Yn ôl

Actau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ACTAU 6

Dewis y saith

1 Ond wrth i nifer y bobl oedd yn credu dyfu, cododd problemau. Roedd y rhai oedd o gefndir Groegaidd yn cwyno am y rhai oedd yn dod o gefndir Hebreig. Roedden nhw'n teimlo fod eu gweddwon nhw yn cael eu hesgeuluso gan y rhai oedd yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd bob dydd. 2 Felly dyma'r Deuddeg yn galw'r credinwyr i gyd at ei gilydd. “Cyhoeddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw ydy'n gwaith ni, dim trefnu'r ffordd mae bwyd yn cael ei ddosbarthu” medden nhw. 3 “Felly frodyr a chwiorydd, dewiswch saith dyn o'ch plith – dynion mae pawb yn eu parchu ac yn gwybod eu bod yn llawn o'r Ysbryd Glân – dynion sy'n gallu gwneud y gwaith. Dŷn ni'n mynd i roi'r cyfrifoldeb yma iddyn nhw. 4 Wedyn byddwn ni'n gallu rhoi'n sylw i gyd i weddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw.”

5 Roedd y syniad yma'n plesio pawb, a dyma nhw'n dewis y rhain: Steffan (dyn oedd yn credu'n gryf ac yn llawn o'r Ysbryd Glân), a Philip, Procorws, Nicanor, Timon, Parmenas, a Nicolas o Antiochia (oedd ddim yn Iddew, ond wedi troi at y grefydd Iddewig, a bellach yn dilyn y Meseia). 6 Dyma nhw'n eu cyflwyno i'r apostolion, ac ar ôl gweddïo dyma'r apostolion yn eu comisiynu nhw ar gyfer y gwaith drwy roi eu dwylo arnyn nhw.

7 Roedd neges Duw yn mynd ar led, a nifer y disgyblion yn Jerwsalem yn tyfu'n gyflym. Roedd nifer fawr o'r offeiriaid Iddewig yn dilyn y Meseia hefyd.

Steffan yn cael ei arestio

8 Roedd Steffan yn ddyn oedd â ffafr Duw arno a nerth Duw ar waith yn ei fywyd. Roedd yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol ymhlith y bobl, oedd yn dangos fod Duw gydag e. 9 Ond dyma rhai o aelodau'r synagog oedd yn cael ei galw'n ‛Synagog y Dynion Rhydd‛ yn codi yn ei erbyn. Iddewon o Cyrene ac Alecsandria oedden nhw, yn ogystal â rhai o Cilicia ac o dalaith Asia. Dyma nhw'n dechrau dadlau gyda Steffan, 10 ond doedden nhw ddim yn gallu ateb ei ddadleuon. Roedd e mor ddoeth, ac roedd yr Ysbryd Glân yn amlwg yn siarad drwyddo.

11 Felly dyma nhw'n defnyddio tacteg wahanol, ac yn perswadio rhyw ddynion i ddweud celwydd amdano: “Dŷn ni wedi clywed Steffan yn dweud pethau cableddus am Moses ac am Dduw.” 12 Wrth gwrs achosodd hyn stŵr ymhlith y bobl a'r henuriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith. Dyma nhw'n arestio Steffan ac roedd rhaid iddo ymddangos o flaen y Sanhedrin. 13 Dyma rai yn dweud celwydd wrth roi tystiolaeth ar lw: “Mae'r dyn yma o hyd ac o hyd yn dweud pethau yn erbyn y deml ac yn erbyn Cyfraith Moses. 14 Dŷn ni wedi'i glywed yn dweud y bydd yr Iesu yna o Nasareth yn dinistrio'r deml yma ac yn newid y traddodiadau wnaeth Moses eu rhoi i ni.”

15 Dyma pob un o aelodau'r Sanhedrin yn troi i syllu ar Steffan. Roedd ei wyneb yn disgleirio fel wyneb angel.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity