flaen i Macedonia.

Y reiat yn Effesus

23 Tua'r adeg yna buodd yna dwrw mawr yn Effesus ynglŷn â Ffordd yr Arglwydd. 24 Roedd gof arian o'r enw Demetrius yn rhedeg busnes gwneud modelau bach o deml y dduwies Artemis, ac yn cyflogi nifer o weithwyr. 25 Daeth â'r gweithwyr i gyd at ei gilydd, a gwahodd pobl eraill oedd â busnesau tebyg. Dwedodd wrthyn nhw, “Ffrindiau, y busnes yma ydy'n bywoliaeth ni – mae'n gwneud arian da i ni. 26 Ond, fel dych chi'n gwybod, mae'r dyn Paul yma wedi llwyddo i berswadio lot fawr o bobl bod y delwau dŷn ni'n eu gwneud ddim yn dduwiau o gwbl mewn gwirionedd. Mae wedi gwneud hyn, dim yn unig yma yn Effesus, ond bron drwy dalaith Asia i gyd. 27 Mae peryg nid yn unig i'n busnes ni fynd i'r wal, ond hefyd i deml Artemis golli ei dylanwad, ac i'r dduwies fawr ei hun, sy'n cael ei haddoli ar hyd a lled Asia, golli ei statws!”

28 Wrth glywed beth oedd gan Demetrius i'w ddweud, dyma'r dyrfa'n cynhyrfu'n lân a dechrau gweiddi: “Artemis yr Effesiaid am byth!” 29 Cyn bo hir roedd y ddinas i gyd yn ferw gwyllt. Dyma nhw'n dal Gaius ac Aristarchus (dau o Macedonia oedd wedi bod yn teithio gyda Paul), a'u llusgo nhw i'r amffitheatr enfawr oedd yno. 30 Roedd Paul eisiau mynd i mewn i wynebu'r dyrfa, ond wnaeth y disgyblion ddim gadael iddo. 31 A dyma hyd yn oed rai o swyddogion y dalaith, roedd Paul yn ffrindiau â nhw, yn anfon neges ato i bwyso arno i beidio mentro i mewn.

32 Roedd y dyrfa yno mewn anhrefn llwyr. Roedd rhai ohonyn nhw'n gweiddi un peth a rhai eraill yn gweiddi rhywbeth arall. Doedd gan y rhan fwyaf o'r bobl oedd yno ddim syniad beth oedd yn mynd ymlaen! 33 Dyma rai o'r arweinwyr Iddewig yn gwthio dyn o'r enw Alecsander i'r blaen i esbonio fod gan y cwbl ddim byd i'w wneud â'r Iddewon. Cododd yntau ei law i geisio tawelu'r dyrfa, er mwyn iddo amddiffyn enw da'r Iddewon. 34 Ond pan ddeallodd y dyrfa ei fod yn Iddew, dyma nhw'n dechrau gweiddi gyda'i gilydd eto, “Artemis yr Effesiaid am byth!” Aeth y siantio ymlaen yn ddi-stop am tua dwy awr.

35 Clerc y ddinas lwyddodd i dawelu'r dyrfa yn y diwedd, ac meddai: “Bobl Effesus. Mae pawb drwy'r byd i gyd yn gwybod mai yn ein dinas ni mae teml y dduwies fawr Artemis, ac mai ni sy'n gwarchod y ddelw ohoni ddaeth i lawr o'r nefoedd. 36 Does neb yn gallu gwadu hynny, felly mae'n bryd i chi dawelu, a pheidio gwneud dim byd byrbwyll. 37 Dydy'r dynion ddaethoch chi â nhw yma ddim yn euog o ddwyn unrhyw beth o'r deml nac o gablu ein duwies ni. 38 Felly, os oes gan Demetrius a'i ffrindiau gŵyn yn erbyn rhywun, mae llysoedd i ddelio gyda'r mater, a barnwyr. Dyna'r lle i ddwyn cyhuddiad yn erbyn rhywun. 39 Ac os oes unrhyw beth pellach, caiff ei setlo mewn cyfarfod cyhoeddus swyddogol. 40 Mae peryg i ni gael ein cyhuddo o ddechrau reiat o achos beth sydd wedi digwydd yma heddiw. A phetai hynny'n digwydd, beth fydden ni'n ei ddweud wrth yr awdurdodau? – Does dim esgus am y peth.” 41 Ar ôl dweud hyn anfonodd bawb adre.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity