Yn ôl

Amos

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Pennod 8

Basged o Ffigys Aeddfed

1 Dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn dangos hyn i mi: basged yn llawn ffigys aeddfed. 2 A gofynnodd i mi, “Beth wyt ti'n weld, Amos?” Dyma finnau'n ateb, “Basged yn llawn ffigys aeddfed”. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Mae'r diwedd wedi dod ar fy mhobl Israel. Dw i ddim yn mynd i faddau iddyn nhw eto. 3 Bydd y merched sy'n canu yn y palas yn udo crïo ar y diwrnod hwnnw — fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn: Bydd cymaint o gyrff marw yn gorwedd ym mhobman! Isht!”

Mae ar ben ar Israel

4 Gwrandwch ar hyn, chi sy'n sathru'r gwan,

ac eisiau cael gwared â phobl dlawd yn y wlad.

5 Chi sy'n mwmblan i'ch hunain,

“Pryd fydd Gŵyl y lleuad newydd drosodd? —

i ni gael gwerthu'n cnydau eto.

Pryd fydd y dydd saboth drosodd? —

i ni gael gwerthu'r ŷd eto.

Gallwn godi pris uchel am bwysau prin,

a defnyddio clorian sy'n twyllo.

6 Gallwn brynu am arian bobl dlawd sydd mewn dyled,

a'r rhai sydd heb ddigon i dalu am bâr o sandalau.

Gallwn gymysgu'r gwastraff gyda'r grawn!”

7 Mae'r ARGLWYDD yn tyngu i'w enw ei hun, Balchder Jacob:

“Wna i byth anghofio beth maen nhw wedi ei wneud.”

8 Felly bydd y ddaear yn ysgwyd o achos hyn

a phawb sy'n byw arni yn galaru.

Bydd y ddaear gyfan yn codi fel yr Afon Nil;

yn chwyddo ac yna'n suddo fel yr Afon yn yr Aifft.

9 “A'r diwrnod hwnnw,”

— fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn —

“bydda i'n gwneud i'r haul fachlud ganol dydd,

a bydd y wlad yn troi'n dywyll yng ngolau dydd.

10 Bydda i'n troi eich partïon yn angladdau

a'ch holl ganeuon yn gerddi galar.

Bydda i'n rhoi sachliain amdanoch chi,

a bydd pob pen yn cael ei siafio.

Bydd fel y galaru pan mae rhywun wedi colli unig fab;

fydd y cwbl yn ddim byd ond un profiad chwerw.

11 “Gwyliwch chi! mae'r amser yn dod”

— fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn —

“pan fydda i'n anfon newyn drwy'r wlad.”

Dim newyn am fara neu syched am ddŵr,

ond awydd gwirioneddol i glywed neges yr ARGLWYDD.

12 Bydd pobl yn crwydro o Fôr y Canoldir yn y gorllewin

i'r Môr Marw yn y de,

ac o'r gogledd i'r dwyrain,

er mwyn cael clywed neges yr ARGLWYDD,

ond byddan nhw'n methu.

13 Bryd hynny, bydd merched ifanc hardd a dynion ifanc cryf

yn llewygu am fod syched arnyn nhw —

14 Y rhai sy'n tyngu llw i eilun cywilyddus Samaria,

ac yn dweud, “Fel mae dy dduw di yn fyw, Dan!”

neu “Fel mae'r un cryf sydd ynot ti yn fyw Beerseba!” —

byddan nhw'n syrthio, a byth yn codi eto.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity