Yn ôl

Amos

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Pennod 5

Galw pobl i newid eu ffyrdd

1 Gwrandwch arna i'n galaru! Dw i'n canu cân angladdol i gofio amdanat ti, wlad Israel:

2 “Mae Israel fel merch ifanc wedi ei tharo i lawr,

mae hi'n gorwedd ar bridd ei gwlad

a does neb i'w chodi ar ei thraed.”

3 Achos dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud am wlad Israel:

“Dim ond cant fydd ar ôl yn y dre

anfonodd fil allan i'r fyddin,

a dim ond deg fydd ar ôl yn y dre

anfonodd gant i'r fyddin.”

4 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthot ti, wlad Israel:

“Tro yn ôl ata i, a chei fyw!

5 Paid troi i gyfeiriad y cysegr yn Bethel,

na mynd i ymweld â chysegr Gilgal,

na chroesi'r ffin a mynd i lawr i Beerseba.

Bydd pobl Gilgal yn cael eu caethgludo,

a fydd Bethel ddim mwy na rhith!”

6 Tro yn ôl at yr ARGLWYDD, a chei fyw!

Os na wnei di bydd e'n rhuthro drwy wlad Joseff fel tân

ac yn llosgi Bethel yn ulw;

a fydd neb yn gallu diffodd y tân.

7 Druan ohonoch chi, sy'n troi cyfiawnder yn beth chwerw,

ac yn gwrthod gwneud beth sy'n iawn yn y tir!

8 Duw ydy'r un wnaeth y sêrCroes —

Pleiades ac Orïon.

Fe sy'n troi'r tywyllwch yn fore,

ac yn troi'r dydd yn nos dywyll.

Mae e'n cymryd dŵr o'r môr

ac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir

— yr ARGLWYDD ydy ei enw e!

9 Mae'n bwrw dinistr ar y mannau mwyaf diogel,

nes bod caerau amddiffynnol yn troi'n adfeilion!

10 Dych chi'n casáu'r un sy'n herio anghyfiawnder yn y llys;

ac yn ffieiddio unrhyw un sy'n dweud y gwir.

11 Felly, am i chi drethu pobl dlawd yn drwm

a dwyn yr ŷd oddi arnyn nhw:

Er eich bod chi wedi adeiladu'ch tai crand o gerrig nadd,

gewch chi ddim byw ynddyn nhw.

Er eich bod chi wedi plannu gwinllannoedd hyfryd,

gewch chi byth yfed y gwin ohonyn nhw.

12 Dych chi wedi troseddu yn fy erbyn i mor aml,

ac wedi pechu'n ddiddiwedd

drwy gam-drin pobl onest,

a derbyn breib i wrthod cyfiawnder

i bobl dlawd pan maen nhw yn y llys!

13 Byddai unrhyw un call yn cadw'n dawel,

achos mae'n amser drwg.

14 Ewch ati i wneud da eto yn lle gwneud drwg,

a chewch fyw!

Wedyn bydd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus,

gyda chi go iawn

(fel dych chi'n meddwl ei fod e nawr!)

15 Casewch ddrwg a charu'r da, a gwneud yn siŵr fod tegwch yn y llysoedd. Wedyn, efallai y bydd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, yn garedig at y llond dwrn o bobl sydd ar ôl yng ngwlad Joseff.

16 Ond o achos yr holl bethau drwg dych chi'n eu gwneud, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud — fy meistr i, y Duw holl-bwerus:

“Bydd wylo uchel ym mhob sgwâr,

a sŵn pobl yn gweiddi ar bob stryd ‘O, na! na!’

Bydd y rhai tlawd sy'n gweithio ar y tir yn cael eu galw i alaru,

a bydd y galarwyr proffesiynol yno yn nadu'n uchel.

17 Bydd pobl yn wylo'n uchel,

hyd yn oed yn y gwinllannoedd,

achos dw i'n dod i'ch cosbi chi.”

— yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

18 Druan ohonoch chi! Chi sy'n edrych ymlaen

i'r diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn dod!

Sut allwch chi edrych ymlaen at y diwrnod hwnnw?

Diwrnod tywyll fydd e, heb ddim golau o gwbl!

19 Bydd fel petai rhywun yn dianc oddi wrth lew

ac yn sydyn mae arth yn dod i'w gyfarfod.

Mae'n llwyddo i gyrraedd y tŷ'n ddiogel,

ond yna'n pwyso yn erbyn y wal ac yn cael ei frathu gan neidr!

20 Felly bydd hi ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn dod —

diwrnod tywyll fydd e, dim un golau!

Ie, tywyllwch dudew heb lygedyn o olau!

21 “Dw i'n casáu eich gwyliau crefyddol chi,

ac yn eu diystyru nhw.

Dydy'ch addoliad chi'n rhoi dim pleser i mi.Croes

22 Er i chi ddod i gyflwyno aberthau i'w llosgi i mi,

ac offrymau bwyd, wna i ddim eu derbyn nhw.

Gallwch ddod ac offrymu eich anifeiliaid gorau i mi,

ond fydda i'n cymryd dim sylw o gwbl!

23 Plîs stopiwch ddod yma i forio canu eich emynau,

does gen i ddim eisiau clywed sŵn eich offerynnau cerdd chi.

24 Beth dw i eisiau ydy gweld cyfiawnder fel dŵr yn gorlifo,

a thegwch fel ffrwd gref sydd byth yn sychu.

25 “Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, bobl Israel?

26 “A nawr mae'n well gynnoch chi gario eich ‘brenin’ Saccwth, a'ch delw o Caiwan — sef duwiau'r sêr dych chi wedi eu llunio i chi'ch hunain! 27 Felly, bydda i'n eich gyrru chi'n gaethion i wlad sydd tu draw i Damascus.”

— yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, sef yr un sy'n cael ei alw y Duw holl-bwerus.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity