Yn ôl

Amos

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Pennod 3

1 Bobl Israel, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD yn eich erbyn chi. Chi, y bobl ddois i â nhw allan o wlad yr Aifft.

2 “O blith holl bobloedd y ddaear,

chi ydy'r rhai wnes i ddewis —

a dyna pam mae'n rhaid i mi eich galw chi i gyfrif

am yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.”

Gwaith y Proffwyd

3 Ydy dau berson yn gallu teithio gyda'i gilydd

heb fod wedi trefnu i gyfarfod?

4 Ydy llew yn rhuo yn y goedwig

pan does ganddo ddim ysglyfaeth?

Ydy llew ifanc yn grwnian yn fodlon yn ei ffau

oni bai ei fod wedi dal rhywbeth?

5 Ydy aderyn yn cael ei ddal mewn rhwyd

os nad oes abwyd yn y trap?

Ydy trap ar lawr yn cau yn sydyn

heb fod rhywbeth wedi ei ddal ynddo?

6 Onid ydy pobl yn dychryn

wrth glywed yr utgorn rhyfel yn seinio yn y dre?

Ydy dinistr yn gallu dod ar ddinas

heb i'r ARGLWYDD adael i'r peth ddigwydd?

7 Dydy fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn gwneud dim byd

heb ddangos ei gynllun i'w weision y proffwydi.

8 Pan mae'r llew yn rhuo,

pwy sydd ddim yn ofni?

Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, wedi siarad,

felly pwy sy'n mynd i wrthod proffwydo?

9 Cyhoedda hyn i'r rhai sy'n byw yn y plastai yn Ashdod Ref

ac yn y plastai yng ngwlad yr Aifft!

Dywed: “Dewch at eich gilydd i ben bryniau Samaria

i weld yr anhrefn llwyr sydd yn y ddinas,

a'r gormes sy'n digwydd yno.

10 Allan nhw ddim gwneud beth sy'n iawn!”

— yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

“Yn eu plastai maen nhw'n storio trysorau

sydd wedi eu dwyn trwy drais.”

11 Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:

“Bydd gelyn yn amgylchynu'r wlad!

Bydd yn rhwygo popeth oddi arni

ac yn ei gadael yn noeth.

Bydd ei chaerau amddiffynnol yn cael eu hysbeilio'n llwyr!”

12 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:

“Fel bugail yn ‘achub’ unrhyw beth o safn y llew

— dwy goes, neu ddarn o'r glust —

dyna'r math o ‘achub’ fydd ar bobl Israel sy'n byw yn Samaria.

Dim ond coes y gwely neu gornel y fatras fydd ar ôl!

13 Gwrando ar hyn, a rhybuddia bobl Jacob”

— fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus —

14 “Pan fydda i'n cosbi Israel am wrthryfela,

bydda i'n dinistrio'r allor sydd yn Bethel.

Bydd y cyrn ar gorneli'r allor

yn cael eu torri ac yn disgyn ar lawr.Croes

15 Bydda i'n dymchwel eu tai, a'u tai haf nhw hefyd.

Bydd y tai oedd wedi eu haddurno ag ifori yn adfeilion.

Bydd y plastai yn cael eu chwalu'n llwyr!”

— yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity